Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Gallai hwn fod yn ymateb i’ch hysbyseb neu’ch neges bost mewn ocsiwn ar-lein, gan gynnig talu â siec. Ar y funud olaf, bydd y prynwr yn rhoi rhyw reswm dros ysgrifennu siec am fwy na’r pris prynu, ac yn gofyn i chithau drosglwyddo’r gweddill yn ôl ar ôl ichi dalu’r siec i mewn i’r banc.

Os byddwch yn talu’r siec i mewn, chi fydd ar eich colled. Fel arfer, mae’r sieciau hyn yn ffug. Maen nhw’n ddigon da i dwyllo staff y banc - ond pan fyddan nhw’n cael eu gwrthod, chi sy’n gorfod talu’r swm cyfan.


Peidiwch â derbyn siec am fwy na’r pris gwerthu, beth bynnag yw’r demtasiwn neu’r stori. Gofynnwch i’r prynwr ysgrifennu’r siec am y pris prynu. Os bydd y prynwr yn anfon y swm anghywir, anfonwch y siec yn ôl. Peidiwch ag anfon y nwyddau.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi rywbeth sy’n werth mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw yn eich tŷ heb wahoddiad, mae gennych chi saith diwrnod i ganslo’ch archeb.

Rhagor o Wybodaeth >