Hysbysiadau i’r wasg genedlaethol
Wrth i benwythnos gŵyl y banc nesáu, mae Cyswllt Defnyddwyr, gwasanaeth cyngor y llywodraeth, yn annog pobl i feddwl yn ofalus cyn prynu dodrefn ar fympwy.
Mae Carol Brady, Rheolwr Gweithrediadau Cyswllt Defnyddwyr, yn esbonio:
'Mae prynu dodrefn ar fympwy yn gallu creu anawsterau penodol. Fe synnech chi faint o bobl sy’n prynu dodrefn mawr heb fesur i ddechrau. Os prynwch chi soffa a sylweddoli wedyn nad yw’n ffitio drwy’r drws, does dim hawl awtomatig gennych i gael ad-daliad.'
Cafodd Cyswllt Defnyddwyr bron 50,000 o ymholiadau a chwynion am ddodrefn y llynedd, sef pump y cant o gyfanswm yr achosion a gafodd eu cofnodi.
I helpu siopwyr i osgoi rhai o’r problemau cyffredin, mae Cyswllt Defnyddwyr wedi casglu’r cynghorion canlynol:
- Mesurwch y dimensiynau yn eich cartref cyn ichi fynd er mwyn sicrhau y bydd beth bynnag brynwch chi yn ffitio yn ei le a thrwy’r drysau.
- Os oes modd, ewch â sampl o’r defnydd adre gyda chi cyn ichi brynu. Bydd hynny’n rhoi cyfle ichi sicrhau bod y defnydd a’r lliw yn briodol.
- Chwiliwch am y cyfarwyddiadau glanhau ar y labeli. Gallai methu â dilyn y rhain gyfyngu ar eich hawliau os bydd problem yn codi ar ôl i’r eitem gael ei glanhau’n anghywir.
- Gofynnwch lawer o gwestiynau! Mae croeso ichi gael egluhad ar unrhyw bryderon sydd gennych, fel y dyddiad y daw’r nwyddau atoch chi. Os oes gennych chi gais penodol, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i roi mewn ysgrifen ar y ffurflen archebu. Bydd hynny wedyn yn cael ei drin fel teler pendant yn y contract.
- Ar gyfer eitemau sy’n costio mwy na £100, efallai y byddwch am ystyried talu â cherdyn credyd, gan y gallai cwmni’r cerdyn credyd fod yr un mor atebol os bydd y nwyddau’n ddiffygiol neu os nad ydyn nhw’n cyfateb i’r disgrifiad pan fyddan nhw wedi dod i law. Mae’n bosibl hefyd y bydd gennych hawliau tebyg yn erbyn y cwmni cyllid os caiff y cyllid ei drefnu gan y masnachwr.
- Cofiwch: ar ôl ichi lofnodi cytundeb gwerthu neu gytundeb cyllid yn y siop, fydd dim cyfnod ailfeddwl awtomatig gennych. Os bydd rhywun yn dweud ar lafar fod cyfnod ailfeddwl ar gael ichi, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen telerau ac amodau’r contract.
- Pan fydd y nwyddau wedi cyrraedd, cofiwch eu harchwilio’n ofalus. O dan y Ddeddf Gwerthu Nwyddau, rhaid i’ch nwyddau fod o ansawdd foddhaol, cyfateb i’r disgrifiad a bod yn addas at eu diben. Os gwelwch chi nam wrth archwilio’r nwyddau, dangoswch e i’r gyrrwr ar unwaith a nodi’ch pryderon ar y nodyn anfon. Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, y siop sy’n gyfrifol, nid y gweithgynhyrchydd. Rhowch wybod am unrhyw broblemau i’r siop cyn gynted â phosibl, a byddwch yn barod i roi’ch cwyn mewn ysgrifen.
I gael rhagor o gyngor cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr ar 08454 040505, neu edrychwch ar y wefan yn www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk.
- Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth sy’n cynnig cyngor i ddefnyddwyr dros y ffôn ac ar-lein. Mae’n cael ei ariannu gan y llywodraeth a’i redeg gan y Swyddfa Masnachu Teg. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Safonau Masnachu yr Awdurdodau Lleol i gynnig cyngor a gwybodaeth glir, ymarferol a diduedd i ddefnyddwyr.
- Mae gan Gyswllt Defnyddwyr ryw 350 o gynghorwyr wedi’u hyfforddi, mewn 11 o ganolfannau cysylltu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
- Mae’r llinell gymorth sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor ar gael ar un rhif ffôn cenedlaethol - 08454 04 04 05 – o 0800 – 1830 dydd Llun i ddydd Gwener, a 0900 – 1300 dydd Sadwrn, heblaw gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus.
- Mae gwasanaeth Cyswllt Defnyddwyr ar gael yn Saesneg ar 08454 04 05 06. Dylai defnyddwyr Minicom ffonio 08451 28 13 84.
- Mae galwadau ffôn i rifau 0845 Cyswllt Defnyddwyr yn costio dim mwy na phedair ceiniog y funud ar linell ddaearol BT. Gall taliadau am alwadau drwy ddarparwyr llinellau daearol eraill neu ffonau symudol fod yn wahanol. Holwch eich darparwr gwasanaeth ffôn i gael gwybod eich cyfradd chi.
- Mae gan Ogledd Iwerddon eu gwasanaeth eu hunain o’r enw ConsumerLine (sydd ar gael ar 08456 00 62 62) sy’n debyg i Gyswllt Defnyddwyr.
Ymholiadau’r CYFRYNGAU:
Frank Shepherd: 020 7211 8133/ 07747 457616

