Hysbysiadau i’r wasg genedlaethol
Mae’r bwrdd wedi’i drefnu, mae’r blodau wedi’u harchebu ac mae’r fodrwy ddyweddïo ddrud wedi’i phrynu, ond sut cewch chi’ch arian yn ôl os bydd eich cariad yn dweud ‘na’?
13 Chwefror 2007
Y llynedd, cafodd Cyswllt Defnyddwyr, gwasanaeth cyngor y llywodraeth, nifer o alwadau gan gariadon a gafodd eu gwrthod ac a oedd yn gofyn sut i gael ad-daliad ar fodrwyon dyweddïo nad oedd eu hangen ar ôl 14 Chwefror.
Mae Michele Shambrook, Rheolwr Canolfannau Cysylltu Cyswllt Defnyddwyr, yn esbonio:
'Os ewch chi â modrwy dyweddïo nôl i’r siop am nad oes ei heisiau hi, mae’n flin gen i ddweud nad oes dim hawl gennych i gael ad-daliad awtomatig na’i newid am un arall, oni bai eich bod chi wedi gwneud cytundeb gyda’r gemydd. Felly, fe allech chi golli llawer o arian. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n sicrhau’r cytundeb yma mewn ysgrifen neu sicrhau bod hyn wedi’i ysgrifennu ar y dderbynneb.'
Efallai hefyd y bydd rhamantwyr sy’n cadw golwg ar eu harian am ystyried yr amddiffyniad ychwanegol sydd ar gael i ddefnyddwyr wrth brynu ar-lein. O ran y gyfraith, mae gan bobl sy’n prynu nwyddau ar-lein hawl fel rheol i ddychwelyd eitemau nad oes eu heisiau am hyd at saith diwrnod ar ôl iddyn nhw ddod i law - a gallai hynny fod yn ddefnyddiol iawn os nad ydych chi’n sicr y bydd eich cariad yn derbyn. Serch hynny, mae masnachwyr yn gallu codi am y cludiant wrth ddychwelyd nwyddau, ac mae yna eithriadau ar gyfer nwyddau sy’n cael eu gwneud yn unswydd, sy’n cael ei hengrafu neu eu haddasu er mwyn ffitio.
Mae Cyswllt Defnyddwyr wedi llunio’r rhestr ganlynol o gynghorion i’r rhai sy’n ystyried prynu gemwaith:
- Siopwch o le i le a chymharu ansawdd, prisiau, a gwasanaeth. Siopwch gyda chwmnïau adnabyddus neu ddibynadwy ac os na fyddwch yn gwneud hynny, gwnewch eich gwaith cartref er mwyn sicrhau eu bod yn ddilys. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth siopa ar-lein.
- Gofynnwch am bolisi ad-dalu neu bolisi dychwelyd y siop cyn ichi brynu. A chadwch eich derbynneb rhag ofn y bydd unrhyw broblemau.
- Chwiliwch am y dilysnod neu’r hallmark priodol ar emwaith metel, neu wrth brynu diemwntau (sef diemwntau o hanner carat neu fwy fel rheol), gwnewch yn siŵr eich bod yn cael tystysgrif.
- Gwnewch yn siŵr bod y gemydd yn ysgrifennu ar y dderbynneb unrhyw wybodaeth rydych chi wedi dibynnu arni wrth benderfynu prynu, er enghraifft pwysau neu faint yr em.
- Os ydych yn prynu gemwaith sy’n costio mwy na £100, ystyriwch ddefnyddio cerdyn credyd: fe allai hynny roi amddiffyniad ychwanegol os bydd problemau’n codi.
- Os ydych yn siopa am emwaith ar-lein, chwiliwch am gyfeiriad i ysgrifennu ato neu rif ffôn i’w alw os bydd gennych chi gwestiwn, problem neu angen help.
Gall unrhyw un sydd am gael rhagor o gyngor gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar 08454 040505 neu edrychwch

