Chwilio
Cynghorion chwilio
I chwilio’r wefan yma, y cyfan y mae’n rhaid ichi ei wneud yw teipio un neu ragor o eiriau yr hoffech chi chwilio amdanyn nhw yn y blwch chwilio sydd i’w weld ar bob tudalen, ac yna clicio ar y botwm 'Ewch'. Bydd rhestr o dudalennau ar y wefan sy’n cynnwys yr holl eiriau yn eich ymholiad yn cael ei dangos, a bydd y tudalennau wedi’u rhestru yn nhrefn eu perthnasedd.
I benderfynu pa mor berthnasol i’ch ymholiad yw pob tudalen, mae’r injan chwilio’n cymryd i ystyriaeth pa mor aml y mae’r geiriau yn digwydd ar y tudalen, a pha mor agos at ei gilydd ydyn nhw.
Gwell chwilio
I gael y canlyniadau gorau wrth chwilio, bydd angen ichi ddewis y geiriau i chwilio amdanyn nhw yn ofalus:
Rhowch gynnig ar y geiriau amlwg yn gyntaf. Os ydych yn chwilio am wybodaeth am geir, teipiwch 'ceir' yn hytrach na 'moduron’.
Defnyddiwch eiriau sydd mor benodol â phosibl. Bydd chwilio am 'ffonau symudol’ yn creu canlyniadau mwy perthnasol na chwilio am 'Telathrebu’.
Does dim angen defnyddio brawddegau cyfan, na gofyn cwestiwn. Rhowch y geiriau rydych chi’n chwilio amdanyn nhw, dyna i gyd, a hynny mewn llythrennau bach neu briflythrennau.
Os hoffech chi chwilio am ymadrodd yn hytrach na gair unigol, dylech chi roi’r ymadrodd mewn dyfyn-nodau (hynny yw "meddalwedd cyfrifiadur"). Mae hynny’n golygu y bydd yr injan yn chwilio am yr ymadrodd yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na chwilio am y geiriau unigol sy’n rhan o’r ymadrodd. Gallwch gyfuno ymadrodd mewn chwiliad ag ymadroddion eraill, a/neu â geiriau unigol, yn ôl yr angen.
Os nad ydych yn sicr pa air yn union rydych chi’n chwilio amdano, gallwch nod-chwilio, sef chwilio drwy gyfrwng 'cerdyn gwyllt’ er mwyn dod o hyd i bob gair sy’n dechrau â gair penodol neu ran benodol o air.
Er mwyn nod-chwilio, rhowch seren ar ddiwedd gair neu ar ddiwedd rhan o air yn eich chwiliad. Er enghraifft, byddai chwilio am 'hysbyseb*' yn dod o hyd i bob tudalen sy’n cynnwys nid yn unig y gair hysbyseb, ond hefyd hysbysebu, hysbysebion etc.
Geiriau cyffredin
Dydy geiriau Saesneg cyffredin fel 'and', 'the' neu 'in' ddim yn cael eu cynnwys yn y canlyniadau wrth chwilio. Am fod y rhain mor gyffredin, maen nhw’n tueddu i arafu’r chwilio a chuddio’r ymadroddion allweddol rydych chi’n dymuno chwilio amdanyn nhw.
Canlyniadau’r Chwiliad
Mae canlyniadau’r chwiliad yn cael eu dangos fesul deg ar y tudalen. Os bydd mwy na deg o ganlyniadau, bydd y canlyniadau’n cael eu dangos dros fwy nag un tudalen, a gallwch droi at y rheiny drwy ddefnyddio’r botymau 'Nesaf' a 'Blaenorol' ar waelod pob tudalen o ganlyniadau. Bydd uchafswm o bum cant o ganlyniadau’n dod yn ôl am bob chwiliad.
I weld tudalen o blith y rhestr o ganlyniadau, cliciwch ar y cysylltiad pwrpasol. Os hoffech chi ddychwelyd i’r rhestr o ganlyniadau, defnyddiwch y botwm 'Nôl’ yn eich porwr.
Chwilio o fewn canlyniadau chwiliad blaenorol
Os nad ydych wedi dod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol wrth chwilio am y tro cyntaf, neu os ydych wedi cael nifer fawr o ganlyniadau, gallwch ddefnyddio’r opsiwn 'Chwilio o fewn y canlyniadau’ er mwyn chwilio’n fwy penodol. Bydd clicio ar y botwm 'Chwilio o fewn y canlyniadau’ ar y tudalen canlyniadau yn caniatáu ichi ychwanegu geiriau at eich chwiliad gwreiddiol, ond nawr byddwch yn chwilio o fewn canlyniadau’r ymholiad blaenorol yn unig.
Os ydych wedi defnyddio’r opsiwn 'Chwilio o fewn y canlyniadau’, ond eich bod chi bellach yn awyddus i wneud chwiliad newydd sbon ar y wefan, dylech glicio ar y botwm ‘Chwiliad Newydd’, neu rhowch eiriau newydd yn y blwch chwilio ar frig pob tudalen ar y wefan.
Chwiliad aflwyddiannus
Os na chewch chi ganlyniad wrth chwilio, bydd y tudalen sy’n cael ei ddangos yn cynnig nifer o ddewisiadau ichi i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani. Gallwch ddewis gwneud chwiliad newydd gyda geiriau gwahanol (edrychwch ar Cynghorion Chwilio uchod hefyd), chwilio o fewn eich chwiliad blaenorol, neu ddefnyddio’n Map Gwefan neu restr A – Y y wefan.

