Twyll
Nid pob clwb gwyliau sy'n ffug, ond mae llawer o rai ffug i’w cael. Gyda chlwb dibynadwy, fe ddylech gael mynd â’r contract i ffwrdd a dod yn ôl gyda'ch penderfyniad ymhen ychydig ddyddiau, dylai fod hawliau canslo ysgrifenedig gennych a dylai popeth gafodd ei addo ichi yn y cyflwyniad fod wedi'i roi i lawr ar bapur.
Peidiwch â llofnodi dim byd, ni waeth faint o bwysau sy’n cael ei roi arnoch, oni bai eich bod yn bendant mai dyma yn union rydych chi ei eisiau.
anchor[Triniaeth VIP]Triniaeth VIP
Mae clybiau gwyliau yn ddigon hapus i gael unrhyw un i ymuno ond byddwch yn cael y teimlad eich bod yn ymuno â chlwb arbennig sy'n cyfyngu ei aelodaeth i'r dethol rai yn unig.
Ond yn aml maen nhw'n targedu pobl sydd wedi cynilo rhyw gymaint. Efallai y bydd y rhain yn bobl sydd wedi ymddeol yn gynnar neu barau y mae eu plant wedi tyfu a'u gadael nhw â mwy o incwm yn rhydd. Gallai’r clybiau gynnig gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau, fel golff neu dennis, fel ffordd o'ch bachu.
Byddwch yn debyg o gael gwahoddiad i westy crand ar gyfer cyflwyniad VIP a fydd yn slic iawn. Bydd y llyfrynnau a welwch chi yn llawn sglein ac yn edrych yn dda.
Byddan nhw’n addo gwyliau gwych a gwerth da am eich arian ledled y byd mewn llety o’r safon orau.
Yn aml, mae’r realiti’n bur wahanol.
Mae’r hyn y mae’r clwb gwyliau ffug yn ei ddweud wrth geisio gwerthu a’r hyn sydd yn y contract y maen nhw am ichi ei lofnodi yn gallu bod yn wahanol iawn i’w gilydd.
Bydd y clwb gwyliau ffug yn ceisio’ch cael chi i lofnodi yn y fan a’r lle – ond peidiwch ag ildio i’r pwysau. Gofynnwch am amser i feddwl am bethau a chymryd cyngor annibynnol.
Technegau a allai gael eu defnyddio:
- Mae'r cyflwyniad yn para mor hir nes eich bod yn cael eich temtio i lofnodi am eich bod mor awyddus i ddianc.
- Maen nhw wedi rhoi cynnig gostyngedig arbennig ichi sy’n para am y diwrnod hwnnw yn unig.
- Dydych chi ddim yn cael bod ar eich pen eich hunain i drafod dim byd gyda'ch partner - efallai hefyd y cewch chi'ch cadw ar wahân i barau eraill, a'ch atal rhag cymryd nodiadau hyd yn oed.
anchor[Yr hyn y gallen nhw ei ddweud]Yr hyn y gallen nhw ei ddweud
- Cewch chi wyliau mewn lleoedd gwych ar adegau o'r flwyddyn sy'n ateb eich anghenion
- Byddwch chi wedi cael eich arian yn ôl ymhen pedair blynedd.
- Edrychwch gymaint yn rhatach ydyn ni na chwmnïau gwyliau cyffredin.
- Mae'r tanysgrifiad i'r clwb gwyliau’n werth llawer. Gallwch ei werthu yn nes ymlaen, neu ei adael i'ch plant ar ôl ichi farw.
- Bydd y clwb yma'n rhoi popeth rydych chi wastad wedi gobeithio'i gael ar eich gwyliau.
anchor[Y realiti]Y realiti
- Does dim gwarant ar gyfer yr un dyddiad na'r un gyrchfan ac yn aml mae’n amhosibl cael gwyliau pryd a ble yr hoffech chi eu cymryd nhw. Efallai nad ewch chi i unman yn y pen draw.
- Does dim gwarant y bydd y cwmni'n dal mewn bodolaeth ymhen pedair blynedd.
- Does dim gwarant y cewch chi'r gostyngiadau sy'n cael eu hysbysebu, ac mae rhai ohonyn nhw ar gael mewn mannau eraill beth bynnag. Yn y pen draw, fe allech chi dalu llawn cymaint â’r pris yn llyfrynnau'r stryd fawr beth bynnag.
- Mae’n bosibl na fydd y tanysgrifiad yn werth dim i’w ailwerthu.
- Efallai na fyddwch yn gallu dod o hyd i brynwr.
- Mae yna daliadau blynyddol i'w talu, p'un a fyddwch chi'n defnyddio'r tanysgrifiad neu beidio.
- Fyddan nhw ddim yn cael eu dal yn gyfrifol am yr un addewid sy'n cael ei rhoi ar lafar gan eu cynrychiolwyr.
anchor[Ennill gwyliau ‘am ddim’] Ennill gwyliau ‘am ddim’
Efallai y cewch chi alwad ffôn gartref, neu bydd rhywun yn rhoi cerdyn crafu yn eich llaw tra byddwch chi’n mwynhau’ch gwyliau dros y môr gan ddweud eich bod chi wedi ennill gwyliau am ddim.
Er mwyn cael y gwyliau 'am ddim' maen nhw'n dweud eich bod chi wedi'u hennill, efallai y bydd rhaid ichi dalu am bethau ychwanegol, fel awyrennau a phethau ychwanegol eraill sy'n ei gwneud yn fwy costus na phe baech chi wedi trefnu'r gwyliau eich hun. Efallai y bydd rhaid ichi fynd i rywle dydych chi ddim eisiau mynd, a hynny ar amser sy ddim yn gyfleus neu hyd yn oed fynd i wrando ar gyflwyniad chwe-awr sy'n sôn am glwb gwyliau.
Fe fyddan nhw'n pwysleisio nad cynllun rhannu amser yw hwn. Yn wahanol i'r gyfraith ar drefniadau rhannu amser, dydych chi ddim o reidrwydd yn cael cyfle i ganslo os byddwch yn ailfeddwl.

