Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Mewn llythyr neu neges e-bost gallech gael cynnig swm anferth o arian yn gyfnewid am eich help i ddod ag arian allan o wlad dramor. Bydd y twllwyr yn defnyddio’r wybdaoeth y byddwch chi’n ei rhoi iddyn nhw i wagio’ch cyfrif banc, neu i’ch darbwyllo i anfon arian atyn nhw ymlaen llaw.

Trefnu trosglwyddiad

Yn aml, mae’r twyll yn cael ei seilio ar y syniad bod rhyw ddigwyddiad mawr neu ryw anffawd fawr, fel dymchwel llywodraeth, yn golygu bod symiau mawr o arian yn cael eu cadw mewn gwlad gan berson neu bobl sy’n chwilio am gymorth i drosglwyddo’r arian i wlad arall. Mae cyfran o’r arian yn cael ei chynnig am helpu i drefnu i’w drosglwyddo.


Neu byddwch yn cael llythyr, ffacs neu neges e-bost gan rywun sy’n dweud bod arno angen help i drosglwyddo arian dros y môr, sef US$20-30 miliwn fel arfer. Fel rheol, bydd yr awdur yn honni ei fod yn uwch-swyddog yn y llywodraeth, yn gyfrifydd gyda chorfforaeth sy’n perthyn i’r wladwriaeth, neu efallai yn berthynas i wleidydd sydd wedi’i ddiswyddo neu sydd wedi marw. Mae’n debyg y bydd y neges wedi’i marcio â’r geiriau 'Strictly Confidential' neu 'Urgent', ac yn cynnig cyfle i rannu mewn miliynau o bunnoedd.


Bydd yr awdur yn dweud bod arno angen trosglwyddo’i arian i i fanc yn eich gwlad chi, ac y cewch chithau gadw cyfran, sef 25 neu 30 y cant fel arfer, os byddwch yn gadael iddo ddefnyddio’ch cyfrif banc chi.


Os byddwch yn ateb ac yn rhoi’ch manylion bancio a’ch manylion personol, bydd cyfriflenni banc ffug a dogfennau ffug eraill yn cael eu hanfon atoch, gan fwriadu profi bod yr arian yn bodoli a’i fod e ar ei ffordd atoch chi.


Does dim arian, a does dim byd ar ei ffordd.

Mae’r twyll yma wedi bod ar waith ers tro byd, ac mae hynny’n awgrymu ei fod yn dal yn llwyddiannus i’r rhai sy’n ei ddefnyddio. A dweud y gwir, er bod y math yma o dwyll yn aml yn deillio o rannau o Affrica, mae’n gallu dod o fannau eraill hefyd. Mae tystiolaeth bod twyll tebyg wedi cael ei weithredu o’r Unol Daleithiau.

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi nwyddau ffug ac nad ydyn nhw’n bodloni’ch disgwyliadau, chewch chi ddim gwasanaeth na gwarant ar ôl ichi eu prynu.

Rhagor o Wybodaeth >