Ewch yn syth i'r cynnwys

Eiddo

Os ydych yn defnyddio gwerthwr eiddo i werthu eiddo yng Nghymru a Lloegr, mae yna bethau i’w cadw mewn cof. Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwrw golwg manwl ar eich contract cyn ei lofnodi, a mynnwch gyngor cyfreithiol os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall yn llawn. Mae hefyd yn bwysig cyfrif pa ffioedd a thaliadau yn union y bydd rhaid ichi eu talu.

Back to top

Gwerthu eiddo yng Nghymru a Lloegr

Os ydych yn defnyddio gwerthwr tai i werthu eiddo yn Lloegr, mae’n werth cofio rhai pethau. Gwnewch yn siwr eich bod yn darllen eich contract yn fanwl cyn ei lofnodi a cheisiwch gyngor cyfreithiol os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall yn llwyr. Mae’n bwysig hefyd i wybod yn gywir pa ffioedd a chostau y byddwch yn gyfrifol amdanynt.


Back to top

Dewis gwerthwr tai

Gallwch werthu’r eiddo eich hun, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio gwerthwr tai.

Dylech chwilio o gwmpas am werthwr tai. Gofynnwch am eu hargymhellion i ffrindiau neu berthnasau sydd newydd brynu neu werthu eiddo. Dewiswch werthwr tai sy’n gwerthu eich math chi o eiddo ac sy’n cynnig contract sy’n addas i chi.

Back to top

Buddiannau personol

Cofiwch fod gwerthwyr eiddo yn gallu bod mewn sefyllfa i gael enillion personol drwy werthu eiddo. Rhaid iddyn nhw ddweud wrthoch chi yn brydlon, ac yn ysgrifenedig, os yw’ch gwerthwr eiddo, neu berthynas neu bartner busnes i’ch gwerthwr eiddo, yn awyddus i brynu’ch eiddo chithau.

Gallech ddefnyddio gwerthwr tai sy’n aelod o Gynllun yr Ombwdsmon Eiddo.

Fel arfer, gallwch ddod o hyd i un aelod o leiaf o Gynllun yr Ombwdsmon Eiddo ar y stryd fawr. Mae aelodau o’r cynllun yn dilyn cod ymarfer gwirfoddol sydd wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Masnachu Teg ac mae’n golygu os yw pethau’n mynd o chwith, bydd yr Ombwdsmon Eiddo yn helpu datrys y broblem.

Gweler 'Os yw pethau’n mynd o chwith’ isod.

Back to top

Buddiant personol

Cofiwch y gall gwerthwyr tai fod mewn sefyllfa i elwa’n bersonol ar werthu eiddo. Mae’n rhaid i chi gael gwybod yn brydlon ac yn ysgrifenedig os yw’ch gwerthwr tai, neu berthynas neu bartner busnes y gwerthwr tai, am brynu eich eiddo.

Back to top

Y contract

Cofiwch y gall gwerthwyr tai fod mewn sefyllfa i elwa’n bersonol ar werthu eiddo. Mae’n rhaid i chi gael gwybod yn brydlon ac yn ysgrifenedig os yw’ch gwerthwr tai, neu berthynas neu bartner busnes y gwerthwr tai am brynu eich eiddo.

Pan fyddwch yn defnyddio gwerthwr tai i’ch helpu i werthu eiddo, mae’n rhaid i chi lofnodi contract cyfreithiol cyfrwymol.

Cyn llofnodi’r contract, darllenwch ef yn ofalus a gwnewch yn siwr eich bod yn ei ddeall. Ceisiwch ddarganfod a oes gennych yr hawl i ganslo’r contract. Gwiriwch beth yw cyfnod y contract. Dylai’r contract fod am gyfnod rhesymol sy’n ddigonol at ddibenion marchnata eich eiddo yn effeithiol a dod o hyd i ddarpar brynwyr. Byddwch yn wyliadwrus o gontractau sy’n eich cadw yn rhwym i werthwr tai am gyfnod maith iawn.

Os ydych yn ansicr, ceisiwch gyngor gan gyfreithiwr. 

Mae’n bosibl y dewch ar draws rhai termau yn y contract nad ydynt yn gyfarwydd i chi. Gwnewch yn siwr eich bod chi’n deall beth rydych yn cytuno iddo. Rhaid esbonio termau fel ‘unig asiantaeth’, unig hawliau gwerthu’ a ‘phrynwr parod, bodlon a chymwys’ yn ysgrifenedig os cânt eu defnyddio mewn contract.

