Telerau ac amodau
Hawlfraint
Mae croeso ichi argraffu’r tudalennau yma, cysylltu â nhw, neu atgynhyrchu’r wybodaeth oddi arnyn nhw, ar yr amod na fyddwch yn ystumio’r wybodaeth neu’n ei defnyddio er mwyn ennill arian, oni bai bod yna ddarpariaeth arall ar gyfer hynny. Rhaid ichi gydnabod mai Cyswllt Defnyddwyr yw ffynhonnell yr wybodaeth. Mae croeso i’ch sylwadau ar unrhyw agwedd ar y gwasanaeth yma.
Cofiwch mai dim ond canllawiau cyffredinol yw’r wybodaeth ar y tudalennau yma ac na ddylech eu darllen yn lle’r gyfraith.
Cysylltu â’r wefan yma
Rydyn ni’n hoffi gweld yr wybodaeth rydyn ni’n ei chynhyrchu yn cael ei lledaenu mor eang â phosibl. Oherwydd hynny, dydyn ni ddim yn gwrthwynebu bod gwefannau eraill yn cysylltu â’n gwefan ni, ar yr amod nad yw’r wybodaeth arni yn cael ei hystumio a’i bod yn glir mai Cyswllt Defnyddwyr yw ffynhonnell yr wybodaeth. Er hynny, dydyn ni ddim yn caniatáu i’r ddolen gyswllt gael ei gosod unrhyw le ar wefan lle mae’n awgrymu ein bod ni’n cefnogi’r wefan mewn unrhyw fodd, nac yn caniatáu i’n logo gael ei ddefnyddio fel cysylltiad graffig.

