Gwystlo
Meddwl defnyddio gwystlwr (poniwr) i fenthyg arian? Dysgwch sut mae’n gweithio, faint y bydd rhaid ichi ei dalu, a beth yw’ch hawliau cyn ichi lofnodi cytundeb credyd.
Gallwch fynd at wystlwr i gael benthyciad, ond bydd rhaid ichi adael rhywbeth (y gwystl) fel gwarant. Gall fod rhaid ichi dalu mwy o log ar y benthyciad nag y byddech chi’n ei dalu i fanc neu gymdeithas adeiladu.
Bydd y gwystlwr yn gofyn ichi lofnodi cytundeb credyd. Peidiwch â’i lofnodi oni bai eich bod yn deall yr amodau i gyd.
Bydd y gwystlwr hefyd yn rhoi derbynneb wystlo ichi. Bydd hon ar wahân i’r cytundeb credyd neu wedi’i chynnwys ynddo. Cadwch y dderbynneb yma - mae’n profi mai chi yw perchennog yr eitem.
Fel rheol, byddwch yn cael eich eitem yn ôl (ei hatbrynu) drwy roi’ch derbynneb wystlo yn ôl a thalu’r hyn sydd arnoch chi o dan y cytundeb credyd. Mae gennych chi chwe mis fel rheol i atbrynu eitem, ond efallai y bydd y gwystlwr yn cytuno ar gyfnod hirach pan fyddwch yn gwneud y cytundeb.
Os na allwch chi dalu’r swm sydd arnoch chi erbyn y dyddiad cau, a’ch bod wedi benthyg £75 neu lai, bydd y gwystlwr yn cadw’ch gwystl.
Os ydych wedi benthyg mwy na £75, caiff y gwystlwr werthu’r gwystl er mwyn adennill eich dyled. (Chi biau’r gwystl nes iddo gael ei werthu ac mae’n dal yn bosibl ichi ei atbrynu drwy dalu’ch dyled, gan gynnwys y llog sydd wedi cronni.)
Os na allwch chi dalu’ch dyled erbyn y dyddiad cau, caiff y gwystlwr gadw’r eitem neu ei gwerthu.
Bydd rhai gwystlwyr yn cynnig cynlluniau 'gwerthu a phrynu'n ôl’ hefyd.
Anfanteision defnyddio gwystlwr
Gall fod rhaid ichi dalu mwy o log ar y benthyciad nag y byddech chi’n ei dalu i fanc neu gymdeithas adeiladu.
Os collwch chi’ch derbynneb wystlo, caiff y gwystlwr wrthod rhoi’r gwystl yn ôl.
Os na allwch chi dalu’ch dyled a bod y gwystlwr yn gwerthu’r gwystl, fe allai gael ei werthu am lai na’r gwerth roeddech chi’n disgwyl ei gael. Ac os bydd yn codi llai na swm eich dyled, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth.
Os na allwch chi dalu’ch dyled, ac nad ydych am i’r eitem gael ei gwerthu, efallai y bydd y gwystlwr yn cytuno i adnewyddu’ch benthyciad. Bydd gofyn fel arfer ichi dalu’r llog sydd wedi cronni ar y benthyciad wrth ichi adnewyddu’r benthyciad. Rhaid i’r gwystlwr roi cytundeb arall ichi ('cytundeb diwygio’) pan fyddwch yn adnewyddu benthyciad.
Os bydd eich gwystl yn gwerthu am fwy na swm eich dyled, fyddwch chi ddim yn cael y gwahaniaeth yn awtomatig - efallai y bydd rhaid ichi ofyn i’r gwystlwr amdano. Ond yn ôl y gyfraith mae’r gwystlwr o dan rwymedigaeth i dalu’r gweddill i chi.
Os collwch chi’ch derbynneb wystlo, dywedwch wrth y gwystlwr fel na fydd neb arall yn gallu ei defnyddio. Gall y gwystlwr wrthod rhoi’r gwystl yn ôl ond mae’n bosibl y gallwch ei gael yn ôl drwy dalu’ch dyled a llofnodi datganiad sy’n dweud eich bod wedi colli’ch derbynneb wystlo ac mai chi yw’r perchennog. Os ydych chi wedi benthyg mwy na £75, bydd rhaid ichi sicrhau bod Comisiynydd Llwon, Ynad Heddwch neu Notari Cyhoeddus yn ardystio’ch datganiad. Gallwch ddefnyddio cyfreithiwr lleol hefyd, ond efallai y bydd rhaid ichi dalu ffi.
Os ydych yn credu bod y pris gafodd ei dalu am y gwystl yn rhy isel neu fod y costau gwerthu’n rhy uchel, siaradwch â’r gwystlwr.
Os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch fynd â’r gwystlwr i lys hawliadau bychain. Mae’n anffurfiol ac yn hawdd ei ddefnyddio: does dim rhaid ichi fynd at gyfreithiwr. Bydd rhaid i’r gwystlwr brofi bod y pris yn un teg a bod y costau gwerthu’n rhesymol, ond mae’n syniad da i chithau sicrhau tystiolaeth sy’n dangos pam nad oedd hynny’n wir.
Ond cofiwch: mae gwerth nwyddau ail-law, hyd yn oed gemwaith, yn llawer llai at ei gilydd na phris eitemau newydd ac yn gallu bod yn llai na’r swm y maen nhw wedi’u hyswirio ar ei gyfer. Ac os cafodd y gwystl ei werthu mewn ocsiwn cyhoeddus, mae’r llysoedd yn debyg o feddwl bod y pris a gododd yn deg, dim ots pa mor isel.
- Os ydych yn anfodlon ar wasanaeth gwystlwr, gweler Mynnwch wybod eich hawliau - Gwystlo i gael rhagor o wybodaeth.
Mae rhai benthycwyr (gan gynnwys rhai gwystlwyr) yn cynnig cynlluniau 'gwerthu a phrynu'n ôl’. Byddwch yn gwerthu eitem i’r benthyciwr ac yn cael ei phrynu’n ôl wedyn am bris uwch o fewn cyfnod byr o amser. Mae hefyd yn bosibl trefnu gyda’r benthyciwr eich bod yn prynu’r eitem yn ôl fesul rhandaliad (sydd yn aml yn cael ei alw’n gynllun 'neilltuo’).
Er hynny, does gennych chi mo’r un hawliau na’r un diogelwch o dan y cynlluniau yma ag sydd gennych wrth wystlo.

