Skip to content

Croeso. Mae Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyngor clir ac ymarferol i ddefnyddwyr.

Mae ein cynghorwyr rhanbarthol wedi’u hyfforddi’n arbennig i roi cyngor ymarferol am bob math o faterion defnyddwyr - o broblemau ceir i gyfarpar diffygiol yn y cartref.

Call us today: 08454 04 05 06

 

Cyfateb i’r disgrifiad a roddwyd

Rhaid i beth bynnag brynwch chi gyfateb i’r disgrifiad sy’n cael ei roi i’r cynnyrch. Rhaid i’r pecyn, y label ac unrhyw ddisgrifiad fod yn glir ac yn onest.

Felly:

  • Os prynwch chi got sy’n dweud ei fod ‘yn dal dŵr 100%’ yna ddylech chi ddim cael eich gwlychu at y croen os cewch chi’ch dal mewn storm daranau.
  • Os prynwch chi gadair sy’n dweud ei bod yn bîn solet 100%, ddylech chi ddim gweld wedyn mai laminad pîn yw hi.
  • Os prynwch chi gităr Fender Stratocaster 1970, ddylai hi ddim bod yn fodel o 1980 yn y pen draw.
  • Os prynwch chi dennyn ymestyn i’r ci, ac nad yw’n ymestyn, yna dydy’r tennyn ddim yn cyfateb i’r disgrifiad.

Ond beth sy’n digwydd ar ôl ichi fynd nôl i’r siop i ddychwelyd yr eitem? I sicrhau y cewch chi ganlyniad teg, edrychwch ar ein cyngor ar ôl ichi brynu.

 

Bod o ansawdd foddhaol

Mae gennych chi hawl i’r nwyddau a brynwch chi fod yn ddiogel, gweithio’n iawn a bod yn rhydd rhag diffygion.

Felly:

  • Os prynwch chi beiriant golchi newydd a bod hwnnw’n peri llifogydd yn eich cegin o hyd, mae’n bosibl nad yw’n ddiogel. Mae gennych chi hawl i beidio â chael eich peryglu gan rywbeth y byddwch yn ei brynu. Dylai’r peiriant golchi wneud ei waith yn ddiogel.
  • Os prynwch chi deledu sgrin fflat a bod y llun yn aneglur, yna mae’n bosibl nad yw’n gweithio’n iawn.
  • Os prynwch chi ffrog a bod honno’n crebachu ar ôl cael ei golchi unwaith, os ydych chi wedi dilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd fe allwch chi ddadlau bod nam arni a’ch bod yn disgwyl ei gwisgo fwy nag unwaith.

Mae’n ddigon posibl y bydd masnachwr yn gwneud yn well na’ch hawliau statudol ynghylch nwyddau diffygiol. Er enghraifft, fe allen nhw gynnwys hawl yn eu contractau i ddefnyddwyr ddychwelyd nwyddau nad ydyn nhw’n ddiffygiol yn eu pecyn gwreiddiol o fewn 30 diwrnod. Os felly, mae hynny hefyd yn hawl gyfreithiol y gall y defnyddiwr ei gorfodi. Beth bynnag y bydd polisi’r siop yn ei ddweud, fydd hynny ddim yn lleihau hawliau statudol y defnyddwyr. Yn ogystal â gwybod eich hawliau, mae’n talu bod yn barod. Darllenwch ein canllawiau a’n gwybodaeth ddefnyddiol ni ynghylch pethau i’w cadw mewn cof cyn ichi brynu.

 

Bod yn addas at eu diben

Rhaid i unrhyw nwyddau sy’n cael eu gwerthu ichi allu gwneud y peth y maen nhw i fod i’w wneud.

Felly:

  • Os prynwch chi glwb golff a bod hwnnw’n plygu yn ei hanner wrth ichi daro pêl, yna fe allech chi ddweud nad yw’n addas at y diben y prynsoch chi’r clwb ar ei gyfer. Mae’n eglur y dylai clwb golff gael ei wneud i daro pêl golff.
  • Os prynwch chi lud, gan ddweud eich bod am drwsio tsieina, ond eich bod yn gweld wedyn mai dim ond papur y gall ei ludo, yna dydy’r glud ddim yn addas at y diben y sonioch chi amdano.
  • Os prynwch chi argraffydd ar ôl dweud wrth y masnachwr bod rhaid iddo gyd-fynd â math penodol o gyfrifiadur ac nad yw’n cyd-fynd â’r cyfrifiadur, unwaith eto dydy’r argraffydd ddim yn addas at y diben y sonioch chi amdano.

Darllenwch ein hadran cymerwch ofal i weld pa nwyddau a gwasanaethau a ddenodd y nifer fwyaf o gwynion y llynedd.

 

Siopa mewn amgylcheddau gwahanol

Mae llawer o ffyrdd gwahanol i brynu nwyddau a gwasanaethau - ar y stryd fawr, yn uniongyrchol gan rywun sy’n gwerthu yn eich cartref, neu ar-lein.

Dyma’r hawliau mwyaf defnyddiol i’w cofio yn y gwahanol amgylcheddau:

Mewn siop

  • Os bydd diffyg ar y nwyddau, cofiwch bob amser mai cyfrifoldeb y manwerthwr yw datrys y broblem. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw warantiad neu warant sy’n cael eu rhoi gan y gweithgynhyrchydd.

Prynu gartref

  • Pan fydd masnachwr yn dod i werthu ichi yn eich cartref, fel rheol mae gennych chi gyfnod ailfeddwl o saith diwrnod ar ôl i’r contract gael ei wneud, pryd y gall yr archeb gael ei chanslo heb unrhyw reswm a chael ad-daliad llawn.

Ar y rhyngrwyd

  • Os prynwch chi nwyddau ar y rhyngrwyd, fel rheol mae gennych chi gyfnod ailfeddwl o saith diwrnod gwaith, gan ddechrau y diwrnod ar ôl ichi gael y nwyddau, pryd y gall yr archeb gael ei chanslo heb unrhyw reswm a chael ad-daliad llawn.

Gallwch gael rhagor o gyngor am siopa ar-lein yma. Er gwaethaf yr ofnau sydd gan bobl ynghylch siopa gartref, a dweud y gwir mae gennych chi hawliau ychwanegol wrth siopa ar y rhyngrwyd neu mewn catalog. Dilynwch ein cynghorion ni i sicrhau eich bod yn siopa’n ddiogel.

 

Prynu â cherdyn credyd

Os prynwch chi un eitem neu becyn o nwyddau, er enghraifft set o lestri cinio, am gost o fwy na £100 a’ch bod wedi talu â cherdyn credyd, mae’n bosibl y byddwch chi wedi’ch diogelu gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Mae honno’n dweud bod y cwmni cardiau credyd yr un mor atebol. Felly, os bydd problem yn codi, gallwch hawlio oddi wrth naill ai’r masnachwr neu’r cwmni cardiau credyd. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar prynu ar gredyd?


Mae cyngor am bob math o faterion defnyddwyr ar gael ar brif wefan Cyswllt Defnyddwyr.

 

Did you know

Os prynwch rywbeth sy’n costio mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw heibio i’ch cartref, mae gennych saith niwrnod i ganslo eich archeb.

Rhagor o Wybodaeth >