Twyll
Negeseuon e-bost yw’r rhain, sy’n cynnig ods ffafriol mewn loterïau dros y môr. Mae hyd yn oed yn bosibl y cewch chi neges sy’n honni eich bod chi wedi ennill yn barod! Dim ond ichi dalu ac fe gewch chi’ch gwobr neu’ch enillion.
anchor[Enillion annisgwyl]Enillion annisgwyl
Bob dydd, bydd pobl ar hyd a lled y DU yn agor y post, yn cael galwad ffôn, yn dechrau’r cyfrifiadur neu’r ffôn symudol a gweld eu bod nhw wedi ennill gwobr gyffrous mewn tynfa, neu loteri neu ryw gynllun hyrwyddo arall – yn hollol annisgwyl. Er bod rhai o’r cynigion hyn yn gyfreithlon, mae eraill yn ymgais anonest i’ch twyllo chi i roi’ch arian i ffwrdd.
Mae llawer o gynlluniau twyllo i’w cael ar ffurf tynfa wobrau neu loterïau sydd wedi’u dylunio i dwyllo pobl sy ddim ar eu gwyliadwriaeth. Mae’r cynlluniau hyn fel arfer wedi’u lleoli y tu allan i’r DU, ond efallai y byddan nhw’n defnyddio blychau Swyddfa’r Post yn y DU.
anchor[Sut mae’n gweithio?]Sut mae’n gweithio?
Gall y mathau cyffredin o dwyll:
- Gynnig cyfle i gael tocyn sydd wedi ennill neu’r wobr mewn tynfa neu loteri dros y môr, neu aelodaeth mewn syndicet loteri, os talwch chi ffi ‘weinyddol’ neu ffi ‘gofrestru’.
- Ei gwneud yn ofynnol i chi brynu rhywbeth er mwyn cael eich ‘gwobr’.
- Awgrymu bod arian llywodraeth ar gael i’w hawlio gan unigolion.
Yn amlach na pheidio, does dim gwobr ar gael. Mae unrhyw beth y byddwch yn ei ‘ennill’ fel arfer yn dila, yn ddiwerth neu wedi’i ddisgrifio’n gamarweiniol ac yn werth llawer llai na’r ffi maen nhw’n gofyn ichi ei thalu.
I osgoi cael eich twyllo mew twyll loteri, cofiwch y pwyntiau yma:
- Gofynnwch i chi’ch hun 'Sut galla i ennill gwobr mewn loteri os nad ydw i wedi prynu tocyn?'
- Fel rheol, os ydych yn ennill rhywbeth, fydd dim rhaid ichi dalu er mwyn cael eich gwobr.
- Dim ond ichi ymateb i gynllun hyrwyddo ffug, a bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn debyg o gael eu rhoi ar restrau eraill ar gyfer cynlluniau twyllodrus tebyg.
- Os byddan nhw’n gofyn ichi ddefnyddio rhif ffôn cyfradd premiwm, cofiwch fod y rhain yn gallu bod yn ddrud iawn. Efallai eu bod yn rhan o’r twyll.
- Peidiwch byth â datgelu manylion cerdyn credyd neu fanylion cyfrif banc oni bai eich bod yn gwbl sicr â phwy rydych chi’n delio. Fe allen nhw ofyn am y manylion hyn fel manylion 'adnabod’.
Mae’r arwyddion rhybuddio nodweddiadol yn cynnwys: - Nad ydych wedi gofyn i neb gysylltu â chi, mewn ysgrifen, dros y ffôn neu drwy e-bost.
- Mai dim ond amser byr iawn sydd ar gael i ymateb er mwyn hawlio’ch gwobr.
- Gwahoddiad i anfon ffi ‘brosesu’ neu ffi ‘reoli’ er mwyn cael y wobr.
- Bod angen defnyddio llinellau ffôn ar gyfradd premiwm.
- Bod cartref y cynllun hyrwyddo mewn gwlad dramor.
- Gwahoddiad i anfon arian allan o’r wlad, yn enwedig i’r Iseldiroedd neu Ganada, drwy drosglwyddo arian.
- Bod y gwobrau’n cael eu mynegi mewn arian tramor.
- Gwahoddiad y roi manylion eich cerdyn credyd neu fanylion eich cyfrif banc.
Sut i’ch amddiffyn eich hun: - Cofiwch: os byddwch yn ennill rhywbeth ddylech chi ddim gorfod talu er mwyn derbyn eich gwobr
- Peidiwch ag ymuno â sweepstake oni bai bod y gystadleuaeth yn cael ei rhedeg gan gwmni sy’n adnabyddus ichi
anchor[Twyll mewn loterïau penodol]Twyll mewn loterïau penodol
Loteri Canada
Mae miloedd o bobl yn y DU wedi cael galwadu ffôn yn barod heb ofyn amdanyn nhw, ac wedi anfon miloedd o bunnoedd i gynlluniau loteri ffug sy’n gweithredu o Ganada. Mae pobl wedi colli hyd at £300,000 drwy ymateb i fwy a mwy o alwadau ffôn sy’n gofyn am daliadau i dalu’r costau er mwyn sicrhau eu henillion. Does dim enillion, a dydy’r bobl byth yn cael dim byd yn ôl am eu harian.
Ydych chi wedi ymateb i alwad ffôn neu lythyr dieisiau sy’n dweud eich bod wedi ennill loteri? Os felly, fe allech fod mewn perygl o golli miloedd o bunnoedd.
Os ydych chi wedi colli arian, mae’n annhebyg iawn y cewch chi hwnnw nôl.
Loteri El Gordo
Mae gweithredydd swyddogol loteri Sbaen, El Gordo, sef Loterias y Apuestas de Estado, wedi cyhoeddi rhybudd ynghylch twyllwyr sy’n defnyddio’r enw El Gordo ac sy’n ffugio dogfennau a ffurflenni banc er mwyn sicrhau arian drwy dwyll.
Mae llythyrau a negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at ddefnyddwyr yn y DU gan honni eu bod nhw wedi ennill loteri Sbaen. Er mwyn hawlio’u 'gwobr', gofynnir i’r derbynwyr roi manylion eu cyfrif banc a dywedir y bydd 5-10 y cant o’r enillion yn cael eu cadw i dalu’r costau. Ond yn nes ymlaen, mae’r twyllwyr yn cysylltu â’r 'enillwyr' i ofyn am amryw o ffioedd er mwyn rhyddhau eu gwobr honedig, a does dim dimai goch yn cael ei thalu iddyn nhw. Mae gwobrau loteri go iawn Sbaen bob amser yn ddi-dreth.
Os cewch chithau unrhyw ddeunyddiau ffug ynghylch El Gordo, gallwch helpu ymholiadau Loterías y Apuestas de Estado drwy anfon copi i’r cyfeiriad canlynol:
Loterías y Apuestas del Estado
Legal Advice Service
C/ Guzmán el Bueno nº 137
28003 Madrid
Spain
Rhif ffacs: 00 34 91 533 51 36.