Unig asiantaeth
Y gwerthwr tai yw'r unig werthwr sydd â’r hawl i werthu’ch eiddo. Os byddwch yn dod o hyd i brynwr eich hunan, nid oes rhaid i chi dalu comisiwn y gwerthwr tai er mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu o hyd am hysbysebu neu am arwydd ‘Ar Werth’.
Os ydych yn newid o un gwerthwr tai i un arall, mae’n bosibl y bydd cyfnod, os caiff eich eiddo ei werthu, pan fydd talu comisiwn i’r ddau werthwr tai  yn ddyledus.

Unig hawliau gwerthu
Y gwerthwr tai yw’r unig un sydd â’r hawl i werthu eich eiddo. Mae’n wahanol i unig werthwr: os byddwch yn dod o hyd i brynwr eich hunan, mae’n rhaid i chi dalu’r gwerthwr tai o hyd.

Prynwr parod, bodlon a chymwys
Mae’n rhaid i chi dalu os bydd eich gwerthwr tai yn dod o hyd i brynwr sy’n barod ac yn gymwys i brynu eich eiddo ac i gyfnewid contractau diamod. Mae’n rhaid i chi dalu hefyd hyd yn oed os byddwch yn tynnu’n ôl o’r gwerthiant ac ni chyfnewidiwyd contractau diamod.

Amlasiantaeth
Gallwch ofyn i sawl gwerthwr tai weithredu ar eich rhan ar sail amlasiantaeth. Dim ond y gwerthwr a fydd yn gwerthu’r eiddo fydd â hawl i daliad comisiwn. Mae’n debygol y bydd cyfradd y comisiwn yn uwch nag ar gyfer contract unig asiantaeth neu gontract unig hawliau gwerthu.

Mae ychydig o werthwyr tai yn cynnig contract 'unig asiantaeth ar y cyd' lle mae dau werthwr yn cytuno i rannu un comisiwn er gall y ffi fod yn uwch.
Os ydych yn penodi mwy nag un gwerthwr tai i werthu eich eiddo yn unol â chontract unig asiantaeth neu gontract unig hawliau gwerthu, mae gan bob gwerthwr yr hawl i’w ffi pan fydd yr eiddo wedi’i werthu. Fodd bynnag, bydd angen iddynt ddangos eu bod wedi perswadio’r prynwr i brynu’r eiddo.

Costau
Cyn byddwch yn llofnodi contract, mae’n rhaid i’r gwerthwr tai roi manylion ysgrifenedig i chi o’r swm y codir arnoch a phryd bydd angen talu.

Mae’n rhaid i’r gwerthwr tai ddatgan yr union swm y codir arnoch neu, os nad oes modd gwneud hyn, y modd y cyfrifir y gost ac amcangyfrif o’r swm terfynol.

Byddwch yn talu canran o’r pris y gwerthwyd eich eiddo fel comisiwn.

Mae rhai gwerthwyr tai yn codi canran isel ynghyd â swm ychwanegol am hysbysebu ac arwyddion ‘Ar Werth’. Yn yr achos hwnnw, dylai’r gwerthwr tai ddweud wrthych yn union faint fydd y swm ychwanegol. Os nad oes modd gwneud hyn, dylech gael amcangyfrif o’r gost a dadansoddiad o’r modd y’i cyfrifir.

Bydd gwerthwyr eraill yn codi canran uwch o’r pris gwerthu ond mae hwn yn cynnwys yr holl gostau.
Ambell waith, efallai y bydd gwerthwr tai yn codi ffi sefydlog yn hytrach na chanran.

Dylai fod yn glir o delerau ac amodau’r gwerthwr tai pryd mae’n rhaid i chi dalu. Fel arfer, mae ffioedd yn ddyledus pan gyfnewidir contractau ond nid ydych yn talu nes bod y gwerthiant wedi’i gwblhau.

Yn unol â chontract prynwr parod, bodlon a chymwys [gweler uchod], mae’n rhaid i chi dalu cyn gynted ag y deuir o hyd i brynwr sy’n barod ac yn gymwys i gyfnewid contractau diamod. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os byddwch yn tynnu’ch eiddo yn ôl cyn cwblhau’r gwerthiant. Mae’n bosibl y bydd y gwerthwr tai yn codi tâl arnoch am arwyddion ‘Ar Werth’ ac am hysbysebu.

Manylion am yr eiddo
Bydd y gwerthwr (neu’r gwerthwyr) tai rydych wedi’i ddewis (wedi’u dewis) yn ymweld â’ch cartref i gael manylion fel nifer a maint yr ystafelloedd. Bydd hyn yn helpu’r gwerthwr i baratoi disgrifiad o’r eiddo (a elwir yn fanylion yr eiddo) cyn ei hysbysebu.

Mae rheolau llym ynghylch y modd y gellir disgrifio eiddo. Mae yn erbyn y gyfraith i werthwr tai wneud datganiadau anwir neu gamarweiniol ynghylch manylion eiddo.

Gwasanaethau eraill
Mae’n bosibl y bydd y gwerthwr tai yn cynnig darparu gwasanaethau ychwanegol i chi neu argymell gwasanaethau eraill gan drydydd barti (er enghraifft, darparwyr Pecyn Gwybodaeth am Eiddo neu gyfreithwyr/ trosgludiaethwyr). Nid oes rhaid i chi dderbyn argymhellion y gwerthwr tai - gallwch chwilio o gwmpas ac efallai gael bargen well.

Mae gwerthwyr tai yn darparu gwasanaethau i brynwyr hefyd. Efallai byddant yn trefnu arolygon a phrisiadau neu’n trefnu morgeisiau neu yswiriant bywyd. Mae hyn yn gyffredin pan fydd cwmni gwerthu tai yn rhan o sefydliad ariannol fel banc neu gymdeithas adeiladu neu â chysylltiad â hwy.

Gall y gwerthwr tai dderbyn comisiwn neu ffi cyflwyno. Os dyna’r achos, mae’n rhaid i’r gwerthwr tai roi manylion yn ysgrifenedig i chi. Fel arfer, nodir hyn yn eu contract. Os mai chi yw’r gwerthwr a bod y prynwr yn penderfynu prynu drwy eich gwerthwr tai chi, mae’n rhaid iddynt eich hysbysu chi yn ysgrifenedig hefyd. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os bydd y gwerthwr tai yn cynnig gwasanaethau drwy rywun arall.

Cael cynigion
Mae darpar brynwyr yn dod i edrych ar eich eiddo. Os ydynt am ei brynu, gallant wneud cynnig drwy’r gwerthwr tai neu, os ydych yn gwerthu heb ddefnyddio gwerthwr tai, yn uniongyrchol i chi.

Mae’n rhaid i werthwr tai roi gwybod i chi yn brydlon ac yn ysgrifenedig am bob cynnig a gyflwynwyd iddynt. Os oes rhai nad ydych am wybod amdanynt, fel rhai sy’n is na swm penodol mae’n rhaid i chi hysbysu’r gwerthwr tai am hyn yn ysgrifenedig.

Nid oes rhaid i chi dderbyn y cynnig uchaf na’r cynnig cyntaf. Oni bai eich bod yn dweud i’r gwrthwyneb, dylai’r gwerthwr tai eich hysbysu o bob cynnig newydd fel y’u cyflwynir hyd yn oed os ydych yn ystyried gwerthu i brynwr penodol neu os ydych wedi derbyn cynnig yn barod.

Os oes gennych gontract prynwr parod, bodlon a chymwys a bod cynnig am y pris llawn a ofynnir amdano wedi’i gael gan rywun sy’n barod ac yn gallu prynu eich eiddo, gall y gwerthwr tai hawlio tâl comisiwn gennych hyd yn oed os na fyddwch yn derbyn y cynnig hwnnw.

Hyd yn oed ar ôl i chi dderbyn cynnig, gallwch chi a’r prynwr fel ei gilydd ail-drafod y pris a/neu amodau’r gwerthiant, neu dynnu’n ôl heb gosb hyd nes bydd y contractau’n naill ai cael eu cyfnewid neu eu derbyn.

Fodd bynnag, os oes gennych gontract prynwr parod, bodlon a chymwys efallai bydd yn rhaid i chi dalu’r gwerthwr tai os byddwch yn tynnu’n ôl cyn cyfnewid contractau. Mae’n dibynnu ar beth a ddigwydd yn ystod trafodaethau.

Pecyn Gwybodaeth am Eiddo (HIP)
Er 14 Rhagfyr 2007, mae’n rhaid i bob eiddo sydd ar y farchnad, waeth beth fo’i faint, gael Pecyn Gwybodaeth am Eiddo. Mae’n crynhoi gwybodaeth bwysig ar ddechrau’r broses fel datganiad gwerthu, chwiliadau lleol a thystiolaeth hawl a allai arbed arian, amser a phryder. Mae’r Pecyn yn cynnwys Tystiolaeth Perfformiad Ynni hefyd sy’n rhoi cyngor ynghylch sut i leihau allyriadau CO2 a gostwng biliau tanwydd.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r rhan fwyaf o berchnogion tai yng Nghymru a Lloegr baratoi Pecyn Gwybodaeth am Eiddo cyn y gallant roi eu cartref ar werth.

Mae’r Pecyn yn crynhoi gwybodaeth allweddol y mae ei hangen ar brynwyr a gwerthwyr ar gychwyn y broses o brynu cartref.

