Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Mae rhwyd-dwyllo yn golygu bod negeseuon e-bost neu ffenestri powld yn codi ac yn honni eu bod oddi wrth fusnes neu sefydliad rydych chi’n ymwneud â nhw, er enghraifft, darparwr gwasanaethau ryngrwyd, banc neu wasanaeth taliadau ar-lein. Gallai’r neges ofyn ichi ‘ddiweddaru’ gwybodaeth am eich cyfrif, ei ‘dilysu’ neu ei ‘chadarnhau’.

Mae’r neges yn eich cyfeirio at wefan sy’n edrych yn union fel gwefan sefydliad dilys. Ond gwefan ffug yw hon. Dim ond er mwyn eich twyllo chi i ddatgelu gwybodaeth bersonol y mae’n bodoli, a hynny er mwyn i’r twyllwyr ddefnyddio’ch manylion adnabod.

Peidiwch byth ag ymateb i neges e-bost neu ffenestr bowld sy’n gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu’ch gwybodaeth ariannol, a pheidiwch â chlicio ar y dolenni yn y neges. Peidiwch â thorri a gludo dolen o’r neges i’r porwr gwe - gall y rhwyd-dwyllwyr wneud dolenni sy’n edrych fel pe baen nhw’n mynd i wefan ddilys, ond mewn gwirionedd i wefan sy’n edrych yr un fath y maen nhw’n mynd. Os ydych yn gofidio am eich cyfrif, cysylltwch â’r sefydliad drwy ddefnyddio rhif ffôn y gwyddoch ei fod yn ddilys, neu dechreuwch sesiwn pori newydd a theipio cyfeiriad gwe cywir y cwmni eich hun. Mae hefyd yn help defnyddio meddalwedd atal feirws a mur gwarchod, a’u cadw’n gyfoes.
 


"Nôl i'r brig

Did you know

Efallai y bydd manwerthwyr nwyddau trydan yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig ichi. Os prynwch chi un, mae gennych chi 45 diwrnod i newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >