Twyll
Sut mae amddiffyn eich hun rhag twyll? Gofynnwch gwestiwn neu ddau i chi’ch hun cyn ichi roi arian i fasnachwr – a gofynnwch gwestiynau i’r masnachwr hefyd. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin – os yw’n ymddangos bod rhywbeth yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg e fod e.
anchor list
anchor[Rhestr wirio twyll]Rhestr wirio twyll
Mae twyllo’n digwydd mewn gwahanol ffyrdd - llythyrau, negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun.
Mae cynlluniau hybu fel hyn yn ymgais anonest i’ch dal chi a chael eich arian.
Os byddwch chi’n cael cynnig sydd fel pe bai’n rhy dda i fod yn wir, cyn ichi ymateb gofynnwch y cwestiynau hyn i chi’ch hun:
- Ydw i wedi gofyn am y cynnig?
- Ydy’r cynnig yn edrych yn rhy dda i fod yn wir?
- Oes rhaid imi ymateb 'ar unwaith' – beth yw’r brys?
- Oes rhaid imi brynu rhywbeth er mwyn ennill gwobr?
- Oes rhaid imi ffonio rhif cyfradd premiwm?
- Oes rhaid imi roi manylion banc neu fanylion cerdyn credyd?
- Oes rhaid imi anfon yr arian at Flwch Swyddfa’r Post?
- Ydyn nhw’n gofyn imi gadw’r cynnig yn gyfrinach?
- Alla i fforddio colli’r arian?
Cyn ichi dalu arian, cymerwch gyngor cyfreithiol neu gyngor proffesiynol, oherwydd yn ôl pob tebyg, ar ôl ichi anfon yr arian, welwch chi mono fe byth eto.
anchor[Mynnwch wybod â phwy rydych chi’n delio]Mynnwch wybod â phwy rydych chi’n delio
Gallwch leihau’r perygl o gael eich twyllo drwy wybod â phwy rydych chi’n delio.
- Gofynnwch am enw’r person rydych yn siarad â nhw, a phwy maen nhw’n ei gynrychioli.
- Ysgrifennwch nodiadau am eich sgyrsiau, gan gynnwys y dyddiadau, yr amserau, yr enwau a’r pwyntiau pwysig.
- Gofynnwch am esboniad ar unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall.
- Darllenwch lythyrau yn ofalus a gofynnwch am gymorth proffesiynol (er enghraifft cyfrifydd neu gyfreithiwr) os ydych yn sôn am lawer o arian, amser neu gyfrifoldeb.
- Os ydych am sicrhau bod y cwmni yn un bona fide, cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau neu’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
- Mynnwch wybod â phwy rydych chi’n delio. Ewch ati yn annibynnol i ddilysu unrhyw honiad sy’n cael ei wneud gan werthwr, cynghorydd buddsoddiadau neu hysbyseb.
- Gwnewch yn siŵr fod unrhyw gwmni rydych chi’n delio â nhw yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. (Yn y DU, rhaid i bob cwmni gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.)
- Gwnewch fusnes gyda chwmnïau rydych chi’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw, a neb arall.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall holl delerau ac amodau unrhyw gynnig sy’n cael ei roi ichi.
- Cymerwch eich amser cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
- Peidiwch â rhoi dim gwybodaeth ariannol na gwybodaeth bersonol arall cyn ichi gael gwybod a yw’r cwmni yn ddilys neu beidio.
- Mynnwch ddeall eich buddsoddiadau, cadw llygad arnyn nhw a gofyn cwestiynau yn aml, a phenderfynwch ar eich targedau ariannol cyn ichi gyfarfod â chynlluniwr ariannol.
- Peidiwch â phwyso a mesur pa mor gredadwy yw cwmni neu werthwr yn ôl pa mor broffesiynol maen nhw neu eu deunyddiau hyrwyddo neu eu gwefan yn edrych.
- Peidiwch ag ildio i dactegau gwerthu sy’n eich rhoi dan lawer o bwysau.
- Peidiwch â gadael i embaras neu ofn eich cadw rhag mynd at yr awdurdodau priodol i roi gwybod am dwyll neu gamdriniaeth.
- Peidiwch byth â bod ofn gofyn cwestiynau. A dweud y gwir, gorau po fwyaf o gwestiynau y byddwch yn eu gofyn.
anchor[Osgowch sbam sy’n twyllo]Osgowch sbam sy’n twyllo
Gall y cynghorion yma eich helpu i osgoi cael eich twyllo gan sbam:
- Gwarchodwch eich gwybodaeth bersonol. Peidiwch â rhannu gwybodaeth am gerdyn credyd na gwybodaeth bersonol arall oni bai eich bod yn prynu gan gwmni sy’n adnabyddus y gallwch ymddiried ynddo.
- Mynnwch wybod â phwy rydych chi’n delio. Peidiwch â gwneud busnes gyda chwmni sy’n gwrthod rhoi ei enw, ei gyfeiriad stryd, a’r rif ffôn.
- Cymerwch eich amser a gwrthsefyll unrhyw awydd i ‘weithredu nawr' er gwaethaf y cynnig a’r telerau. Ar ôl ichi dalu’ch arian, efallai na chewch chi mono fe nôl, byth.
- Darllenwch y print mân. Mynnwch gael pob addewid ar bapur a’u darllen yn ofalus cyn ichi wneud taliad neu lofnodi contract.
- Peidiwch byth â thalu am anrheg 'am ddim'. Anwybyddwch unrhyw gynnig sy’n gofyn ichi dalu am anrheg neu wobr. Os yw’n anrheg neu os yw ar gael am ddim, fydd dim rhaid ichi dalu – mae am ddim yn golygu am ddim.
Ym mhob sefyllfa, mae’r hen air yn gymwys: Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod e.

