Ewch yn syth i'r cynnwys

Cyfrifiaduron

Wrth brynu cyfrifiadur, mae’n bwysig penderfynu pa fath o gyfrifiadur y mae arnoch ei angen, a oes eisiau pethau ychwanegol fel argraffydd, pa wasanaethau cymorth a fydd yn cael eu darparu os cewch chi anhawster, a pha wasanaethau trwsio fydd yn cael eu cynnwys os aiff rhywbeth o’i le.

Gweler hefyd Mynnwch wybod eich hawliau - Cyfrifiaduron i gael gwybodaeth am eich hawliau ar ôl ichi brynu cyfrifiadur.

Back to top

Dewis cyfrifiadur

Gwnewch eich gwaith ymchwil cyn mynd i siopa. Dyma rai pwyntiau ar gyfer dechrau da:

  • Edrychwch ar gylchgronau PCs a chwiliwch ar y rhyngrwyd am erthyglau sy’n cymharu’r gwahanol fodelau a phrisiau
  • Gallech fynd ar gwrs i wella’ch dealltwriaeth o gyfrifiaduron a’ch helpu i sicrhau gwell bargen wrth brynu PC. Mae llawer o gyrsiau gwahanol ar gael, o lefel dechreuwyr i lefel uwch. Mae canolfannau UK online yn gallu’ch helpu i ddechrau ar y rhyngrwyd. Mae cronfa ddata o holl ganolfannau UK online ar gael ar-lein ac mae yna linell gymorth hefyd, ar 0800 77 1234.
  • Holwch eich cyfeillion a’ch teulu am eu profiadau nhw gyda PCs.

Back to top

Ble i brynu

Mae sawl ffordd wahanol ar gael i brynu’ch PC. Mae i bob ffordd ei manteision a’i hanfanteision, fel y gwelwch chi isod:


Prynu’n uniongyrchol oddi wrth weithgynhyrchydd neu gyflenwr

Mae prynu’n uniongyrchol oddi wrth weithgynhyrchydd neu gyflenwr yn opsiwn da os ydych yn gwybod am y system yr hoffech ei chael. Drwy brynu dros y ffôn, y rhyngrwyd neu drwy’r post mae’n gallu bod yn rhatach am fod gorbenion y gwerthwyr yn isel. Drwy brynu fel hyn, bydd gennych hawl hefyd i gael cyfnod ailfeddwl o saith diwrnod ar ôl i’r nwyddau gyrraedd. Bydd gennych gyfle felly i fwrw golwg arnyn nhw a chanslo’r archeb os nad ydyn nhw’n ateb eich gofynion. Os byddwch yn prynu ar-lein, dylech gael cadarnhad o’ch archeb drwy’r e-bost ar unwaith.

Siopau’r stryd fawr ac archfarchnadoedd

Gallai’r rhain amrywio o gadwyn fanwerthu fawr i siop fach annibynnol yn lleol. Efallai na fydd modd mynd â’r PC oddi yno ar unwaith, oherwydd mae llawer yn cael eu hadeiladu ar ôl cael eu harchebu. Ond, fel arfer byddwch yn gallu profi’r system cyn ei phrynu. Efallai y bydd siopau annibynnol yn gallu gwerthu neu archebu amrediad eang o gynhyrchion.

Ewch o gwmpas llawer o werthwyr er mwyn dod o hyd i’r fargen orau i chi.


Back to top

Cynghorion wrth brynu’ch PC

Ar ôl gwneud eich gwaith ymchwil, a phenderfynu ble neu sut yr hoffech chi gael eich PC, dyma rai cynghorion ar brynu’r PC:

Meddyliwch ymlaen llaw am yr hyn yr hoffech i’ch PC ei wneud a phenderfynwch ar eich cyllideb. Peidiwch â phrynu PC sy’n fwy cymhleth na’ch anghenion, ond meddyliwch hefyd am y pethau y gallech fod am eu gwneud yn y dyfodol. Bydd hyn yn arbed amser ac arian ichi yn y tymor hir.

