Twyll
Ydych chi yn wastad wedi bod yn awyddus i fod yn awdur, model neu ddyfeisiwr llwyddiannus? Mae llawer o bobl yn credu y gallen nhw ysgrifennu llyfr llwyddiannus, mynd yn supermodel, neu werthu dyfais newydd wych a medi’r llwyddiant ariannol sy’n deillio ohonyn nhw.
Mae rhai pobl a hoffai fod yn awdur, model neu ddyfeisiwr yn dewis defnyddio gwasanaethau busnesau sy’n addo llwyddiant sicr yn gyfnewid am dâl ymlaen llaw. Yn anffodus, mae’n bosibl na chân nhw fawr ddim yn ôl.
