Ewch yn syth i'r cynnwys

Tocynnau

Taliadau ychwanegol, hawliau canslo, y math o sedd - gall prynu tocyn fod yn fwy cymhleth nag y tybiech chi. Dysgwch bopeth y mae angen ichi ei wybod er mwyn prynu’n wybodus, drwy ddarllen ein canllaw cyflym isod.

Back to top

Gwneud dewis gwybodus

Wrth brynu tocyn mae’n bwysig bod yn glir o ran yr hyn sy’n cael ei werthu ichi a bod gennych chi ddigon o wybodaeth i wneud dewis gwybodus. Ydych chi’n gwybod:

  • pa fath o sedd neu docyn rydych chi’n ei brynu?
  • a yw’r pris y mae gofyn ichi ei dalu yn un teg neu ai dyna’r pris gorau sydd ar gael?
  • beth yw’ch hawliau os bydd pethau’n mynd o chwith ac i bwy y dylech chi gwyno?
  • gwerth enwol y tocyn?

Mae’r canlynol yn gwestiynau y dylech eu gofyn i chi’ch hun wrth brynu tocyn:

Pris

  • ai dyma’r pris rhataf y gallaf ei dalu?
  • alla i brynu’r tocyn rywle arall?
  • alla i brynu’r tocyn heb dalu ffioedd ychwanegol (gan swyddfa docynnau er enghraifft)?

Ansawdd

  • oes rhywbeth i ddangos pa fath o docyn rydw i’n ei brynu (seddau blaen/balconi/golygfa gyfyngedig)?
  • ydy gwerth enwol y tocyn yn cael ei ddangos?

Anfon y tocynnau

  • ydw i’n gwybod pa bryd y ca i’r tocynnau?
  • fydd fy nhocynnau’n cael eu hanfon o dan yswiriant neu drwy’r dosbarthiad cofnodedig neu oes rhaid imi eu casglu nhw?

Problemau

  • beth sy’n digwydd os na fydd fy nhocynnau’n cyrraedd?
  • beth sy’n digwydd os caiff y digwyddiad ei ganslo? Fydda i’n cael fy arian yn ôl?
  • beth sy’n digwydd os bydd lleoliad neu ddyddiad y digwyddiad yn newid? Fydda i’n cael fy arian yn ôl?
  • beth sy’n digwydd os na alla i fynd i’r digwyddiad? Fyddan nhw’n rhoi ad-daliad neu’n cynnig ailwerthu’r tocyn?

Back to top

Eich hawliau

Gweler Mynnwch wybod eich hawliau - Tocynnau i gael gwybodaeth am eich hawliau ar ôl ichi brynu tocynnau.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch chi rywbeth sy’n werth mwy na £35 oddi wrth werthwr sy’n galw yn eich tŷ heb wahoddiad, mae gennych chi saith diwrnod i ganslo’ch archeb.

Rhagor o Wybodaeth >