Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Gall defnydd a chost uchel rhifau ffôn premiwm fod yn un o nodweddion canolog twyll o’r fath. Bydd twyllwyr yn defnyddio’r rhifau hyn i gyflawni sawl gwahanol fath o dwyll. Mae’r rhain yn cynnwys cystadlaethau, gwobrau a gwyliau ffug, yn ogystal â hybu twyllodrus ar gyfer cardiau credyd. Hiraf yn y byd y byddwch chi ar y ffôn, mwyaf yn y byd y bydd enillion y twyllwr

anchor[Addewidion ffug]Addewidion ffug

Gall y twyll ddechrau drwy eich hysbysu drwy lythyr, dros y ffôn neu drwy ryw ddull arall eich bod wedi ennill rhywbeth neu wedi dod yn gymwys i gael cerdyn credyd. Efallai y byddan nhw’n addo rhyw gynnyrch neu wasanaeth ichi, ond mae’r hyn a gewch mewn gwirionedd, os rhywbeth o gwbl, yn debyg o fod yn siomedig.

Os ydych chi’n galw i gael cerdyn credyd, hwyrach mai’r cyfan a gewch fydd rhestr o fanciau lle gallwch wneud cais am gerdyn. Os dywedir wrthych am ffonio oherwydd eich bod wedi ennill gwobr, chewch chi ddim oll ar wahân i fil ffôn trwm iawn!

Gallech ffonio’r rhif a gorfod gwrando ar neges werthu hir wedi’i recordio ymlaen llaw, neu ateb rhes hir o gwestiynau. Cofiwch, hiraf yn y byd y daliwch y llinell, mwyaf yn y byd y byddwch yn gorfod talu am yr alwad.

Mae’n bosib hyd yn oed y cewch eich cyfeirio at rif ffôn arall ar gyfradd premiwm, i gael gwybodaeth ychwanegol neu hawlio’ch gwobr neu archebu’r cynnyrch neu’r gwasanaeth.

anchor[Gair i gall:]Gair i gall:

  • Rhaid talu fesul munud am alwadau ffôn ar gyfradd premiwm, ac mae hynny fel arfer yn ddrutach o lawer na chost galwad leol neu alwad STD.
  • Peidiwch â deialu’r rhifau hyn oni bai eich bod yn gwbl sicr faint a gaiff ei godi arnoch a’ch bod yn fodlon talu.
  • Ar ôl deialu un o’r rhifau hyn, byddwch yn ofalus os clywch chi neges yn gofyn ichi ddeialu rhif arall.
  • Ymchwiliwch i’r sefydliad ryw ychydig os nad ydych erioed wedi clywed amdanyn nhw, ac ymddiriedwch yn eich synnwyr cyffredin eich hun.
  • Gallwch bob amser roi’r ffôn i lawr.


anchor[Pwyllgor Annibynnol Goruchwylio Safonau Gwasanaethau Gwybodaeth Ffôn (ICSTIS) ]Pwyllgor Annibynnol Goruchwylio Safonau Gwasanaethau Gwybodaeth Ffôn (ICSTIS) 

ICSTIS yw’r corff rheoleiddio, sy’n cael ei ariannu gan y diwydiant, ar gyfer yr holl wasanaethau telathrebu sy’n codi cyfraddau premiwm. Diben ICSTIS yw sefydlu, cynnal a sicrhau cydymffurfedd â safonau priodol i ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau gwybodaeth a gwasanaethau hamdden cyfraddau premiwm ac, wrth wneud hynny, cyfrannu at ddatblygu’r diwydiant. Gall ymchwilio i gŵynion ac mae ganddo bŵer i ddirwyo cwmnïau a gwahardd cysylltiad â gwasanaethau. Hefyd, mae’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd am ddim i ddarparwyr gwasanaethau presennol a gwasanaethau newydd.

Gall defnyddwyr gyflwyno cwyn ar-lein drwy lenwi’r ffurflen gwyno ar-lein neu fel arall gallan nhw ffonio, anfon ffacs neu ysgrifennu at ICSTIS fel a ganlyn:

ICSTIS
FREEPOST
WC 5468
London SE1 2BR
Ffôn: 0800 500 212

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn y misoedd cyntaf ar ôl ei phrynu, dylech fynd nôl at y manwerthwr a’i gwerthodd i chi (nid at y gweithgynhyrchydd).

Rhagor o Wybodaeth >