Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Bydd twyll buddsoddi bob amser yn ceisio ymddangos yn fwy deniadol na buddsoddiadau confensiynol, gan frolio ynghylch enillion afrealistig am eich taliadau. Cofiwch: os yw’n edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod e!

anchor[Beth yw twyll buddsoddi?]Beth yw twyll buddsoddi?

Mae’r gair "buddsoddi" yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag amrywiaeth mawr o gynlluniau sy’n cynnig incwm, llog neu elw yn gyfnewid am ryw wariant ariannol. Mae’n aml yn cael ei ddefnyddio’n llac, ac weithiau mewn modd camarweiniol, er mwyn cuddio gwir natur y cynllun; er enghraifft cynlluniau pyramidaidd, llythyrau cadwyn neu fathau eraill o gynllun lle mae’r elw yn dibynnu ar berswadio pobl eraill i gymryd rhan.

At ddibenion y daflen ffeithiau yma, mae "buddsoddi" yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â phrynu rhywbeth – fel nwyddau drud neu nwyddau anghyffredin, stociau a chyfrannau, eiddo – gan ddisgwyl y bydd yr hyn sydd wedi’i brynu yn cynyddu o ran ei werth, a hyd yn oed yn rhoi elw eithriadol o’i gymharu â mathau eraill o fuddsoddiad.

Dydy’r darpar fuddsoddwyr ddim bob amser yn deall bod yna amrywiaeth mawr o fuddsoddiadau honedig sydd heb gael eu rheoleiddio. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n cael eu masnachu gan froceriaid buddsoddi awdurdodedig, sef pobl y gallech ddisgwyl iddyn nhw weithio yn unol â safonau proffesiynol. Dydyn nhw ddim yn cael eu masnachu ar gyfnewidfa sy’n cael ei rheoleiddio chwaith, ac mae hynny’n golygu ei bod yn anodd neu’n amhosibl darganfod beth yw eu gwerth ar hyn o bryd neu’r rhagolygon ar gyfer cynnydd drwy unrhyw un o’r sianeli arferol. Does dim gwarant y bydd y  farchnad yn dal i weithredu pan fyddwch chi’n barod i realeiddio’ch buddsoddiad a bron dim gobaith o gael iawndal os yw’r buddsoddiadau wedi cael eu cam-werthu. Mae hyn i gyd yn creu cyfle i bobl ddiegwyddor gamarwain pobl sy ddim ar eu gwyliadwriaeth.

Bydd twyll buddsoddi bob amser yn ceisio ymddangos yn fwy deniadol na buddsoddiadau confensiynol, ac felly mae’r elw am eich buddsoddiad bob amser yn debyg o gael ei or-ddweud neu o fod yn afrealistig. Mae’n dilyn bod y neges hanfodol sy’n gymwys ar gyfer mathau eraill o dwyll yr un mor gymwys ar gyfer buddsoddiadau – Os yw’n edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod e!

Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich targedu gan dwyll neu os hoffech gael rhagor o gyngor, cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr.


anchor[Gwerthu nwyddau fel buddsoddiadau]Gwerthu nwyddau fel buddsoddiadau


Mae nwyddau drud fel alcohol (er enghraifft, siampên), peintiadau neu emwaith yn cael eu hybu fel arfer ar y sail y byddan nhw’n perfformio’n well na buddsoddiadau eraill, fel cyfrannau sy’n cael eu masnachu ar y Farchnad Stoc.

Un nodwedd gyffredin yw nad yw’r darpar fuddsoddwr yn mynd at y cwmni sy’n cynnig y “buddsoddiad” neu nad yw’n gallu mynd ato. Mae’r cyflwyniad bron bob amser yn dod drwy alwad ffôn ddirybudd neu drwy neges e-bost, er bod y cynnig yn aml yn dod ar ffurf cynnig gwybodaeth sy’n ymddangos yn ddiniwed. Mae’n gyffredin i’r twyllwyr ddefnyddio rhestrau o gyfran-ddeiliaid i gael enwau buddsoddwyr ac wedyn cynnig adroddiad di-dâl os bydd y darpar fuddsoddwr yn cadarnhau eu cyfeiriad ac yn rhoi eu rhif ffôn.

Wedyn, bydd y darpar fuddsoddwr yn cael llyfryn, neu alwad ffôn ac wedyn llyfryn. Mae’r llyfryn yn cynnwys gwybodaeth gyfyngedig, a chamarweiniol yn aml, am ragolygon y nwyddau sy’n cael eu cynnig fel buddsoddiad, ac efallai y cewch doriadau o’r wasg sydd fel petaen nhw’n dangos bod y papurau mawr wedi dweud na allwch chi golli drwy fuddsoddi. Efallai y bydd graff sy’n dangos sut mae buddsoddiadau yn y nwyddau yn perfformio’n well na stociau a chyfrannau traddodiadol. Mae hyn yn gamarweiniol oherwydd dim ond yr enillion cyfalaf ar y farchnad stoc sy’n cael eu disgrifio, heb roi sylw o gwbl i’r incwm sydd ar gael o gyfrannau ar ffurf difidend.

