Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Mae negeseuon a llythyrau dieisiau oddi wrth ddewiniaid neu ddaroganwyr ffug yn ymosod yn uniongyrchol ar bobl sy’n hawdd i’w niweidio ac maen nhw’n arbennig o annymunol. Mewn nifer o achosion, maen nhw wedi dod i law pobl yng nghanol rhyw gyfyngder, megis profedigaeth, ac maen nhw wedi peri llawer o drallod.

Mewn rhai achosion, mae’r llythyrau hyn yn fwy ymosodol eu naws, ac yn awgrymu bod y sawl sydd wedi’u cael yn mynd i ddioddef rhyw anlwc os na fyddan nhw’n ymateb drwy anfon yr arian y mae’r llythyr yn gofyn amdano.


Enghraifft o lythyr/neges e-bost:


“Yn ddamweiniol, rwy wedi dod o hyd i gyfrinach anhygoel. Nawr fe hoffwn anfon y gyfrinach atoch chi, am ddim. A dweud y gwir, rwy’n sicr bod ‘Gwyrth’ am ddigwydd yn y 30 diwrnod nesaf, gwyrth a allai’ch cadw chi yn rhydd rhag eisiau am weddill eich oes…”

Dyma un enghraifft o lythyr gan seicig. Mae’r wybodaeth sy’n dilyn yn awgrymu bod y sawl sydd wedi cael y llythyr yn gallu sicrhau lwc dda iddyn nhw eu hunain drwy dalu rhyw swm o arian i gael “benthyg ffon hud Myrddin" am ychydig fisoedd. (Maen nhw hefyd yn cynnig "rhodd sy’n werth mwy na £10" yn gyfnewid am ateb cyflym). Mae’r llythyr yn cynnwys negeseuon o gefnogaeth ddienw gan bobl y mae eu bywydau wedi cael eu gweddnewid.


Dylech chi drin llythyrau o’r math yma â’r un amheuaeth yn union ag unrhyw fath arall o dwyll drwy’r post nad ydych chi wedi gofyn amdano.

  • Peidiwch ag ateb post fel hyn.
  • Dinistriwch e heb ymateb.

"Nôl i'r brig

Did you know

Os byddwch yn prynu cyfrifiadur ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gan y cwmni gyfeiriad a rhif ffôn yn y DU, rhag ofn bod rhaid ichi gysylltu â nhw os bydd problem yn codi.

Rhagor o Wybodaeth >