Ewch yn syth i'r cynnwys

Twyll

Mae cwmnïau cydgrynhoi dyledion yn addo ffordd ichi grynhoi’ch biliau yn un taliad misol heb fenthyca ac atal credydwyr rhag eich poeni, atal adfeddiannu neu glirio’ch dyledion.

Yn anffodus, mae’r cynigion hyn yn gallu golygu achos methdaliad, ond anaml y byddan nhw’n dweud hynny. Mae methdaliad yn un ffordd i ddelio â phroblemau ariannol difrifol, ond yn gyffredinol mae pobl yn meddwl mai dyna’r dewis olaf. Y rheswm am hyn yw bod methdaliad yn cael effaith negyddol am amser hir ar eich gallu i sicrhau credyd. Mae methdaliad yn aros ar eich adroddiad credyd, ac mae’n gallu ei gwneud yn anos sicrhau credyd, swydd, yswiriant, neu hyd yn oed rywle i fyw. Ar ben hyn oll, mae’n debyg y byddwch yn gyfrifol am y ffioedd cyfreithiol mewn achos methdaliad.


Wrth edrych ar y cynigion yma, darllenwch rhwng y llinellau. Cyn mynd yn fethdalwr, siaradwch â’ch credydwyr am drefnu cynllun talu diwygiedig, cysylltwch â gwasanaeth sy’n cwnsela ynghylch dyledion i’ch helpu i ddatblygu cynllun ad-dalu dyledion, neu rhowch ystyriaeth ofalus i ail forgais neu godi credyd drwy gyfrwng yr ecwiti yn eich cartref. Un gair o rybudd - er y bydd benthyciad yn erbyn eich cartref yn caniatáu ichi grynhoi’ch dyledion, mae hefyd yn golygu bod rhaid ichi gynnig eich cartref fel gwarant. Os na fyddwch yn gallu talu, fe allech chi golli’ch cartref.


Os oes arnoch angen gwybodaeth neu gyngor am ddyledion, edrychwch ar yr adrannau canlynol:

Neu cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy’r e-bost.

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os ydych chi wedi talu am nwyddau a gwasanaethau ar gerdyn credyd, a’ch bod wedi gwario mwy na £100, efallai y bydd y cwmni credyd yr un mor gyfrifol am nwyddau diffygiol, gwaith o ansawdd wael neu wasanaethau annigonol.

Rhagor o Wybodaeth >