Mae’r twyllwyr wedi hen arfer â gwerthu dros y ffôn ac maen nhw’n cymryd arnyn nhw fod yn arbenigwyr yn eu maes er mwyn rhoi hyder i ddarpar fuddsoddwyr, hyd yn oed os nad oes gan y buddsoddwr ddim dealltwriaeth iawn o ragolygon y nwyddau. Maen nhw bob amser yn rhoi’r argraff ei bod yn anodd cael gafael ar y nwyddau heb gymorth ‘arbenigwyr’ a, pan fydd broceriaid yn derbyn y cynnig, maen nhw’n honni bod y nwyddau mor brin nes bod rhaid i’r buddsoddwr wneud penderfyniad cyflym neu golli’r cyfle. Ond, pan fydd y gwerthu wedi’i gwblhau, mae’r nwyddau bron bob amser ar gael yn hwylus ddigon.

Mae’n gyffredin i’r nwyddau gael eu cadw mewn storfa gan drydydd parti ar ran y buddsoddwr. Ond mewn rhai achosion, efallai nad yw’r nwyddau’n bodoli hyd yn oed, neu efallai eu bod bron yn ddiwerth neu heb ddim potensial fel buddsoddiad. Ond, ym mhob achos, dydy’r nwyddau ddim yn fuddsoddiad ymarferol oherwydd, am y pris sydd wedi’i dalu, byddan nhw naill ai yn methu â chynyddu o gwbl neu yn cymryd blynyddoedd lawer cyn cyrraedd y pris prynu hyd yn oed.

Mae’r Adran Masnach a Diwydiant (DTI) yn ymchwilio i gynlluniau corfforaethol heb eu rheoleiddio sy’n cynnwys gwerthu nwyddau neu gynwyddau fel buddsoddiadau.

Mae gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) y pŵer i gymryd camau yn aelod-wladwriaethau eraill yr UE yn erbyn masnachwr sydd wedi’i leoli yn yr UE sy’n gwneud niwed i gyd-fuddiannau defnyddwyr. Os yw’r masnachwr wedi’i leoli y tu allan i’r UE, gall yr OFT ofyn am gymorth gan eu cydweithwyr mewn gwledydd tramor, o dan aden Rhwydwaith Rhyngwladol Diogelwch a Gorfodaeth Defnyddwyr (ICPEN), er mwyn cymryd camau yn erbyn masnachwyr anonest yn eu hawdurdodaeth sy’n targedu defnyddwyr yn y DU.


anchor[Cyfrannau]Cyfrannau


Mae nifer o gwmnïau’n cynnig cyfrannau dros y ffôn neu drwy’r rhyngrwyd o wledydd tramor (hynny yw, y tu allan i’r ardal sy’n cael ei rheoleiddio gan y DU). Maen nhw’n debyg o ddweud wrth ddarpar fuddsoddwyr fod ganddyn nhw gyfle i fuddsoddi mewn cyfrannau mewn cwmni sydd naill ai ar fin cael ei lansio ar y farchnad stoc neu sydd eisoes wedi’i restru ond sydd ar fin llwyddo’n rhyfeddol. Maen nhw’n rhoi syniad i’r buddsoddwr o faint o elw sy’n debyg o gael ei wneud mewn ychydig wythnosau yn unig. Mewn gwirionedd, mae’n debyg mai cyfrannau mewn cwmni sy’n methu fyddan nhw, neu gwmni sydd erioed wedi cael ei fasnachu.

Mae buddsoddwyr sy’n prynu cyfrannau fel hyn yn aml yn gweld eu bod yn anodd i’w gwerthu am nad ydyn nhw wedi cael eu rhestru ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig. Ond wedyn mae rhywun yn dod atyn nhw i gynnig eu helpu i werthu’r cyfrannau, ar yr amod eu bod yn talu "ffi weinyddol" ymlaen llaw. Pan fydd y "ffi" wedi’i thalu, fydd y buddsoddwyr byth yn clywed gan y cwmni eto, sy’n eu gadael yn waeth byth eu byd a’r cyfrannau diwerth yn dal ar eu dwylo.

Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn rheoleiddio marchnata cyfrannau. Mae’r FSA wedi cyhoeddi rhestr o gwmnïau diawdurdod sy’n gwerthu cyfrannau ac sy’n targedu buddsoddwyr yn y DU.

