Ewch yn syth i'r cynnwys

Hysbysiadau i’r wasg genedlaethol

Y Deg Cwyn Mwyaf Cyffredin

Cyswllt Defnyddwyr yn datgelu’r deg cwyn mwyaf cyffredin yn 2006

9 Ionawr 2007

Cafodd Cyswllt Defnyddwyr, gwasanaeth cyngor y llywodraeth sydd ar gael ar y ffôn ac ar-lein, fwy o gwynion am geir ail-law wedi’u prynu oddi wrth ddelwyr annibynnol nag unrhyw nwyddau neu wasanaethau penodol eraill yn 2006.

Mae’r ffigurau sydd wedi’u rhyddhau heddiw yn dangos bod Cyswllt Defnyddwyr wedi cofnodi 37,594 o achosion am gerbydau ail-law a brynwyd oddi wrth ddelwyr annibynnol, sef 3.9 y cant o’r cyfanswm o 963,684 o achosion a gofnodwyd yn 2006.

Cwynion am gytundebau gwasanaeth ar gyfer ffonau symudol ddaeth yn ail, gyda 24,799 o achosion, a chwynion am setiau teledu ddaeth yn drydydd gyda 18,311 o achosion. Cwynion am dramiau oedd y nifer isaf i gael eu cofnodi, sef pum achos yn unig.

Mae pob achos sy’n cael ei gofnodi gan Gyswllt Defnyddwyr yn cael ei nodi o dan un o 453 o godau cynhyrchion neu wasanaethau, sy’n galluogi’r gwasanaeth i greu darlun o’r meysydd sy’n peri’r pryder mwyaf i ddefnyddwyr. Mae hyn a data arall yn cael ei ddefnyddio wedyn i fwydo ac i ffocysu adnoddau a gwaith Gwasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdodau Lleol a’r Swyddfa Masnachu Teg.

Er bod y canlyniadau’r weddol gyson drwy’r wlad i gyd, roedd yna wahaniaethau. Contractau ar gyfer gwasanaethau ffonau symudol greodd y nifer fwyaf o gwynion i Gyswllt Defnyddwyr gan alwyr yn Llundain, a dodrefn lledr oedd y gŵyn amlycaf yn yr Alban.

O ddidoli’r 453 o godau penodol yn 66 o gategorïau cwyno cyffredinol, y tri maes uchaf ar gyfer cwynion oedd cynnal-a-chadw a gwella cartrefi, sef 7.7 y cant o’r achosion, ceir ail law gyda 6.6 y cant a thelathrebu gyda 5.8 y cant.

Cymerodd Cyswllt Defnyddwyr gyfanswm o ychydig dros 1.5 miliwn o alwadau ffôn a negeseuon e-bost gan ddefnyddwyr yn 2006, sef cynnydd o 79 y cant ers y flwyddyn flaenorol, yn rhannol am fod tair canolfan gysylltu newydd wedi’u hagor (yng Ngogledd-orllewin Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr) a chynnydd yn ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwasanaeth.

Dywedodd Christine Cryne, Cyfarwyddwr Cyswllt Defnyddwyr yn y Swyddfa Masnachu Teg: 'Yn 2006, llwyddodd Cyswllt Defnyddwyr i ymestyn ei waith i bob rhan o Brydain Fawr. Drwy gynnig cysylltiad â’r gwasanaeth i fwy o bobl, rydyn ni wedi llwyddo i sicrhau gwell gwybodaeth am y prif faterion sy’n wynebu defnyddwyr'.

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn darparu gwybodaeth am hawliau defnyddwyr ac mae’n cynghori galwyr ar sut i geisio cael iawn os aiff rhywbeth o’i le. Mae’r gwasanaeth yn cael ei reoli gan y Swyddfa Masnachu Teg a’i gyflwyno mewn partneriaeth â Gwasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdodau Lleol.

Gall pobl y mae arnyn nhw angen cyngor i ddefnyddwyr ffonio 08454 040505 neu edrychwch ar y wefan yn www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk

Y Deg Cwyn Mwyaf Cyffredin am nwyddau a gwasanaethau penodol yn 2006

Categori

Nifer yr achosion

% o gyfanswm yr achosion

Ceir ail law a brynwyd oddi wrth ddelwyr annibynnol

37594

3.9

Ffonau symudol (cytundebau gwasanaeth)

24799

2.6

Setiau teledu

18311

1.9

Gwaith adeiladu cyffredinol arall

17503

1.8

Ffonau symudol (caledwedd)

17115

1.8

Nwyddau a gwasanaethau personol (Eraill)

15223

1.6

Trwsio ceir a chynnal-a-chadw ceir gan fodurdai annibynnol

14498

1.5

Dodrefn clustogog

14426

1.5

Ceginau wedi’u ffitio

12819

1.3

Ceir ail law a brynwyd oddi wrth ddelwyr masnachfraint

12641

1.3

 

Tueddiadau cyffredinol y cwynion yn 2006

Categori

Nifer yr achosion

% o gyfanswm yr achosion

Cynnal-a-chadw a gwella cartrefi

74078

7.7

Ceir ail law

59562

6.2

Telathrebu

55733

5.8

Dodrefn

49641

5.2

Clyweledol

38661

4.0

Offer domestig mawr

30424

3.2

Cyfrifiaduron personol, ategolion, meddalwedd a gwasanaethau

26292

2.7

Dillad a defnydd ar gyfer dillad

23995

2.5

Trwsio ceir a chynnal-a-chadw ceir

23264

2.4

Bwyd a diod

20334

2.1

 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os ydych chi wedi talu am nwyddau a gwasanaethau ar gerdyn credyd, a’ch bod wedi gwario mwy na £100, efallai y bydd y cwmni credyd yr un mor gyfrifol am nwyddau diffygiol, gwaith o ansawdd wael neu wasanaethau annigonol.

Rhagor o Wybodaeth >