Ewch yn syth i'r cynnwys

Dodrefn

Wrth brynu dodrefn, mae gennych chi hawliau penodol. Os nad yw dodrefnyn neu gelficyn yn bodloni amodau penodol, gall fod gennych chi hawl i gael ad-daliad, atgyweiriad neu ddodrefnyn arall yn ei le. Mynnwch wybod eich hawliau cyn ichi brynu, a byddwch yn gwybod beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le.

Back to top

Eich hawliau

Rhaid i ddodrefn fod o ansawdd foddhaol, yn addas at ei ddiben a chyd-fynd â’r disgrifiad. Pan na fydd dodrefn yn bodloni rhai neu’r cyfan o’r amodau hyn:

  • Os mai dim ond ers ychydig wythnosau mae’r dodrefn gennych chi neu os nad ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n debyg bod gennych chi hawl i gael ad-daliad ar gyfer nam neu ddisgrifiad gwael, neu fel arall gallech ofyn am un arall yn ei le.
  • Os mai mân wall yn unig sydd yna a bod modd ei gywiro’n hawdd, fe allai fod yn rhesymol derbyn atgyweiriad.  Fydd hynny ddim yn eich atal rhag hawlio un newydd neu ad-daliad os yw’r gwaith trwsio yn anfoddhaol wedyn, yn cymryd gormod o amser neu’n achosi anghyfleuster arwyddocaol.
  • Os yw’r dodrefn gennych chi ers mwy nag ychydig wythnosau neu os ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n dal yn debyg y bydd gennych chi hawl i gael ei drwsio neu i gael un arall. Dylai’r gwaith trwsio gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol o amser a heb beri anghyfleuster arwyddocaol ichi. Dylai unrhyw waith trwsio adfer y dodrefn i gyflwr boddhaol. Os nad yw hynny’n digwydd, mae gennych hawl i gael un newydd neu iawndal. Gallai hynny fod yn swm o arian neu gost cael rhywun arall i drwsio’r dodrefn.
  • Os nad oes modd cael dodrefn newydd neu os nad yw’n ddarbodus trwsio’r dodrefn, mae gennych hawl i gael ad-daliad. Gall y masnachwr dynnu swm rhesymol oddi ar y pris a daloch chi, i ganiatáu am y defnydd gawsoch chi ar y dodrefn.
  • Os ydych chi ar eich colled mewn unrhyw ffordd arall, efallai fod gennych hawl i gael iawndal yn ychwanegol at bris y dodrefn.

Y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem, nid y gweithgynhyrchydd

Cofiwch: os oes gennych hawl i gael ad-daliad, dodrefn newydd, atgyweiriad neu iawndal, y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem. Chaiff y masnachwr ddim dweud wrthoch am fynd yn ôl at y gweithgynhyrchydd.

Back to top

Pethau pwysig i’w cadw mewn cof

  • Os ydych chi wedi prynu ar gredyd, efallai y gallwch wneud cais yn erbyn y cwmni cyllid. Gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth.
  • Os oes nam sy’n codi o’r ffordd y mae’r dodrefn wedi’i ffitio, mae’r masnachwr a werthodd y dodrefn ichi yn gyfrifol os oedd y gwaith ffitio yn rhan o’r fargen. Fel arall, gwnewch gais yn erbyn y ffitiwr.
  • Os ydych wedi dewis y maint anghywir, neu wedi rhoi’r mesuriadau anghywir, does dim hawliau gennych.
  • Os ydych wedi newid eich meddwl, does dim hawliau gennych.
  • Er hynny, mae gennych chi saith diwrnod gwaith i ganslo contract am nwyddau sydd wedi’u harchebu dros y ffôn, drwy’r post, yr e-bost neu’r ffacs, ac eithrio’r nwyddau hynny sy’n cael eu gwneud yn unswydd ar gyfer eich archeb chi. Gweler Dychwelyd neu ganslo archebion i gael rhagor o wybodaeth.
  • Os oes problem yn codi am eich bod wedi methu â dilyn y cyfarwyddiadau ar label y gweithgynhyrchydd i ofalu am y dodrefn, does dim hawliau gennych.
  • Os ydych wedi dewis dodrefn sy’n rhy fawr neu’n rhy fach i’r ystafell, does dim hawliau gennych.
  • Rhaid i bob dodrefn clustogog, gan gynnwys dodrefn ail-law, fodloni’r safonau atal tân.
  • Dydy traul deg ddim yn nam.

Back to top

Os aiff rhywbeth o’i le

Gweler Mynnwch wybod eich hawliau - dodrefn i gael gwybodaeth am beth i’w wneud os na fyddwch yn fodlon ar ddodrefnyn rydych chi wedi’i brynu.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os bydd rhywbeth yn bod ar ddyfais drydanol yn yr ychydig fisoedd o’i phrynu, dylech fynd yn ôl at y manwerthwr a werthodd yr eitem i chi ( nid y gwneuthurwr).

Rhagor o Wybodaeth >