Angladdau
Mae angladd yn aml yn rhywbeth sy’n cael ei brynu ar adeg anodd iawn, felly mae’n werth gwybod yr hyn y dylech ei ddisgwyl.
Gall yr adeg pan fyddwch yn gorfod prynu angladd fod yn gyfnod anodd iawn yn aml, felly mae’n werth bod yn ymwybodol o’r hyn i’w ddisgwyl.
Dewis angladd
Y prif ofynion cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr yw:
-
Rhaid i’r farwolaeth gael ei hardystio gan feddyg neu grwner;
-
Rhaid cofrestru’r farwolaeth gyda Chofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau;
-
Rhaid un ai claddu neu losgi’r corff.
Mae yna nifer o wahanol fathau o angladdau ac mae’n ddefnyddiol cofio:
-
N ad oes rhaid i chi gael seremoni angladd;
-
Nad oes rhaid i chi gael gweinidog crefyddol;
-
Nad oes rhaid i chi ddefnyddio trefnydd angladdau;
-
Nad oes yn rhaid i’r seremoni gael ei chynnal mewn amlosgfa neu addoldy.
Mae’r mwyafrif o bobl yn gwneud trefniadau trwy drefnydd angladdau, ond mae rhai pobl yn dewis gwneud eu trefniadau eu hunain oherwydd eu bod nhw’n ystyried hynny i fod yn fwy personol ac yn rhatach. Bydd gennych fwy o reolaeth dros gynnwys a hyd y mathau hyn o angladdau.
Gallwch gael cyngor ar opsiynau eraill oddi wrth adran mynwentydd ac amlosgfeydd eich awdurdod lleol, ac mae’r Ganolfan Marwolaeth Naturiol yn cynnig gwybodaeth ar opsiynau coetirol a gwyrdd.
Mae’n bosibl y bydd rhai trefnwyr angladdau yn cynnig opsiynau eraill.
Dewis trefnydd angladdau
Gall trefnwyr angladdau reoli trefniadau angladd a chynnig cyngor a chefnogaeth i chi. Os ydynt yn perthyn i gymdeithas fasnach, mae’n rhaid iddynt gynnig gwybodaeth lawn ynghylch eu gwasanaethau a’u prisiau.
Mae’r ffactorau sy’n gallu effeithio ar eich dewis o drefnydd angladdau’n cynnwys:
-
lleoliad y cwmni;
-
a ydynt yn aelod o gymdeithas fasnach;
-
yr ystod o wasanaethau a ddarperir;
-
pris;
-
argymhellion y rheiny sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth ac sy’n ymddiried yn yr ymgynghorwyr;
-
y ffordd mae’r staff yn eich trin chi;
-
perchnogaeth - ydyn nhw’n gwmni mawr neu fach, neu’n gwmni teuluol;
-
cyngor neu argymhellion eich teulu neu ffrindiau.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gofyn i’r trefnydd angladdau ddarparu’r gwasanaethau canlynol:
-
gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol;
-
darparu staff addas;
-
darparu arch addas;
-
cludo’r diweddar o’r man lle bu farw i eiddo’r trefnydd angladdau;
-
gofalu am y diweddar cyn yr angladd;
-
darparu hers i’r fynwent neu amlosgfa agosaf;
-
trefnu claddu neu losgi yn ôl y galw;
-
bydd balmeiddio, ymweld â’r diweddar neu ddarparu limwsîn i’r galarwyr yn opsiynau ychwanegol. Trafodwch y rhain yn llawn gyda’r trefnydd angladdau a sicrhewch eich bod yn cael dyfynbris ysgrifenedig manwl.
Mae’n bosibl y bydd costau angladd yn amrywio’n sylweddol o un trefnydd angladdau i’r llall. Awgrymwn eich bod yn cael mwy nag un pris er mwyn cymharu costau a gwasanaethau. Dylai trefnwyr angladdau ddarparu rhestrau prisiau manwl.
Bydd ffioedd eraill i’w talu hefyd, e.e. tystysgrifau meddyg, gweinidog, datganiadau mewn papurau newydd, blodau a’r amlosgfa. Gofynnwch i’r trefnydd angladdau am ddyfynbris ysgrifenedig yn cynnwys yr holl ffioedd hyn.
Yn ogystal, dylid cofio:
-
mai chi sy’n gyfrifol am dalu’r bil os chi sy’n trefnu’r angladd;
-
ei bod hi fel arfer yn bosibl hawlio costau angladd yn ôl o ystad y sawl sydd wedi marw;
-
sicrhau bod y pris yn cynnwys yr hyn sydd ei angen arnoch ac a fydd yna unrhyw gostau eraill yn cael eu hychwanegu.
Cymorth ariannol
Os rydych yn ei chael hi’n anodd talu am angladd, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio taliad o gronfa angladdau cymdeithasol yr Asiantaeth Budd-daliadau, cyn belled ag eich bod chi neu’ch partner yn derbyn un o’r canlynol:
-
Cymhorthdal Incwm;
-
Budd-dal Tai;
-
Budd-dal Treth y Cyngor;
-
Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm);
-
Credyd Treth i Bobl Anabl;
-
Credyd Treth i deuluoedd sy’n gweithio.
Cysylltwch â’ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol am fwy o wybodaeth.
Os nad oes neb yn gallu na’n fodlon trefnu a thalu am yr angladd, mae’n bosibl y bydd y cyngor lleol, neu’r awdurdod iechyd mewn rhai achosion, yn gwneud hynny. Bydd hyn yn digwydd dim ond mewn achosion lle nad yw’r angladd eisoes wedi cael ei drefnu.
Angladdau rhagdaledig
Mae rhai pobl yn dewis talu o flaen llaw am eu hangladd trwy gynllun rhagdaledig – mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ddewis y math o drefniadau a ddymunant.
Os ydych chi’n trefnu angladd, ceisiwch ddarganfod a yw’r diweddar wedi gwneud unrhyw drefniadau.
Os ydych yn prynu cynllun angladd rhagdaledig ar eich cyfer chi, darllenwch y contract yn ofalus iawn. Rhaid i delerau’r contract fod yn deg ac ni ddylai eich rhoi o dan anfantais arwyddocaol o ran darparwr y cynllun - os nad ydych yn deall unrhyw dermau, ceisiwch gyngor gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol (www.citizensadvice.org.uk neu www.cas.org.uk yn yr Alban), Yr Adran Menter, Masnach a Buddsoddi yng Ngogledd Iwerddon neu trwy gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr.
Yn ogystal:
-
Gwiriwch beth mae’r contract yn ei gynnwys a’r hyn nad yw’n ei gynnwys;
-
Gwiriwch beth ddylai ddigwydd ar ôl i chi farw a gadewch gyfarwyddiadau priodol gyda’ch cyfreithiwr neu’ch perthynas agosaf, oherwydd y gallai penderfyniad anghywir achosi problemau;
-
Chwiliwch am y pris gorau, a holwch a yw darparwr y cynllun yn aelod o un o’r cymdeithasau masnach sy’n aelodau o’r Cynllun Ombwdsmon Angladdau.
Gallech ofyn cwestiynau eraill defnyddiol hefyd, megis:
-
Beth sy’n digwydd os ydych yn marw cyn gorffen talu?
-
Beth sy’n digwydd os ydych yn dewis trefnydd angladdau y mae ei fusnes yn methu?
-
Sut caiff eich arian ei ddiogelu dros y blynyddoedd?
-
Beth sy’n digwydd i’r arian rydych eisoes wedi’i dalu os nad yw’ch teulu’n gwybod am y cynllun rhagdaledig ac yn trefnu’r angladd yn annibynnol?
Cwyno
Ewch at Eich Hawliau - Angladdau i weld beth ddylech ei wneud os oes gennych gŵyn.

