Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Fel arfer, bydd cynlluniau colli pwysau yn dod ar ffurf neges e-bost, sy’n addo tabled, clwt, eli neu gynnyrch chwyldroadol arall a fydd yn arwain at golli pwysau heb ddeiet a heb ymarfer corff. Mae rhai cynhyrchion yn honni eu bod yn atal braster, carbohydradau neu galorïau rhag cael eu hamsugno neu’n addo bod pwysau’n cael eu colli’n barhaol ac mae rhai yn awgrymu y byddwch yn colli pwysau yn hynod o gyflym.

Twyll yw pob un o’r rhain: does dim byd ar gael drwy’r e-bost ichi ei wisgo neu ei roi ar eich croen ac sy’n peri ichi golli pwysau yn barhaol, na hyd yn oed colli pwysau sylweddol.

Mae’r arbenigwyr yn cytuno mai’r ffordd orau i golli pwysau yw bwyta llai o galorïau a gwneud mwy o ymarfer corff er mwyn ichi losgi mwy o egni. Does dim cynhyrchion ar gael sy’n gallu dileu braster ar unwaith, a dylech ymgynghori â gweithiwr iechyd proffesiynol cyn prynu unrhyw gynhyrchion colli pwysau.
 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os ydych chi wedi talu am nwyddau a gwasanaethau ar gerdyn credyd, a’ch bod wedi gwario mwy na £100, efallai y bydd y cwmni credyd yr un mor gyfrifol am nwyddau diffygiol, gwaith o ansawdd wael neu wasanaethau annigonol.

Rhagor o Wybodaeth >