Diogelwch eich hun rhag sgamiau
Don’t let the scammers con you. Follow these tips to avoid getting tricked out of your money.
Peidiwch â gadael y sgamwyr eich twyllo. Dilynwch yr awgrymiadau hyn i osgoi cael eich twyllo o’ch arian.
Byddwch yn amheugar
Yn bennaf oll, cofiwch, os yw’n ymddangos ei fod yn gynnig rhy dda i fod yn wir, bron bob tro, y mae yn rhy dda i fod yn wir. Peidiwch ag ofni ei roi yn y bin sbwriel, i’w ddileu neu i ddod â’r galwad ffôn i ben.
Pwyll piau hi
Peidiwch â theimlo o dan bwysau i wneud penderfyniad ar unwaith. Ystyriwch ofyn i gyfaill neu aelod o’ch teulu am gyngor, neu gyfrifydd neu gyfreithiwr hyd yn oed os oes swm mawr o arian yn y fantol. Darllenwch y print mân a gwnewch yn siwr eich bod yn deall holl delerau ac amodau’r cynnig.
Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pwy rydych yn ymdrin â hwy
Gwiriwch fod y cwmni neu’r sefydliad rydych yn ymdrin ag ef yn gyfreithlon ac yn gyfrifol:
- Gofynnwch iddynt am fanylion cyswllt llawn gan gynnwys cyfeiriad stryd. Dylai gwefan cwmni gynnwys cyfeiriad stryd llawn ar gyfer y busnes nid rhif blwch Swyddfa Post neu rif blwch post yn unig.
- Cysylltwch â hwy gan ddefnyddio manylion o’u gwefan neu eu dogfennau swyddogol. Byddwch yn wyliadwrus rhag prynu oddi wrth unrhyw un sy’n rhoi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol yn unig.
- Rhowch enw’r cwmni mewn chwilotwr rhyngrwyd er mwyn gweld pa wybodaeth a geir.
- Chwiliwch amdanynt ar wefan Tŷ’r Cwmnïau er mwyn gwirio a ydynt yn gwmni cofrestredig.
- Os ydych wedi derbyn llythyr neu ddogfennau eraill drwy’r post, gwiriwch a ydynt wedi dod oddi wrth aelod o’r Gymdeithas Farchnata Uniongyrchol.
- Os ydych yn cael cynnig gwasanaethau ariannol, ceisiwch ddarganfod os ydynt wedi’u cofrestru gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) gan ddefnyddio eu cofrestr.
- Peidiwch â chael eich twyllo gan wefannau a deunyddiau marchnata sy’n edrych i bob golwg yn broffesiynol. Mae sgamwyr yn dda wrth wneud eu sgamiau i edrych yn ddilys.
Diogelwch eich gwybodaeth ariannol
- Peidiwch byth â rhoi manylion eich cyfrif banc i rywun nad ydych yn eu hadnabod.
- Ewch i wefan Card Watch am awgrymiadau ar gyfer diogelu eich hun rhag twyll cardiau credyd a chardiau debyd.
Diogelwch eich hun ar-lein
- Dilynwch gyngor sylfaenol ar gyfer siopa a bancio ar-lein yn ddiogel. Darllenwch ganllawiau Get Safe Online a chanllawiau Bank Safe Online.
- Yn arbennig, peidiwch byth ag anfon neges e-bost at rywun sy’n cynnwys eich gwybodaeth ariannol – hyd yn oed os ydych yn eu hadnabod.
Defnyddiwch gerdyn credyd
Os gallwch, talwch â cherdyn credyd. O dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr, dylai fod hawl gennych i gael ad-daliad gan y cwmni a roddodd y cerdyn i chi os collasoch arian trwy dwyll - os oedd pris un eitem yn fwy na £100.
Lleihau llythyrau a galwadau ffôn sothach
Cymerwch rai camau syml i leihau nifer y cynigion nas archebwyd rydych yn eu derbyn.
Gofynnwch am gyngor a rhowch wybod amdani
Os ydych yn amau eich bod wedi cael eich twyllo gan sgiâm, peidiwch â bod yn chwithig neu’n ofnus rhag ceisio cyngor neu roi gwybod amdani. Mae miliynau o bobl yn cael eu twyllo bob blwyddyn. Ffoniwch Cyswllt Defnyddwyr am gyngor ar 08454 04 05 06 neu rhowch wybod i ni am y sgiâm.

