Twyll
Mae sawl math o dwyll yn y categori yma, fel cynlluniau masnachu ffug, llythyrau cadwyn, rhestrau postio neu ‘glybiau’ gwneud arian. Weithiau, bydd cynllun yn amlygu nodweddion mwy nag un math o dwyll. Ond, fel pob twyll arall, y nod yw cael arian oddi wrth bobl anwyliadwrus, a hynny drwy gynnig y cyfle i wneud llawer o arian yn gyflym.
anchor[Colli arian]Colli arian
Un peth sy’n gyffredin yn y twyllau yma yw hyn: er mwyn i bob un sy’n cymryd rhan gael yr arian sy’n cael ei gynnig, byddai angen cyflenwad di-ben-draw o bobl newydd i gymryd rhan. Yn ymarferol, mae hyn yn amhosibl, ac felly mae’r cynlluniau yn gorfod methu yn y diwedd, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi cymryd rhan yn colli eu harian.
anchor[Cynlluniau masnachu]Cynlluniau masnachu
Mae Cynlluniau Masnachu (sydd hefyd yn cael eu disgrifio fel cynlluniau gwerthu uniongyrchol, marchnata drwy rwydwaith, marchnata aml-lefel ac enwau eraill) yn fath cyfreithlon o weithgarwch busnes ac maen nhw’n cynnig cyfle i unigolion ennill arian drwy werthu nwyddau neu wasanaethau’r cynllun o’u cartref. Mewn rhai cynlluniau, gall y rhai sy’n cymryd rhan ennill comisiwn ychwanegol drwy recriwtio pobl eraill i’r cynllun a thrwy werthiant y bobl y maen nhw wedi’u recriwtio.
Er hynny, mae’n rhaid i gynlluniau masnachu gydymffurfio â’r darpariaethau yn Rhan XI o’r Ddeddf Masnachu Teg fel y mae wedi’i diwygio gan Ddeddf Cynlluniau Masnachu 1996 a Rheoliadau Cynlluniau Masnachu 1997.
Mae Cynlluniau Masnachu’n troi’n anghyfreithlon pan fyddan nhw’n honni eu bod yn masnachu nwyddau neu wasanaethau, ond yn anelu mewn gwirionedd at wneud arian drwy recriwtio pobl newydd i gymryd rhan.
Mae hyn yn aml yn cael ei grybwyll fel "gwerthu pyramidaidd" (ond nid “gwerthu pyramidaidd “ yw pob cynllun "pyramidaidd"). Sylwch nad yw gwobrau am recriwtio yn anghyfreithlon fel y cyfryw. Ond mae hi’n anghyfreithlon perswadio rhywun mai ennill elw drwy recriwtio pobl eraill yw’r prif gymhelliant dros ymuno â chynllun, neu gymryd arian oddi wrth rywun ar sail cymhelliant o’r fath.
Mae’r Adran Masnach a Diwydiant wedi cyhoeddi llyfryn o ganllawiau ''The Trading Scheme Guide'' sy’n amlinellu darpariaethau’r ddeddfwriaeth gyfredol. Mae’r llyfryn yn cynnwys y cwestiynau pwysig hyn, er mwyn i bawb sy’n meddwl cymryd rhan eu hystyried:
- Ydw i’n deall beth sy’n cael ei gynnig imi?
- Ydw i’n gwybod faint y bydd rhaid imi ei dalu?
- Ydw i’n deall mai cyfle am hunangyflogaeth yw hwn, ac y bydd yr enillion yn dibynnu ar y farchnad ac ar f’ymdrechion i?
- Oes galw am gynhyrchion y cynllun, ac ydw i’n gallu eu hargymell nhw yn onest i bobl eraill?
- Er bod gen i hawl gyfreithiol i gael contract, ydw i’n deall mai fi fydd yn gorfod ceisio gorfodi fy hawliau os aiff rhywbeth o’i le?
- Ydw i’n fodlon cymryd y risg?
