Twyll
Dyma negeseuon e-bost sy’n honni bod rhyw gynnyrch yn cynnig 'gwellhad gwyrthiol', 'darganfyddiad gwyddonol', 'moddion hynafol' - neu wellhad cyflym ac effeithiol ar gyfer amrywiaeth mawr o anhwylderau neu glefydau.
Fel rheol maen nhw’n dweud mai dim ond am gyfnod byr y maen nhw ar gael, gan ofyn am daliad ymlaen llaw, a chynnig 'gwarantu’ch arian yn ôl’ heb ddim risg. Yn aml mae portreadau neu dystlythyrau defnyddwyr neu feddygon yn cael eu defnyddio, a’r rheiny’n honni bod canlyniadau anhygoel wedi bod, ond anaml y maen nhw’n ddilys.
Does dim cynnyrch nac ychwanegiad deietegol ar gael drwy’r e-bost sy’n gallu gwireddu honiadau ynglŷn â lleihau tiwmorau, gwella insomnia, gwella analluedd rhywiol, trin clefyd Alzheimer nac atal colli’r cof.
Byddwch yn wyliadwrus ynghylch honiadau ym maes iechyd. Ewch i weld gweithiwr proffesiynol meddygol, fel eich meddyg teulu, eich ymgynghorydd neu Galw Iechyd Cymru, cyn ichi brynu unrhyw ‘iachâd’ sy’n honni ei fod yn trin amrywiaeth mawr o anhwylderau neu sy’n cynnig gwelliant sydyn.

