Twyll
Twyll cariadon ar-lein yw pan fydd twyllwr - dyn neu fenyw - yn creu proffil personol ffug ac yn cysylltu â chi drwy asiantaeth cariadon ar-lein neu hyd yn oed ystafell sgwrsio arbenigol. Mae’r twyllwyr yn dweud eu bod yn chwilio am gariad ond mewn gwirionedd maen nhw am gipio’ch arian ac nid eich calon.
anchor[Cymryd mantais]Cymryd mantais
Gall twyllwyr ymaelodi ag asiantaeth cariadon ar-lein neu ystafelloedd sgwrsio yn union fel pawb arall. Mae llawer o’r gwefannau i gariadon yn caniatáu i unrhyw un ymaelodi am ddim, a fyddan nhw ddim yn sgrinio’r aelodau fel arfer. Bydd twyllwyr yn manteisio ar y ffaith bod y rhyngrwyd yn ddienw i greu proffil rhywun sy’n berffaith i chi, gan wneud pob math o addewidion i’ch denu a’ch dal chi’n ddiamddiffyn.
anchor[Sut ydw i’n gwybod bod yna dwyll?]Sut ydw i’n gwybod bod yna dwyll?
Bydd y twyllwr yn gofyn am eich arian! Fydd hyn ddim yn digwydd ar unwaith ond cyn hir fe fydd y twyllwr yn gofyn am gymorth ariannol am bob math o resymau. Bron bob amser bydd y twyllwr yn gofyn ichi anfon arian drwy ddefnyddio dull nad oes modd ei olrhain, fel trosglwyddiad arian telegraffig. Mae’r rhesymau mwyaf cyffredin y maen nhw’n eu rhoi dros ofyn am eich cymorth yn cynnwys:
- Fe hoffwn i gwrdd â chi, ond does gen i ddim digon o arian ar gyfer y daith
- Mae rhywun wedi ymosod arna i a dwyn fy arian, mae arna i angen llawfeddygaeth neu driniaeth ar frys ar gyfer salwch difrifol neu rydw i neu aelod o’r teulu wedi dioddef damwain ddifrifol neu angheuol a chi yw’r unig un all helpu
- Dwi wedi cael fy nal dros y môr a does gen i ddim arian i deithio neu i dalu am fisa.
Dyma ragor o arwyddion: - Mae’ch cariad newydd yn edrych fel model - am fod y twyllwr wedi defnyddio llun o gylchgrawn mae’n debyg.
- Dim ond cyfeiriad swyddfa bost y mae’ch cariad newydd yn fodlon ei roi a/neu rif ffôn nad yw byth yn cael ei ateb ac nad oes peiriant ateb ar gael ar ei gyfer.
- Mae’ch cariad yn siarad lawer amdano’i hun neu amdani ei hun heb ateb eich cwestiynau chi - a hynny am eu bod nhw’n anfon negeseuon safonol at gannoedd o bobl yn ôl pob tebyg.
Sut mae amddiffyn fy hun? - Defnyddiwch wasanaeth cariadon neu wasanaeth sgwrsio dibynadwy yn unig a dilynwch y cynghorion sylfaenol ar gyfer cyfarfod â chariad ar-lein
- Byddwch yn wyliadwrus a gofynnwch gwestiynau syml i chi’ch hun, er enghraifft; 'pam mai dim ond fi sy’n gallu eu helpu nhw: newydd gyfarfod â nhw ydw i?'
- Rhowch brawf i’ch cariad – gofynnwch lawer o gwestiynau, ceisiwch eu ffonio nhw neu bostio rhywbeth atyn nhw neu efallai awgrymu cyfarfod. Os bydd popeth yn methu, mae’n debyg mai twyllwr sydd yna.
anchor[Beth galla i ei wneud os ydw i wedi colli arian yn barod?]Beth galla i ei wneud os ydw i wedi colli arian yn barod?
Os ydych chi wedi anfon arian yn barod, go brin y cewch chi ddim byd yn ôl byth.