- Ddylwn i ofyn am gyngor annibynnol cyn ymuno? (Dydy’r ffaith bod cynllun yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddim yn golygu bod y cynllun yn un sy’n ymarferol o safbwynt masnachol. Dylai darpar aelodau ofyn am gyngor busnes a chyngor cyfreithiol annibynnol a phroffesiynol cyn llofnodi unrhyw gontract.)
anchor[Cynlluniau pyramidaidd a chynlluniau anrhegion cadwyn]Cynlluniau pyramidaidd a chynlluniau anrhegion cadwyn
Dydy mathau eraill o gynllun pyramidaidd ddim yn honni eu bod yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau ond maen nhw’n gwerthu addewidion ffug bod arian ar gael yn hawdd ac yn gyflym. Gall y rhain gael eu hysbysebu yn y papurau newydd, drwy’r Rhyngrwyd, cyfarfodydd 'buddsoddi’ neu gallech glywed amdanyn nhw drwy berthynas neu ffrind.
Mewn cynllun pyramidaidd nodweddiadol, maen nhw’n gofyn i’r darpar aelod dalu i ymuno â’r cynllun. Yr unig ffordd i symud ymlaen yw recriwtio pobl eraill, sydd hefyd yn talu i ymuno. Os bydd digon o aelodau’n ymuno, bydd y pyramid yn tyfu a bydd rhai o’r aelodau, hynny yw y rhai sy’n ymuno yn ddigon cynnar, yn gallu gwneud arian. Ond, er mwyn i bob aelod wneud arian, byddai angen cyflenwad diddiwedd o aelodau newydd. Mewn gwirionedd, hyn a hyn o aelodau newydd sydd ar gael, ac felly mae siawns pob aelod newydd o recriwtio pobl eraill yn llai, a’u siawns o golli arian yn fwy.
Ers Deddf Gamblo 2005, mae’n dramgwydd i berson wahodd rhywun i ymuno â chynllun anrhegion cadwyn neu iddyn nhw gymryd rhan yn wybodus wrth hybu, gweinyddu neu reoli cynllun anrhegion cadwyn.
anchor[Pam dydy cynlluniau anrhegion cadwyn/cynlluniau pyramidaidd ddim yn gallu gweithio i’r mwyafrif o’r aelodau]Pam dydy cynlluniau anrhegion cadwyn/cynlluniau pyramidaidd ddim yn gallu gweithio i’r mwyafrif o’r aelodau
Pe bai wyth o bobl yn buddsoddi £3,000 yr un mewn cynllun ac yn symud ymlaen wedyn drwy lefelau’r pyramid, byddai pob un yn disgwyl cael £24,000 wrth gyrraedd y brig. Er mwyn i bob un o’r wyth gael y swm hwnnw, fe fyddai angen cael 64 o bobl i gyd i fuddsoddi £3000 yr un.
Byddai pob un o’r 64 o fuddsoddwyr yn disgwyl casglu eu £24,000 hefyd, ond byddai hynny’n golygu bod angen i 512 o bobl fuddsoddi. Byddai ar y buddsoddwyr nesaf angen 4,096 o aelodau, wedyn 32,768 o aelodau, wedyn 262,144 o aelodau ac yn y blaen. Mewn termau syml, mae ar bob aelod o’r cynllun angen wyth aelod arall er mwyn cael eu harian yn ôl a gwneud elw.
Bydd y cyflenwad buddsoddwyr posibl yn sychu, a bydd y mwyafrif o aelodau’r cynllun wedi talu swm mawr heb gael dim byd yn ôl amdano.
anchor[Llythyrau anrhegion cadwyn]Llythyrau anrhegion cadwyn
Gallai llythyr cadwyn nodweddiadol ddechrau fel hyn:
Annwyl Mr Smith,
Rydych chi newydd gael gwybodaeth a allai sicrhau rhyddid ariannol ichi am weddill eich oes. Heb DDIM RISG a heb FAWR O YMDRECH, gallwch chi wneud mwy o arian yn yr ychydig fisoedd nesaf nag ydych chi wedi’i ddychmygu erioed!
Dylwn i ddweud na fydda i ddim yn gweld yr un geiniog o’ch arian, nac arian pobl eraill sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yma chwaith. Rydw i wedi gwneud dros £150,000 yn barod! Rydw i wedi ymddeol o’r rhaglen bellach, ar ôl anfon dros 20,000 o lythyrau i wahodd pobl i gymryd rhan yn y ffenomen.
