Gwyliau a theithio
Dylai gwyliau fod yn gyfle i gael hwyl ac ymlacio - ond os aiff rhywbeth o’i le, mae’r gwrthwyneb yn gallu bod yn wir. Felly, cymerwch ofal wrth ddewis eich gwyliau, a mynnwch wybod eich hawliau cyn ichi deithio.
Mae yna fanteision o dalu am eich gwyliau â cherdyn credyd. Os cewch eich siomi am fod y disgrifiad a gawsoch yn anghywir neu am na chawsoch yr hyn y talwyd amdano, efallai y gallwch wneud cais yn erbyn y cwmni credyd yn ogystal â’r cwmni gwyliau os cafodd y contract ei wneud yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban - gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth.
Er hynny, mae penderfyniad llys ym mis Mawrth 2006 yn golygu y gallai’r mwyafrif o daliadau drwy gerdyn credyd yn uniongyrchol i gyflenwyr tramor ddod o dan adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 sy’n golygu bod y cwmni cerdyn credyd yr un mor atebol am nwyddau neu wasanaethau gwael. Mae hynny’n golygu na fyddwch mewn rhai achosion yn cael gwneud cais yn erbyn eich cwmni cerdyn credyd os aiff rhywbeth o’i le. Mae’n bosibl y bydd rhai cwmnïau cerdyn credyd yn fodlon parhau i anrhydeddu adran 75 ar sail gyfyngedig ac mae’n ddoeth ichi holi a fydd eich cwmni cerdyn credyd chi yn gyfrifol am daliadau a wnaed i gyflenwyr tramor cyn ichi dalu â cherdyn credyd.
Mae penderfyniad y llys yn destun apêl ar hyn o bryd.
Dewis eich gwyliau
Dewiswch werthwyr gwyliau a chwmnïau teithio sy’n perthyn i gymdeithas fasnach gydnabyddedig sydd â chod ymddygiad. Edrychwch am ABTA (Cymdeithas Gwerthwyr Gwyliau Prydain) neu AITO (Cymdeithas y Cwmnïau Gwyliau Annibynnol) ar bamffledi ac anfonebau.
Mae gwyliau pecyn yn cynnwys o leiaf ddau o’r canlynol fel cyfuniad wedi ei drefnu o flaen llaw.
- cludiant
- llety
- gwasanaethau twristaidd arwyddocaol eraill (fel cynrychiolwyr neu wibdeithiau wedi talu amdanynt ar adeg archebu’r gwyliau).
Gwerthir am bris cynhwysol ac mae am gyfnod o fwy na 24 awr (neu’n cynnwys llety dros nos).
Mae cwmnïau gwyliau hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y gwyliau cyfan yn cael ei gyflenwi yn ôl yr addewid – hyd yn oed os yw rhan o’r pecyn yn cael ei gyflenwi gan rywun arall, fel cwmni hedfan. Golyga hyn, er enghraifft, os oes problem gyda’r gwesty neu’r awyrennau gan gynnwys os yw’r cwmni hedfan sydd gennych yn torri, y dylai bod gyda chi hawliad yn erbyn y cwmni teithio.
Wrth brynu gwyliau efallai y cewch gynnig yswiriant teithio a chi biau penderfynu a ydych am ystyried hyn, gan fod gennych efallai yswiriant teithio blynyddol neu’ch bod am ei brynu yn rhywle arall neu y penderfynwch nad oes arnoch ei eisiau. Ni chaiff gwerthwyr gwyliau na chwmnïau teithio godi pris gwahanol arnoch na gofyn am dâl ychwanegol os na fyddwch yn prynu yswiriant gwyliau ganddynt hwy.
[Diogelwch ariannol wedi angori]Diogelwch ariannol
Mae’n rhaid i bob cwmni teithio a threfnwyr teithiau sy’n gwerthu gwyliau awyr a hedfaniadau fod yn rhwymedig neu’n gwarchod y rhagdaliadau maent yn eu dal. Golyga hyn os byddant yn torri cyn ichi deithio, y dylech gael eich arian yn ôl. Os byddwch dramor yn barod, y gallwch gwblhau’ch gwyliau a chael mynd adref heb unrhyw daliadau ychwanegol. Mae’n rhaid i gwmnïau teithio a threfnwyr teithiau sy’n gwerthu gwyliau awyr a hedfaniadau amddiffyn eu cwsmeriaid drwy fod â thrwydded ATOL (Trwydded Trefnwyr Teithiau Awyr) a gyhoeddir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil. Mae gwyliau sy’n defnyddio ffyrdd eraill o gludiant yn cael eu gwarchod gan ddewis o gyrff gan gynnwys ABTA ac AITO. Eich anfoneb gan eich cwmni teithio yw’ch prawf o warchodaeth ATOL ac felly cadwch hi’n ddiogel ac ewch â hi gyda chi rhag y bydd angen prawf fod y sicrwydd hwn gennych.
Teithwyr Annibynnol
Mae hi’n mynd yn fwyfwy poblogaidd i bobl sy’n mynd am wyliau wneud eu trefniadau eu hunain, efallai drwy gyfuno teithiau awyren a llety maent wedi dod o hyd iddynt ar y we. Gall hon fod yn ffordd sy’n werth da am arian wrth drefnu gwyliau sy’n cyfateb yn union i’ch anghenion, ond dylai teithwyr annibynnol fod yn ymwybodol nad ydych yn elwa ar yr un diogelwch â phobl sy’n archebu pecynnau. Os bydd y cwmni hedfan neu’r gwesty yn torri ni fydd trefniadau eraill yn cael eu gwneud ar eich rhan ac efallai y bydd angen ichi archebu gwesty neu wneud peth teithio ychwanegol ar un neu ddau ben o’ch siwrnai a bydd yn rhaid ichi dalu am y rhain a gwneud y trefniadau eich hun ac mae’n annhebyg y cewch iawndal. Mae’n rhaid i unrhyw broblem gyda rhan o’r gwyliau gael ei datrys yn uniongyrchol gyda chyflenwr y gwasanaeth hwnnw.
Pe bai cwmni hedfan yr oeddech yn hedfan gyda hwy yn torri gall fod gennych hawl i ad-daliad rhannol neu lawn os archebwyd yr hedfaniad gwreiddiol gyda chwmni ar wahân i’r cwmni hedfan yr oeddech yn teithio gydag ef. Cysylltwch â hwy cyn prynu hedfaniadau eraill neu os byddwch wedi talu gyda cherdyn credyd fel y manylir yn yr adran nesaf. Fel arall os talwyd gydag arian parod i gwmni hedfan sydd wedi mynd i ddwylo’r derbynnydd, gallwch geisio hawlio gan y gweinyddwr a benodwyd. Efallai y gallwch gael eu manylion o wefan y cwmni hedfan neu gan Gyngor Defnyddwyr Cludiant Awyr a gallwch ddefnyddio’r ddolen hon hefyd am fwy o gyngor am beth i’w wneud pan aiff cwmni i ddwylo’r derbynnydd.
Dylai teithwyr annibynnol edrych ar eu polisi yswiriant eu hunain i weld sut y gwarchodir hwy os digwydd i unrhyw ran o’u trefniadau unigol fethu. Fel arfer mae rhai polisïau yn cynnwys cwmni hedfan sy’n methu drwy gynnwys Yswiriant Methiant Cwmni Hedfan Rhestredig (SAFI). Fodd bynnag, mae llawer o bolisïau nad ydynt yn cynnwys SAFI ac mae rhai darparwyr yswiriant yn eithrio cwmnïau hedfan neilltuol ac felly mae’n well gwirio telerau ac amodau’ch polisi.
Talu am eich gwyliau
Mae manteision i dalu am eich gwyliau â cherdyn credyd. Os bydd yn siom am ei fod wedi ei ddisgrifio’n anghywir neu na chawsoch yr hyn y talwyd amdano, gallwch allu hawlio yn erbyn y cwmni credyd yn ogystal â’r cwmni gwyliau pan fydd y cytundeb wedi ei wneud yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban - gweler Wedi prynu ar gredyd? am fwy o wybodaeth.
Mae dyfarniad llys yn Hydref 2007 yn golygu bod y rhan fwyaf o daliadau a wnaed â cherdyn credyd i gyflenwyr o dramor yn dod o dan adran 75 o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 sy’n gwneud cwmni’r cerdyn credyd yn gyfartal atebol am nwyddau neu wasanaethau gwael. Golyga hyn mewn rhai achosion y gallwch hawlio yn erbyn cyhoeddwr eich cerdyn credyd os aiff pethau o le. Gall rhai cwmnïau cerdyn credyd fod yn fodlon parhau i anrhydeddu adran 75 ar sail gyfyngedig a byddem felly yn eich cynghori i wirio a fydd eich cwmni cerdyn yn gyfrifol am daliadau a wnaed i gyflenwyr o dramor cyn talu â cherdyn credyd.

