Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Mae twyll gweithio gartref yn hysbysebion sy’n addo incwm mawr am ychydig iawn o waith - er enghraifft llenwi amlenni, rhoi crefftau at ei gilydd, neu dasgau eraill. Mae’r hysbysebion yn cynnwys honiadau tebyg - arian cyflym, ychydig yn unig o waith, dim perygl a’r fantais o weithio gartref pan fydd yn gyfleus i chi.

Dydy’r hysbysebion ddim yn dweud y gall fod rhaid ichi weithio oriau hir iawn heb dâl, neu dalu costau cudd am osod hysbysebion yn y papurau, gwneud llungopïau, neu brynu cyflenwadau, meddalwedd, neu offer er mwyn gwneud y gwaith. Ar ôl i chithau roi o’ch amser a’ch arian eich hun, efallai y bydd y trefnwyr yn gwrthod eich talu, gan honni nad yw’ch gwaith yn ddigon da i fodloni eu 'safonau ansawdd’. Neu gallech weld nad oes gwaith ar gael, dim ond comisiwn am gael pobl eraill i ymuno â’r cynllun.

Dylai hyrwyddwyr gwaith cartref dilys ddweud wrthoch chi ar bapur beth yn union sydd dan sylw yn y rhaglen. Cyn ichi dalu dim arian, mynnwch wybod:

  • pa dasgau y bydd rhaid ichi eu cyflawni
  • a fyddwch yn cael cyflog neu’n gweithio ar sail comisiwn
  • pwy fydd yn eich talu
  • pryd y cewch chi’ch taliad cyntaf
  • cyfanswm cost y rhaglen (gan gynnwys cyflenwadau, offer a ffioedd aelodaeth)
  • beth gewch chi am eich arian
  • a allwch chi gadarnhau’r wybodaeth gyda’r gweithwyr presennol?
     

 


 


"Nôl i'r brig

Did you know

Efallai y bydd manwerthwyr nwyddau trydan yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig ichi. Os prynwch chi un, mae gennych chi 45 diwrnod i newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >