Ffonau symudol
Meddwl prynu ffôn symudol? Boed contract ynteu talu wrth fynd, bydd ein canllaw cyflym yn eich helpu i osgoi problemau.
Os ydych yn prynu ffôn symudol, mae’n rhaid iddo fod o ansawdd foddhaol, yn addas at ei ddiben ac yn cyd-fynd â’r disgrifiad.
Pan na fydd ffôn symudol yn bodloni rhai neu’r cyfan o’r amodau hyn, dilynwch y cyngor isod:
- Os mai dim ond ers ychydig wythnosau mae’r ffôn gennych chi neu os nad ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n debyg bod gennych chi hawl i gael ad-daliad ar gyfer nam neu ddisgrifiad gwael, neu fel arall gallech ofyn am un arall yn ei le.
- Os mai mân wall yn unig sydd yna a bod modd ei gywiro’n hawdd, mae’n rhesymol derbyn atgyweiriad. Fydd hynny ddim yn eich atal rhag hawlio un newydd neu ad-daliad os yw’r gwaith trwsio yn anfoddhaol wedyn.
- Os yw’r ffôn gennych chi ers mwy nag ychydig wythnosau neu os ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n dal yn debyg y bydd gennych chi hawl i gael ei drwsio neu i gael un arall. Dylai’r gwaith trwsio gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol o amser a heb beri anghyfleuster arwyddocaol ichi. Dylai unrhyw waith trwsio adfer y ffôn i gyflwr boddhaol. Os nad yw hynny’n digwydd, mae gennych hawl i gael un newydd neu iawndal. Gallai hynny fod yn swm o arian neu gost cael rhywun arall i drwsio’r ffôn.
- Os nad oes modd cael ffôn newydd neu os nad yw’n ddarbodus trwsio’r ffôn, mae gennych hawl i gael ad-daliad. Gall y masnachwr dynnu rhywfaint oddi ar y pris a daloch chi, i ganiatáu am y defnydd gawsoch chi ar y ffôn.
- Os ydych chi ar eich colled mewn unrhyw ffordd arall, efallai fod gennych hawl i gael iawndal yn ychwanegol at bris y ffôn.
Y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem, nid y gweithgynhyrchydd
Cofiwch: os oes gennych hawl i gael ad-daliad, ffôn newydd, atgyweiriad neu iawndal, y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem. Chaiff y masnachwr ddim dweud wrthoch am fynd yn ôl at y gweithgynhyrchydd neu wneud cais drwy warant neu warantiad.
Darparwr gwasanaethau rhwydwaith
Wrth brynu ffôn symudol, er mwyn gwneud galwadau neu dderbyn galwadau bydd angen ichi gael cysylltiad â rhwydwaith. Gallwch wneud hyn drwy drefnu contract rhentu llinell neu drwy brynu taleb a fydd yn caniatáu ichi ddefnyddio’r rhwydwaith. Ar yr adeg yma, byddwch yn gwneud contract gyda’r Darparwr Gwasanaethau Rhwydwaith. Os byddwch yn newid eich meddwl, does dim hawliau gennych.
Os nad yw’r gwasanaeth wedi’i gyflawni o gwbl, neu os yw’n methu’n llwyr â chyfateb i’r disgrifiad a gawsoch, efallai y bydd gennych chi hawl i gael ad-daliad, iawndal, neu’r ddau.
Os oes nam ar y rhwydwaith neu ar y cerdyn SIM, mae’n debyg y bydd gennych hawl i gael iawndal.
Pethau pwysig i’w cadw mewn cof:
- Darllenwch delerau ac amodau’ch cytundeb gyda’r Darparwr Gwasanaethau Rhwydwaith.
- Os ydych wedi newid eich meddwl, does dim hawliau gennych.
- Er hynny, mae gennych chi saith diwrnod gwaith i ganslo contract am nwyddau sydd wedi’u harchebu dros y ffôn, drwy’r post, yr e-bost neu’r ffacs, ac eithrio’r nwyddau hynny sy’n cael eu gwneud yn unswydd ar gyfer eich archeb chi. Gweler Dychwelyd neu ganslo archebion i gael rhagor o wybodaeth.
- Os ydych chi wedi prynu ar gredyd, efallai y gallwch wneud cais yn erbyn y cwmni cyllid. Gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth.
- Os dewiswch ffôn contract yn hytrach na ffôn lle rydych yn talu ymlaen llaw, byddwch wedi ymrwymo i ddefnyddio rhwydwaith penodol, a hynny yn ôl tariff penodol ac am ryw isafswm amser, heb hawl gyfreithiol i newid y tariff nac i ganslo.
- Os nad ydych chi wedi defnyddio’ch ffôn neu os nad ydych wedi gofalu amdano yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau, does dim hawliau gennych.
- Dydy traul deg ddim yn nam.
- Dydy’r telerau a’r amodau sydd wedi’u hysgrifennu mewn hysbysiad, derbynneb, contract, gwarantiad neu warant ddim yn gallu dileu’ch hawliau.
Gweler Mynnwch wybod eich hawliau - Ffonau symudol i gael gwybodaeth am beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le.

