Ewch yn syth i'r cynnwys

Rhannu amser

Byddwch yn ofalus - mae rhai cwmnïau’n defnyddio tactegau digon amheus i werthu cynlluniau rhannu amser neu aelodaeth clybiau gwyliau. Er enghraifft, gallech chi gael cynnig gwobr neu rodd i’ch perswadio i fynd i gyflwyniad lle byddwch o dan bwysau mawr i lofnodi yn y fan a’r lle. Oni bai eich bod chi o ddifrif ynglŷn ag ystyried prynu gan y cwmni o dan sylw, cadwch draw.

Os byddwch yn llofnodi contract rhannu amser yn y DU, mae gennych chi gyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod pryd y cewch chi ganslo’r contract (ac unrhyw gytundeb credyd sy’n gysylltiedig â'r contract) yn rhad ac am ddim a sicrhau ad-daliad am unrhyw arian rydych wedi’i dalu. Rhaid i’r gwerthwr beidio â gofyn am arian gennych na derbyn arian gennych yn ystod y cyfnod ailfeddwl.

Mewn llawer gwlad arall, 10 diwrnod yw’r cyfnod ailfeddwl. Os nad ydych yn siŵr ynglŷn â’ch sefyllfa, peidiwch â llofnodi: arhoswch nes ichi gyrraedd adref a gofynnwch am gyngor cyfreithiol.

Mae clybiau gwyliau yn debyg iawn i gynhyrchion rhannu amser ond dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na chewch chi’r un amddiffyniad ag a gewch chi ar gyfer rhannu amser.

Gweler hefyd:

Os byddwch yn prynu cynllun rhannu amser neu aelodaeth mewn clwb gwyliau a'ch bod yn gweld wedyn nad ydych wedi cael popeth rydych chi wedi talu amdano, mae'n dal yn bosib y gallwch gael eich arian yn ôl, ar yr amod eich bod wedi talu ar gredyd. Ond os byddwch yn digwydd newid eich meddwl, dydy hyn ddim yn gymwys.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os byddwch yn prynu cyfrifiadur ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gan y cwmni gyfeiriad a rhif ffôn yn y DU, rhag ofn bod rhaid ichi gysylltu â nhw os bydd problem yn codi.

Rhagor o Wybodaeth >