Pan fydd y marchnata’n cychwyn, mae’n rhaid i’r Pecyn gynnwys o leiaf y canlynol:

  • datganiad gwerthiant  
  •  tystiolaeth o hawl (ar gyfer eiddo cofrestredig) 
  •  mynegai o’r cynnwys 
  •  tystysgrif Perfformiad Ynni
  •  tystiolaeth o hawl (ar gyfer eiddo cofrestredig)
  • chwiliadau safonol (neu brawf eu bod wedi’u comisiynu) - Dylai’r rhain gynnwys
  • mholiadau’r awdurdod lleol a chwiliad draenio a dŵr.
  • Dogfen lesddaliad a chydradd-ddaliad lle y bo’n briodol
  • Holiadur Gwybodaeth am Eiddo (mae hyn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ddefnyddiol am yr eiddo i brynwyr i’w helpu i wneud penderfyniad i edrych ar eiddo neu roi cynnig amdano).
  • Mae’r dogfennau canlynol yn orfodol hefyd, ond gellir eu hychwanegu at y Pecyn Gwybodaeth am Eiddo yn ddiweddarach os oes oedi cyn eu cael:
  • tystiolaeth o hawl (ar gyfer eiddo nis cofrestrwyd)
  • chwiliadau
  • dogfennau lesddaliad / cydradd-ddaliad.

Lle mae unrhyw eitemau yn eisiau, dylai’r mynegai gynnwys y rheswm am hynny. Lle mae chwiliadau, dogfennau lesddaliad neu gydradd-ddaliad yn eisiau, mae’n rhaid i’r gwerthwr gyflwyno tystiolaeth bod cytundeb wedi’i wneud i’w cyflwyno cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol ac o fewn 28 diwrnod ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Os bydd hyn yn cymryd mwy na 28 diwrnod, disgwylir i’r sawl sy’n marchnata’r eiddo ddangos eu bod wedi gwneud pob ymdrech ac ymholiad rhesymol i’w cael.

Back to top

Beth y mae angen i mi ei wneud?

Mae’n rhaid i’r sawl sy’n marchnata eiddo fod â Phecyn Gwybodaeth am Eiddo yn eu meddiant  tra bod yr eiddo ar y farchnad a darparu copi o’r Pecyn neu unrhyw ddogfen ohono ar gais i ddarpar brynwr ac o fewn y ‘cyfnod a ganiateir’.

Nid yw’r dyletswyddau hyn yn berthnasol i werthwyr mewn achosion lle mae’r gwerthwr tai yn gyfrifol am farchnata’r eiddo.

Y ‘cyfnod a ganiateir’ yw naill ai 14 diwrnod yn dilyn cais am gopïau neu, os yn ddiweddarach, y dyddiad y cafwyd taliad am y copïau.

Ble gallaf gael Pecyn Gwybodaeth am Eiddo?

Fel arfer bydd arnoch angen Pecyn Gwybodaeth am Eiddo os ydych yn gwerthu eiddo preswyl preifat ar y farchnad agored. Fel gwerthwr, mae gennych nifer o ddewisiadau:

  •  gwneud un eich hunan 
  •  defnyddio darparwr Pecynnau sy’n arbenigo yn y gwaith 
  • defnyddio gwerthwr tai 
  •  gofyn i gyfreithiwr baratoi un 
  •  gofyn am gymorth busnesau eraill, fel ymgynghorwyr ariannol 
  •  mae rhai archfarchnadoedd wedi datgan hefyd efallai y byddant hwy yn darparu Pecynnau. 

Gellir cael mwy o wybodaeth fanylach yn www.homeinformationpacks.gov.uk

Back to top

Os yw pethau’n mynd o chwith
Er 1 Hydref 2008, mae’n rhaid i bob gwerthwr tai sy’n ymwneud â gwaith gwerthwr tai preswyl berthyn i gynllun gwneud iawn a gymeradwywyd gan y Swyddfa Masnachu Teg. Mae hyn yn golygu y gall prynwyr a gwerthwyr gwirioneddol a darpar brynwyr a darpar werthwyr sydd â chwynion am waith gwerthwyr tai ddefnyddio cynllun gwneud iawn am ddim, teg sy’n hawdd cael mynediad ato a fydd â’r grym i wneud ystod o benderfyniadau gan gynnwys gofyn i aelod wneud iawndal.

Ar hyn o bryd, mae dau gynllun wedi’u cymeradwyo ac fe'u gweithredir gan Yr Ombwdsmon Eiddo a Gwasanaeth Ombwdsmon y Syrfewyr.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y cynlluniau gwneud iawn ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg.


"Nôl i'r brig

Did you know

Wrth brynu cyrfrifiadur personol, ceisiwch ddarganfod pa feddalwedd sy’n cael ei gynnwys ac a yw wedi cael ei osod ymlaen llaw.

Rhagor o Wybodaeth >