Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Bydd cwmnïau’n honni eich bod wedi ennill cymhwyster ymlaen llaw i gael benthyciad neu gerdyn credyd am gost isel, neu i adfer eich credyd gwael er bod y banciau wedi’ch gwrthod. Ond, er mwyn manteisio ar y cynnig, mae’n rhaid ichi dalu ffi brosesu o rai cannoedd o bunnoedd.

Mae cynnig dilys sy’n rhoi cymhwyster ymlaen llaw yn golygu eich bod wedi cael eich dewis i wneud cais. Mae’n dal yn rhaid ichi lenwi cais, ac mae’n dal yn bosibl ichi gael eich gwrthod.


Peidiwch â thalu am addewid. Fydd benthyciwr dilys byth yn 'gwarantu' cerdyn neu fenthyciad cyn ichi wneud cais. Efallai y byddan nhw’n gofyn ichi dalu ffi gwneud cais, ffi asesu, neu ffi am adroddiad credyd, ond fel arfer fyddan nhw ddim yn gofyn am y rhain cyn i’r benthyciwr gael ei enwi a chyn i’r cais gael ei gwblhau. Ar ben hynny, mae’r ffioedd yn cael eu talu fel rheol i’r benthyciwr, ac nid i’r brocer neu’r person a drefnodd y benthyciad 'wedi’i warantu'.
 


"Nôl i'r brig

Did you know

Efallai y bydd manwerthwyr nwyddau trydan yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig ichi. Os prynwch chi un, mae gennych chi 45 diwrnod i newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >