Gwasanaethau cyfreithiol
Os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol, mae’n bwysig mynd at y math cywir o broffesiynolyn cyfreithiol. Mae sawl ffordd i’ch helpu i dalu am wasanaethau cyfreithiol, a llawer o leoedd i fynd i gael help i ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol.
- At bwy ga i fynd i gael cyngor cyfreithiol?
- Dwy ddim yn credu y galla i fforddio cynghorydd cyfreithiol
- Sut mae dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol?
At bwy ga i fynd i gael cyngor cyfreithiol?
Mae’r mwyafrif o bobl yn meddwl bod rhaid mynd at gyfreithiwr i gael cyngor cyfreithiol. Dydy hynny ddim yn wir bob tro.
Er enghraifft, gall trawsgludwr trwyddedig wneud popeth y gall cyfreithiwr ei wneud os ydych chi’n prynu tŷ.
Mae’n bosibl bod cyngor cyfreithiol sylfaenol ar gael gan ganolfannau cynghori hefyd.
Dwy ddim yn credu y galla i fforddio cynghorydd cyfreithiol
Os na allwch chi fforddio cynghorydd cyfreithiol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol drwy Gronfa’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (cymorth cyfreithiol). Gallwch lawrlwytho taflenni am arian oddi ar wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn www.legalservices.gov.uk. Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell ar wefan CLS Direct hefyd, yn www.clsdirect.org.uk, i weld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol.
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, mae yna ddewisiadau eraill i’ch helpu.
Er enghraifft:
- trefniant ffi amodol (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel “dim ennill, dim ffi”)
- yswiriant costau cyfreithiol
- help gan eich undeb llafur (neu undeb llafur eich partner).
I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol ddulliau ariannu yma, edrychwch ar daflen CLS Direct ‘No Win, No Fee’ ar wefan y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn www.clsdirect.org.uk.
Fel arall, efallai y gall canolfan cyngor cyfreithiol neu ganolfan gyfreithiol roi cyngor ichi am ddim. Bydd gan bob canolfan gyfreithiol a rhai canolfannau cyngor cyfreithiol o leiaf un cynghorydd wedi’i reoleiddio ar eu tîm. I weld pa ganolfannau cyngor cyfreithiol neu ganolfannau cyfreithiol sydd ar gael yn eich ardal chi, gallwch chwilio ar y gwefannau yma:
www.clsdirect.org.uk
www.lawcentres.org.uk
www.adviceguide.org.uk/CY/wales.htm
www.adviceuk.org.uk
Sut mae dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol?
Mae llawer o leoedd ar gael ichi chwilio am gymorth i ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol.
- Mae Cyfeiriadur Cynghorwyr Cyfreithiol y CLS yn gallu dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol yn eich ardal chi. Mae’n cynnwys manylion yr holl ddarparwyr gwybodaeth a chyngor cyfreithiol sydd wedi ennill Marc Ansawdd y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.
- Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru a Lloegr – www.lawsociety.org.uk
- Cyfeiriadur ar-lein Cymdeithas y Cyfreithwyr, yn www.solicitors-online.com.
- Cyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig – www.theclc.gov.uk
- Gyngor Cyffredinol y Bar – www.barcouncil.org.uk
- Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol – www.ilex.org.uk
- Cyngor ar Bopeth – www.adviceguide.org.uk/CY/wales.htm
- Y Tudalennau Melyn www.yell.com neu gyfeirlyfr lleol Thomson www.thomsonlocal.com
- Mae gan wefan www.lawyerlocator.co.uk restrau o gyfreithwyr y DU a manylion am eu pynciau arbenigol nhw.

