Ewch yn syth i'r cynnwys

Gwarantiadau estynedig

Os byddwch yn prynu nwyddau fel set deledu, cwcer neu beiriant golchi, efallai y cewch chi gynnig gwarant neu warantiad estynedig - ond fe all fod rhaid ichi dalu mwy amdano.

Back to top

Meddwl am warantiad estynedig

Meddyliwch yn ofalus am y gwerth am arian sy’n cael ei gynnig gan warantiad estynedig, oherwydd mae’n debyg o fod yn ddrud o’i gymharu â’r swm y byddech chi’n ei dalu fel rheol ar waith trwsio.

Mae rhai pobl yn anghofio bod gan y nwyddau y maen nhw’n eu prynu yn newydd warant y gweithgynhyrchydd, sydd fel arfer yn para am flwyddyn, a does dim angen prynu gwarantiad estynedig wrth ichi brynu’r nwyddau felly.

Os penderfynwch y byddech chi’n hoffi cael gwarantiad, does dim rhaid ichi ei brynu yn y siop lle prynsoch chi’r nwyddau. Mae nifer o gwmnïau - gan gynnwys cwmnïau yswiriant a’r gweithgynhyrchwyr eu hunain - yn gwerthu gwarantiadau estynedig ar bob math o nwyddau cartref, o dostiwr i gyfrifiadur. Weithiau, mae’r rhain yn gallu bod yn rhatach ac yn fwy cynhwysfawr na gwarantiadau estynedig y manwerthwyr. Erbyn hyn, mae hefyd yn bosibl prynu gwarantiad sy’n cynnwys nifer o offerynnau, megis yr holl offer trydan yn eich cegin. Felly mae’n sicr yn syniad da chwilio am sawl dyfynbris cyn ichi gytuno i godi gwarantiad.

Mae’r gyfraith hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr roi gwybodaeth benodol am warantiadau y maen nhw’n eu gwerthu, ac mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ganslo’ch gwarantiad estynedig os dewiswch chi. Cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr i gael cyngor.

Gweler hefyd Mynnwch wybod eich hawliau - Gwarantiadau estynedig i gael gwybodaeth am arian yn ôl, cynghorion a chymalau eithrio.


"Nôl i'r brig

Did you know

Efallai y bydd manwerthwyr nwyddau trydan yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig ichi. Os prynwch chi un, mae gennych chi 45 diwrnod i newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >