Diogelwch eich hun rhag sgamiau
Mae’n bosibl cymryd camau syml i leihau’r nifer o gynigion rydych yn eu derbyn trwy’r post, dros y ffôn neu drwy’r e-bost. Bydd gwneud y pethau hyn yn ei wneud yn anoddach i sgamwyr eich cyrraedd a bydd yn rhoi’r hyder i chi drin y cynigion rydych yn eu derbyn gyda gofal ychwanegol.
Post
Mae’n bosibl lleihau’r nifer o lythyrau na ofynnwyd amdanynt rydych yn eu derbyn yn rhad ac am ddim trwy gofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Post.
Galwadau ffôn
Mae’n bosibl lleihau’r nifer o alwadau ffôn na ofynnwyd amdanynt rydych yn eu derbyn trwy:
- Gofrestru eich rhif ffôn yn rhad ac am ddim gyda’r Gwasanaeth Dewis Ffôn.
- Ofyn i’ch cwmni ffôn atal unrhyw alwadau o rifau sydd wedi’u celu.
Negeseuon testun/SMS
Mae’n bosibl lleihau’r nifer o negeseuon testun/SMS nas archebwyd rydych yn derbyn trwy:
- Gofrestru eich rhif ffôn symudol yn rhad ac am ddim gyda’r Gwasanaeth Dewis Ffôn.
- Sicrhau eich bod yn gwybod sut bydd eich rhif ffôn yn cael ei ddefnyddio cyn ei ddatgelu wrth unrhyw un.
- Os rydych yn derbyn gwasanaeth testun/SMS nad ydych ei eisiau, anfonwch ateb yn cynnwys y gair STOP. Dylai’r gwasanaeth ddod i ben ar unwaith.
- Am fwy o wybodaeth neu i wneud cwyn, cysylltwch â’ch rhwydwaith neu PhonepayPlus.
E-bost
Mae’n bosibl lleihau’r nifer o e-byst na ofynnwyd amdanynt trwy osod meddalwedd wrth-spam a wal dân ar eich cyfrifiadur, a’u diweddaru yn rheolaidd. Am fwy o wybodaeth, gweler Get Safe Online.

