Ewch yn syth i'r cynnwys

Gwasanaethau cyfreithiol

Bydd y cwestiynau yma’n eich helpu i gael yr holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn sicrhau bargen dda a dewis y cynghorydd iawn.

Back to top

C1. Beth wnaiff y cynghorydd cyfreithiol i chi?

Ydych chi’n deall yn iawn beth y bydd – ac, yr un mor bwysig – beth na fydd eich cynghorydd cyfreithiol yn ei wneud ar eich rhan?

Er enghraifft: wnaiff cynghorydd cyfreithiol ddim trefnu trosglwyddo cyfrifon cyfleustodau (nwy, trydan etc) o’ch enw chi ar y tŷ rydych chi’n ei werthu ac i mewn i’ch enw chi ar y tŷ rydych chi’n ei brynu.  Wnaiff cynghorydd cyfreithiol ddim trefnu ail-forgeisio’ch cartref chwaith os yw’n cael ei drosglwyddo o ddau enw ar y cyd i un enw ar ôl ysgariad.

Ydych chi’n gwybod pa ddogfennau a gwybodaeth y bydd angen i’r cynghorydd cyfreithiol eu cael gennych chi?  Oes unrhyw beth y bydd rhaid i chithau ei wneud eich hun?  Os nad ydych chi’n siŵr, gofynnwch i’r cynghorydd cyfreithiol.

Pan fyddwch chi wedi dewis cynghorydd cyfreithiol, fe ddylen nhw roi llythyr ‘gofal cleientau’ ichi, a hwnnw’n nodi’r hyn y byddan nhw’n ei wneud a’r costau tebygol.  Gofalwch ddarllen y llythyr yn ofalus.  Os na fydd y cynghorydd cyfreithiol yn rhoi llythyr ‘gofal cleientau’ i chi, dylech ofyn amdano.

Back to top

C2. Beth fydd cost y cynghorydd cyfreithiol yma o'i gymharu ag eraill?

Dydy gofyn am amcangyfrif gan ffyrm o gynghorwyr cyfreithiol ddim yn golygu bod rhaid ichi eu defnyddio nhw.  Cymharwch eu hamcangyfrif nhw ag o leiaf un gan gynghorydd cyfreithiol arall.  Does dim byd o’i le ar hyn.

Mae dau bwynt pwysig i’w cofio wrth ichi ofyn am amcangyfrif:

  • Syniad o’r pris yw amcangyfrif, nid pris penodedig. Dyfynbris yw’r enw ar bris sydd wedi’i bennu. Gwnewch yn siŵr bod yr amcangyfrif yn cynnwys ffioedd y cynghorydd a bod symiau eraill sy’n cael eu talu i bobl eraill ar eich rhan gan y cynghorydd yn cael eu dangos ar wahân (taliadau o’r enw ‘disbursements’ yn Saesneg).  Mae enghreifftiau o’r taliadau hyn yn cynnwys ffioedd llys, costau chwiliadau neu ffioedd am dyngu datganiadau’r gwirionedd.
  • Dydy cynghorwyr cyfreithiol ddim bob amser yn gallu rhoi amcangyfrif pendant o’r costau am fod yr amgylchiadau’n gallu newid wrth i’r achos fynd yn ei flaen, neu am fod gwybodaeth newydd yn dod i’r amlwg.  Mae hyn yn arbennig o wir os bydd anghydfodau’n codi, er enghraifft mewn ysgariad.  Er hynny, fe ddylai cynghorwyr cyfreithiol ddweud wrthoch chi os bydd y costau’n debyg o newid yn sylweddol.

Oes yna ffyrdd i gadw’r costau i lawr?  Er enghraifft: efallai y cewch chi gynnig adroddiadau rheolaidd ar y cynnydd – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod cost y rhain er mwyn pwyso a mesur a oes arnoch chi angen gwybodaeth mor gyson.

Oes angen ichi osod cyfyngiad ar y costau?  Os oes, mae’n rhaid ichi sicrhau bod y cynghorydd cyfreithiol yn deall y cyfyngiad o’r dechrau.

Back to top

C3. Beth gewch chi am eich arian?

Efallai y bydd rhai cynghorwyr cyfreithiol yn eich gweld i gael cyfweliad cychwynnol heb godi tâl, ond fe ddylech chi holi am hyn.  Dylech holi hefyd pa mor hir y bydd y rhan o’r cyfweliad sy’n ddi-dâl yn para – er enghraifft, 15 munud.

Bydd rhai cynghorwyr cyfreithiol yn cynnig ffi ‘gynhwysfawr’ i chi am y busnes i gyd. Bydd eraill yn codi fesul awr.  Os byddan nhw’n rhoi cyfradd i chi am waith fesul awr, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amcangyfrif o sawl awr y maen nhw’n disgwyl eu gweithio.  Cofiwch – fydd hyn ddim yn cynnwys y taliadau y bydd y cynghorydd yn eu talu i bobl eraill ar eich rhan.

Mae cynghorwyr cyfreithiol uwch, mwy profiadol, yn codi mwy na rhai cymharol newydd neu rai sy’n hyfforddi.  Efallai yr hoffech chi drafod pwy fydd yn gwneud y gwaith, sut cân nhw eu goruchwylio ac a oes modd i’r gwaith gael ei wneud yn rhatach.

Nodyn arbennig am ddefnyddio cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig

Os ydych yn anfodlon ar wasanaeth eich cyfreithiwr neu’ch trawsgludwr trwyddedig ac nad ydych am dalu amdano neu os hoffech symud at gynghorydd cyfreithiol arall, yna mae gan y cyfreithiwr neu’r trawsgludwr trwyddedig hawl gyfreithiol i wrthod rhyddhau’ch dogfennau nes ichi dalu’r costau hyd yn hyn. Yr enw ar hyn yw lien y cyfreithiwr. Felly, ceisiwch sicrhau cymaint â phosibl o wybodaeth am y gwasanaeth cyn ymrwymo i gynghorydd penodol.

Back to top

C4. Pa mor aml mae’r cynghorydd cyfreithiol wedi trafod y math yma o waith?

Bydd cynghorwyr cyfreithiol yn gwneud gwell gwaith fel arfer os ydyn nhw’n gyfarwydd ac yn brofiadol yn y gwaith penodol y mae arnoch ei angen.  Mae’n ddoeth gofyn a oes ganddyn nhw brofiad o’r gwaith sydd gennych i’w wneud. 

Mae llawer o gynghorwyr cyfreithiol yn arbenigo ar ryw faes cyfreithiol ac efallai na fydd ganddyn nhw fawr ddim profiad mewn meysydd eraill, Ydych chi’n dewis cynghorydd am eich bod wedi’u defnyddio nhw o’r blaen? Os felly, mae’n werth ystyried ai’r person fu’n trafod eich ysgariad (er enghraifft) yw’r gorau hefyd i wneud trawsgludiad, neu a fyddai rhywun arall yn y ffyrm, neu ffyrm wahanol, yn fwy addas.  Fel canllaw, gofynnwch faint o achosion o’r math yma gafodd eu trafod gan y ffyrm y llynedd.

Yn yr un modd, os ydych chi’n dewis cynghorydd cyfreithiol am fod ffrind wedi’u hargymell nhw, a oedd ar eich ffridn angen yr un gwasanaeth â chi?  Os felly, ydych chi’n rhannu’r un disgwyliadau â’ch ffrind o ran ansawdd y gwasanaeth?

Gofynnwch ai’r cynghorydd cyfreithiol rydych chi’n cyfarfod â nhw fydd yn trafod yr achos ei hun neu a fyddan nhw’n rhoi’r achos i aelod arall o’r ffyrm (ei ‘ddirprwyo’). Os yw’r achos am gael ei ddirprwyo, holwch a ydy’r person fydd yn gwneud y gwaith yn gymwysedig ynteu’n hyfforddi.  Os nad oes cymwysterau llawn ganddyn nhw, gofynnwch pwy fydd yn eu goruchwylio a sut.  Dylech bob amser ofyn y cwestiynau yma yn uniongyrchol i’r cynghorydd cyfreithiol.

