Newid i deledu digidol
Rhwng hydref 2007 a 2012, bydd y signal analog (y signal sy’n caniatáu ichi wylio BBC1, BBC2, ITV1, S4C a five yn unig, drwy erial) yn cael ei ddiffodd. Fydd unrhyw set deledu neu beiriant fideo sydd heb eu trosi i ddigidol pan fydd y newid yn digwydd ddim yn gallu derbyn rhaglenni teledu mwyach.
Mae gwybodaeth am y newid i deledu digidol ar gael oddi wrth Digital UK, y sefydliad dielw sydd wedi’i sefydlu gan y darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus - gweler www.digitaluk.co.uk/cy.html.
Mae’n golygu y bydd angen ichi sicrhau bod pob teledu sydd gennych ac yr hoffech barhau i’w gwylio ar ôl y newid yn gallu derbyn signal digidol.
Byddwch yn ofalus
- Ni fydd angen i chi ddisodli eich set deledu bresennol os nad ydych yn dymuno gwneud hynny, ond bydd angen i chi gael bocs digidol (trwy erial, dysgl loeren neu gebl).
- Fodd bynnag, os ydych yn ystyried diweddaru eich set bresennol, dylech ystyried prynu set deledu sy’n cynnwys bocs digidol yn barod (“set deledu ddigidol”) a chadw golwg am logo y ‘tic’ digidol.
- A pheidiwch anghofio eich peiriant fideo: os ydych yn defnyddio peiriant fideo (VCR) neu DVD er mwyn recordio, bydd angen i chi ei addasu gan ddefnyddio bocs digidol, neu brynu peiriant recordio digidol yn ei le sy’n cynnwys bocs digidol, a elwir yn PVR weithiau.
- Edrychwch am logo y ‘tic’ digidol sy’n ardystio cynhyrchion a gwasanaethau a gynlluniwyd i weithio ar ôl y newid.
- Bydd siopau sy’n dangos ‘get set for digital’ yn cadw cynhyrchion wedi’u hardystio.
I gael cyngor manwl i ddefnyddwyr am brynu offer digidol, edrychwch ar www.ricability-digitaltv.org.uk.

