Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Mae twyll cyfraddau ffôn premiwm yn gweithio drwy’ch temtio i alw ffôn cyfradd premiwm, drwy addo gwobr na fydd yn cyrraedd byth. Hiraf yn y byd y byddwch chi ar y ffôn, mwyaf o arian y bydd y twyllwyr yn ei gymryd oddi arnoch chi.

anchor[Sut mae’n gweithio?]Sut mae’n gweithio?

Weithiau bydd twyllwyr yn defnyddio rhifau 090 i gael eich arian. Mae’r mathau yma o dwyll yn cynnwys cynigion ffug ar gyfer gwobrau a gwyliau. Maen nhw’n aml yn dechrau pan fydd y twyllwr yn anfon llythyr, neges destun neu neges ffôn i honni’ch bod chi wedi ennill gwobr fawr, gan ofyn ichi ffonio rhif penodol.

Efallai y byddan nhw’n addo gwobr ariannol fawr neu wyliau moethus, ond fe allech orffen gydag eitem fach dila sy’n werth llai na chost yr alwad, neu ddim byd o gwbl heblaw bil ffôn anferth.

Os byddwch yn ffonio, efallai y bydd rhaid ichi wrando ar neges faith wedi’i recordio. Cofiwch, hiraf yn y byd y byddwch chi ar y ffôn, mwyaf yn y byd fydd cost yr alwad.

anchor[Cynghorion ar osgoi twyll cyfraddau premiwm]Cynghorion ar osgoi twyll cyfraddau premiwm

  • Cofiwch fod rhifau ffôn cyfradd premiwm yn golygu talu fesul munud, a bod y tâl yn uwch o lawer fel rheol na chost galwad leol neu alwad safonol
  • Peidiwch â deialu rhif cyfradd premiwm oni bai eich bod yn gwbl sicr faint fydd y gost a’ch bod yn fodlon ei thalu
  • Byddwch yn ofalus os byddwch yn clywed neges, ar ôl ichi ffonio un rhif 090, yn gofyn ichi ffonio rhif 090 arall 
  • Darllenwch brint mân unrhyw gynnig bob amser, i gael gwybod am unrhyw amodau a chostau cudd a gwybod beth yn union rydych chi’n debyg o’i gael


anchor[Enghreifftiau o dwyll cyfraddau ffôn premiwm]Enghreifftiau o dwyll cyfraddau ffôn premiwm

Rydych chi wedi ennill gwobr wych

Rydych yn cael llythyr neu neges destun neu neges ffôn, heb ofyn amdanyn nhw, sy’n dweud eich bod wedi ennill gwobr fawr fel arian parod, car neu wyliau moethus, neu 'wobr ddirgel sy’n werth o leiaf £1,000'. Mae’r neges yn dweud bod rhaid ichi ffonio ar frys ar rif 090 sy’n costio £1.50 y funud i gael gwybod beth yw’r wobr.

Yn aml, fydd dim gwobr ar gael neu mae’r wobr rydych chi wedi’i hennill wedi’i disgrifio’n anghywir a’r cyfan gewch chi yw llyfryn diwerth bron o dalebau i gael gostyngiadau, neu daleb ar gyfer gwyliau, ac amodau caeth ynghlwm â hi. Yn aml bydd rhaid ichi dalu mwy o arian eto i gael defnyddio’r 'wobr', yn ychwanegol at gost yr alwad cyfradd premiwm.

Derbyn parsel

Bydd cerdyn neu lythyr yn cyrraedd yn gofyn ichi ffonio rhif cyfradd premiwm er mwyn trefnu derbyn parsel sy’n aros amdanoch. Mae’r cerdyn yn edrych fel y cardiau arferol i ddweud bod rhywun wedi galw pan oeddech chi allan sy’n cael eu defnyddio gan sefydliadau sy’n anfon parseli. Rydych chi’n cael eich camarwain i gredu eich bod wedi archebu rhywbeth neu fod rhywbeth wedi’i anfon atoch chi gan rywun rydych chi’n ei adnabod. Mae’r hyn a gewch chi yn debyg o fod yn werth llai na chost yr alwad cyfradd premiwm.

Meddalwedd sy’n deialu rhifau cyfradd premiwm dros y rhyngrwyd

Mae’r twyllwyr hyn yn mynd ati’n gyfrinachol i lawrlwytho meddalwedd feirws sy’n trosglwyddo cysylltiadau’r rhyngrwyd o ddeialu am gost isel neu am ddim i ddeialu rhifau 090 ar gyfradd premiwm costus.

Mae meddalwedd deialu’r twyllwr yn cael ei gosod ar eich cyfrifiadur yn ddiarwybod i chi, wrth ichi agor neges sbam fel arfer neu wrth ichi edrych ar wefan lle mae’r feddalwedd wedi’i chuddio.  Gall hyn greu biliau anferth ichi – rhai cannoedd o bunnoedd y mis yn aml.

Mae rhywun yn eich ffansïo

Fe allech chi gael neges destun ddieisiau sy’n dweud bod rhywun yn eich ffansio. Er mwyn gwybod pwy, bydd y neges yn gofyn ichi ymateb i rif ffôn cyfradd premiwm. Ond y cyfan yw hyn yw ffordd i’ch cael chi i wario’ch arian.
 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi rywbeth sy’n werth mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw yn eich tŷ heb wahoddiad, mae gennych chi saith diwrnod i ganslo’ch archeb.

Rhagor o Wybodaeth >