Back to top

C5. Pa mor hir fydd hi’n ei gymryd i gwblhau’r busnes?

Dydy hi ddim bob amser yn bosibl amcangyfrif faint yn union y bydd busnes cyfreithiol yn ei gymryd i gael ei gwblhau, ond gofynnwch i’ch cynghorydd cyfreithiol faint mae busnes o’r fath yn ei gymryd fel rheol. Os oes angen i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn adeg benodol, dylech sicrhau bod y cynghorydd cyfreithiol yn deall eich amserlen.  Cofiwch, mae’n gallu bod yn ddrutach gwneud y gwaith yn gyflym.

Back to top

C6. Beth gallwch chi ei wneud os aiff rhywbeth o'i le, neu os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth?

Ydy’r cynghorydd proffesiynol wedi’i reoleiddio gan gorff proffesiynol? (Er enghraifft, mae cyfreithwyr yn cael eu rheoleiddio gan Gymdeithas y Cyfreithwyr.) Os ydy, yna mae’n rhaid iddo gael gweithdrefn gwyno glir. Os nad ydych yn fodlon ar wasanaeth eich cynghorydd cyfreithiol, dylech ysgrifennu at y cynghorydd cyfreithiol i ddechrau - efallai y gall gywiro pethau heb fod angen i ragor o gamau gael eu cymryd. Os na fydd hyn yn helpu, gwnewch gŵyn ffurfiol, mewn ysgrifen, i’r partner sy’n gyfrifol am gŵynion. Os na fyddwch yn fodlon ar yr ymateb, yna dylech gysylltu â’r corff proffesiynol.
Os nad ydych chi’n siŵr a ydy’r cynghorydd cyfreithiol yn cael ei reoleiddio gan gorff proffesiynol, does dim byd o’i le ar ofyn.
Sylwch: Nid pob cynghorydd cyfreithiol sy’n cael ei reoleiddio gan gorff proffesiynol. Os nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio, efallai na fydd gan y ffyrm weithdrefn gwyno na ffordd i wneud iawn os aiff rhywbeth o’i le.

Enghreifftiau o gynghorwyr sy’n cael eu rheoleiddio

  • Cyfreithwyr
  • Bargyfreithwyr
  • Trawsgludwyr trwyddedig
  • Gweithredwyr cyfreithiol

Enghreifftiau o gynghorwyr nad ydyn nhw’n cael eu rheoleiddio

  • Rheolwyr ceisiadau
  • Ysgrifenwyr ewyllysiau
  • Asiantaethau cynghori (e.e. Cyngor ar Bopeth)
  • Cynghorwyr ar y gyfraith gyflogaeth

Rhaid i gynghorwyr wedi’u rheoleiddio gael yswiriant indemniad. Mae hynny’n golygu bod ganddyn nhw yswiriant i sicrhau ad-daliad ichi os byddwch yn colli arian am eu bod nhw ar fai. Hefyd, mae gan gyfreithwyr a thrawsgludwyr trwyddedig gronfa i’ch ad-dalu os cymeran nhw arian rydych chi wedi’i adneuo gyda nhw. Efallai na fydd yswiriant na chronfa iawndal gan gynghorwyr cyfreithiol eraill.

Back to top

C7. Ydych chi wedi cael bargen dda?

Os ydych chi’n talu rhywun am wasanaeth, rydych chi am fod yn fodlon bod y gwasanaeth yn briodol a’ch bod yn cael gwerth eich arian.  Efallai y byddwch am ystyried beth yw’r peth pwysicaf i chi mewn cynghorydd cyfreithiol.  Ai’r gost, y lleoliad, yr ansawdd, pa mor ddibynadwy yw’r gwasanaeth, y profiad a’r wybodaeth, y cyflymder, neu rywbeth arall?


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch nwyddau ffug ac nac ydynt yn cwrdd â’ch disgwyliadau, ni chewch unrhyw wasanaeth gwerthu na gwarant, Y pethau ffug mwyaf cyffredin yw dillad dyluynwyr, watshis, persawr, DVDs ac alcohol.

Rhagor o Wybodaeth >