Yn gywir …
Mae llythyrau anrhegion cadwyn fel arfer yn cael eu cylchredeg gydag enwau a chyfeiriadau’r "aelodau presennol " arnyn nhw. Mae’r sawl sy’n cael y llythyr yn cael gwahoddiad i anfon swm o arian at o leiaf un o’r bobl ar y rhestr enwau ac wedyn ychwanegu eu henw eu hunain at y rhestr cyn ei llungopïo a’u hanfon ymlaen at bobl eraill. Ond mae’r manylion yn amrywio, o ran cyflwyniad y llythyr. Yn achos yr enghraifft uchod, cafodd y rhai a anfonodd arian ‘gynlluniau busnes’ arwynebol ac felly roedd y cynllun yn honni ei fod yn gwerthu rhywbeth, er mai un ffug oedd e.
Mae miloedd o lythyrau cadwyn ffug yn cael eu hanfon bob dydd i gartrefi, cyfeiriadau e-bost neu ffonau symudol. Gall rhai llythyrau cadwyn barhau yn ddigyfnewid bron am rai blynyddoedd. Yn anffodus, mae bron yn amhosibl dod o hyd i’r ddolen gyntaf yn y gadwyn fel arfer.
Efallai y bydd cynlluniau pyramidaidd neu gynlluniau llythyrau cadwyn yn cael eu cyflwyno fel gemau gydag enwau fel Gêm Concorde neu Gêm yr Awyrennau. Mae’r rhain yn cynnwys pyramid o aelodau ac 'awyren' sydd â pheilot, dau gyd-beilot, criw o bedwar ac wyth o deithwyr. Bydd y 'peilot' yn recriwtio teithwyr i gymryd rhan yn y cynllun. Bydd pob teithiwr yn talu swm o arian er mwyn cael 'hedfan’. Wedyn mae’r peilot yn ymadael gyda chyfraniadau’r ‘teithwyr’ ac mae’r cynllun yn ymrannu’n ddau, a’r ddau gyd-beilot yn dod yn gapteiniaid ar eu hawyrennau eu hunain. Mae eu tro nhw i wneud arian wedi dod. Ond, fel pob cynllun pyramid arall, mae’n rhaid cael cyflenwad diddiwedd o aelodau, neu ‘deithwyr’, i dalu, ac mae’n anochel bod yr awyren am blymio i’r ddaear, a hynny yn fuan iawn.
anchor[Gair i gall]Gair i gall
- Cadwch draw o gynlluniau sy’n cynnig comisiwn ar sail recriwtio aelodau newydd yn unig.
- Byddwch yn ofalus pan welwch chi honiad y byddwch yn gwneud arian drwy dwf parhaus neu drwy gomisiwn ar werthiant y dosbarthwyr y byddwch chi’n eu recriwtio, yn hytrach nag ar sail eich gwerthiant chi’ch hun.
- Byddwch yn effro i dystlythyrau ffug. Bydd rhai hyrwyddwyr yn talu pobl i roi disgrifiad ffug o’u llwyddiant yn ennill arian drwy’r cynllun. Gofynnwch am dystiolaeth gadarn yn hytrach na thystlythyr disglair.
- Peidiwch byth â rhoi arian na llofnodi contract i gymryd rhan mewn cynllun marchnata aml-lefel nes ichi ymchwilio iddo. Mynnwch gael cyngor proffesiynol annibynnol.
- Peidiwch â chytuno i wneud dim (na llofnodi dim) mewn cyfarfodydd neu seminarau o dan bwysau mawr.
Cofiwch, peidiwch â chredu honiadau fel:
- “Bydd eich recriwtiaid yn gwneud y gwaith i gyd drosoch chi. Y cyfan wnewch chi yw eistedd yn ôl a rhoi’r arian yn y banc.”
- “Y cyfan mae ei angen i sicrhau cyfoeth yw eich pecyn dechrau £XX.”
- “Ymunwch â’r diwydiant cyflymaf ei dwf yn y byd, 'Marchnata drwy Rwydwaith’.”
- “Gallwch chi a’ch ffrindiau fwynhau cyfoeth gyda’ch gilydd.”
- “Roeddwn i’n ddi-waith ac mewn dyled cyn imi ddod o hyd i’r cyfle yma."
- “Gwnes i £XXXX mewn XX diwrnod. Rwy’n gwarantu y byddwch chi’n gwneud yr un fath.”
Cofiwch:
- Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod e.
- Mae pob cynllun lle bydd arian yn newid dwylo yn dod o dan y gyfraith droseddol gyffredinol ar dwyll a lladrad. Dylech dynnu sylw’r heddlu at unrhyw dystiolaeth bod tramgwydd troseddol wedi’i gyflawni.