Mae gan yr FSA Wasanaeth Gwirio Cwmnïau a Phersonau hefyd sy’n fodd i fuddsoddwyr holi a oes gan unigolyn neu gwmni awdurdod i fasnachu.


anchor[Hysbysebion buddsoddiadau]Hysbysebion buddsoddiadau


Hwyrach y bydd hysbysebion camarweiniol neu honiadau wrth hybu buddsoddiadau yn torri Cod Hysbysebu, Hybu Gwerthiant a Marchnata Uniongyrchol Prydain. Dylai cwynion am hysbysebion neu honiadau camarweiniol gael eu cyfeirio at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA). Ar gyfer hysbysebion sy’n tarddu o’r tu allan i’r DU, gall yr ASA gysylltu â Chynghrair Safonau Hysbysebu Ewrop (EASA) i’w cael nhw i ymchwilio. Mae gan Bwyllgor Arferion Hysbysebu (CAP) yr ASA weithdrefnau hefyd i ymdrin â chwynion am hysbysebion sy’n tarddu y tu allan i awdurdodaeth yr EASA.


anchor[Cynghorion i’w cofio am fuddsoddiadau]Cynghorion i’w cofio am fuddsoddiadau

  • Cymerwch gyngor proffesiynol annibynnol BOB TRO cyn gwneud unrhyw fuddsoddiad, yn enwedig os yw’r math o fuddsoddiad yn anghyfarwydd ichi.
  • Byddwch ar eich gwyliadwriaeth os daw cynnig annisgwyl neu gynnig nad ydych chi wedi gofyn amdano i gynnig cyfle o unrhyw fath i fuddsoddi. Holwch am gefndir y cwmni neu’r unigolyn bob tro cyn trin a thrafod gyda nhw.
  • Gochelwch os bydd rhywun yn honni y bydd buddsoddiad yn creu elw gwarantedig, elw heb risg neu elw eithriadol. Mae’r mwyafrif o fuddsoddiadau’n cynnwys elfen o risg a does dim modd gwarantu y cewch chi elw.
  • Gochelwch rhag unrhyw fuddsoddiad lle nad oes modd edrych yn ôl ar ei berfformiad yn y gorffennol a holi am ei dwf posibl, er enghraifft yn y wasg ariannol neu drwy gynghorydd ariannol annibynnol. Gofynnwch i chi’ch hun, "Pam lai?"
  • Byddwch ar eich gwyliadwriaeth os bydd rhywun yn rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad cyflym a pheidiwch BYTH â llofnodi dim byd ar unwaith. Bydd deliwr dibynadwy yn caniatáu amser i chi wneud eich gwaith ymchwil ac, os yw’r buddsoddiad yn un dilys, fe fydd yna ‘gyfnod ailfeddwl’ fel rheol, rhag ofn ichi newid eich meddwl.
  • Holwch am y taliadau comisiwn BOB TRO. Byddwch yn wyliadwrus os oes rhaid talu comisiwn ymlaen llaw pan fyddwch yn prynu, yn lle pan fyddwch yn gwerthu.
  • Byddwch yn ofalus os bydd rhywun yn gofyn ichi gadw’r fargen yn gyfrinachol. Os yw’r buddsoddiad yn ddilys, pam byddai angen ichi ei gadw’n gyfrinachol?
  • Peidiwch BYTH â rhoi rhif cyfrif banc, rhif cerdyn credyd neu wybodaeth bersonol arall i neb os nad ydych yn eu hadnabod neu os nad ydych wedi holi am eu cefndir.
  • Anwybyddwch negeseuon e-bost, llythyrau cadwyn neu unrhyw gynnig arall nad ydych wedi gofyn amdano ac sy’n hybu cynlluniau sy’n cynnig ffortiwn gyflym. Dyw hi ddim yn werth eu darllen ac mae bron yn sicr y byddan nhw’n costio’n ddrud ichi!


anchor[Rhoi gwybod am dwyll buddsoddi]Rhoi gwybod am dwyll buddsoddi


Os ydych yn credu bod twyllwr wedi cysylltu â chi neu os ydych chi wedi colli arian o ganlyniad i dwyll, cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr.

Gallwch gysylltu â’r awdurdodau canlynol:

Gwerthu nwyddau fel buddsoddiad

Vetting Section
Department of Trade and Industry
Room 703
10 Victoria Street
London
SW1H 0NN
Ffôn: 020 7215 3120
E-bost: vetting.section@dti.gsi.gov.uk


International Liaison Team
Office of Fair Trading
Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
London
EC4Y 8JX
Ffôn: 08457 22 44 99
E-bost: enquiries@oft.gsi.gov.uk


Cyfrannau

The Financial Services Authority (FSA)
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS
Ffôn: 020 7066 1000
Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr: 0845 606 1234 (cyfradd galwadau lleol)

Hysbysebion camarweiniol

The Advertising Standards Authority (ASA)
2 Torrington Place
London WC1E 7HW
Ffôn: 020 7580 5555
E-bost: enquiries@asa.org.uk


"Nôl i'r brig

Did you know

Efallai y bydd manwerthwyr nwyddau trydan yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig ichi. Os prynwch chi un, mae gennych chi 45 diwrnod i newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >