Twyll
I lawer o bobl, mae rhoi hen ddillad a nwyddau i elusennau yn ffordd dda i glirio’u cypyrddau a gwneud lle. Mae elusennau yn aml yn defnyddio casgliadau o ddrws i ddrws er mwyn casglu rhoddion yn uniongyrchol o gartrefi pobl. Ond, mae rhai o’r casgliadau elusennol hyn yn ffug.
Mae Cymdeithas y Siopau Elusennol yn amcangyfrif bod gwerth posibl y rhoddion dillad a’r eitemau eraill sy’n cael eu ‘colli’ i elusennau dilys oherwydd y casgliadau ffug hyn yn fwy na £1m y flwyddyn. Mae llawer elusen ddilys yn dibynnu ar gasgliadau o ddrws i ddrws fel hyn i gael cyfran sylweddol o’r nwyddau sy’n cael eu gwerthu yn eu siopau.
Yn aml, bydd taflenni yn dod drwy’r drws i apelio am roddion ar ffurf hen ddillad, esgidiau ac weithiau nwyddau eraill y cartref ac eitemau trydan, i gael eu dosbarthu i unigolion a theuluoedd tlawd yn Nwyrain Ewrop neu yng ngwledydd y trydydd byd. Mae’r taflenni’n gofyn i bobl adael y nwyddau wrth y drws mewn bag plastig. Wedyn mae’r bagiau’n cael eu casglu yn ddienw.
Mae’r taflenni’n rhoi’r argraff gamarweiniol bod yr eitemau’n cael eu casglu at ddibenion elusennol. Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos bod y casgliadau’n cael eu trefnu gan weithredwyr masnachol sy’n gwerthu’r rhoddion am elw. Weithiau mae’r argraff gamarweiniol yn cael ei hatgyfnerthu gan gyfeiriad at rif cofrestru. Mae pobl yn credu mai rhif Elusen Gofrestredig yw hwn, ond rhif cwmni cyfyngedig yw e mewn gwirionedd.
Os oes gennych chi unrhyw amheuon am daflen sy’n gofyn am roddion, gallwch chi:
- cysylltu â llinell gymorth y Comisiwn Elusennau ar 0845 300 0218 i ofyn a ydy’r casgliad yn gasgliad gan elusen gofrestredig neu ar ran elusen gofrestredig neu beidio.
- cysylltu â’ch awdurdod lleol i weld a oes trwydded gan y casglwr.
- rhoi yn uniongyrchol i siop elusennol leol neu roi i sach gasglu siop elusennol. Dylai’r rhain gyfeirio’n glir at rif cofrestru yr elusen a bydd llawer hefyd yn dangos Nod Barcut Cymdeithas y Siopau Elusennol.