Bydd croeso ichi siarad â’r gwerthwyr. Esboniwch yr hyn yr hoffech i’ch cyfrifiadur ei wneud a gofynnwch am eu cyngor.

Os ydych yn prynu ar gredyd, ewch i nifer o siopau, rhag ofn nad yw’ch gwerthwr yn cynnig y fargen orau. Ceisiwch sicrhau eich bod yn darllen y telerau ynghylch talu i ddod â’r cytundeb credyd i ben yn gynnar, oherwydd mae cynlluniau’n gallu’ch cosbi’n drwm am dalu’r cytundeb credyd yn gynnar.

Os prynwch eich system drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu gytundeb cyllid, efallai y bydd gennych ddiogelwch ychwanegol. Efallai y bydd darparwyr credyd yn rhannu’r rhwymedigaeth am unrhyw dor-contract neu gamliwio gan gyflenwyr y nwyddau neu’r gwasanaethau sydd wedi’u hariannu (hyd yn oed yn rhannol) drwy gyfrwng y credyd. Gweler Prynu ar gredyd?  i gael rhagor o wybodaeth.

Weithiau bydd gwerthwyr yn gwerthu cyfrifiaduron mewn sypiau sy’n gallu cynnwys PC, argraffydd a sganiwr, efallai camera digidol neu gemau cyfrifiadur. Gofynnwch i’r gwerthwr dynnu unrhyw eitemau allan o’r sypyn os nad ydych chi am eu cael.

Wrth archebu, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael copi i’w gadw o bob derbynneb, manylion yr archeb, cadarnhadau, gohebiaeth a rhifau archebion eich PC.

Wrth brynu ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gan y cwmni gyfeiriad a rhif ffôn yn y DU rhag ofn y bydd angen ichi gysylltu â nhw. Efallai yr hoffech chwilio am wefannau sydd wedi cael eu fetio o safbwynt cyfrinachedd ac sy’n dangos logo safonau masnachu, er enghraifft logo Web Trader, Trusted Shops a TrustUK.

Telerau ac amodau – darllenwch y telerau a’r amodau a’r print mân bob tro ar unrhyw ffurflenni swyddogol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd wedi’i gynnwys o dan y telerau a’r amodau a beth sydd heb ei gynnwys.

Telerau annheg mewn contractau – dydych chi ddim wedi’ch rhwymo gan delerau safonol sy’n ffafrio’r masnachwr yn annheg. Dydy telerau ac amodau sydd fel petaen nhw’n gwadu neu’n cyfyngu ar rwymedigaeth y masnachwr am nwyddau sydd â nam arnyn nhw neu nwyddau sydd wedi’u disgrifio’n wael neu golledion yn sgil hynny ddim yn deg. Nid yn unig mae telerau annheg yn camarwain, ond does dim modd eu gorfodi drwy’r llysoedd chwaith. Gweler Telerau annheg mewn contractau i gael rhagor o wybodaeth.

Os hoffech chi uwchraddio – y peth pwysicaf y mae’n rhaid ichi fod yn sicr yn ei gylch yw bod y cydrannau’n gydnaws. Ewch â rhestr o fanylebau’ch cyfrifiadur gyda chi bob tro a’u cymharu â’r cynhyrchion yr hoffech eu prynu. Allwch chi ddim disgwyl y bydd pob meddalwedd newydd yn gydnaws â’ch system chi.

Back to top

Argraffyddion

Mae argraffydd yn ddarn pwysig o offer i gyd-fynd â’ch PC. Ond, efallai nad yw prynu argraffydd mor ddiffwdan ag y gallech feddwl:

Er bod y mwyafrif o argraffyddion yn gydnaws ag amrywiaeth mawr o PCs, holwch y gwerthwr bob tro i sicrhau y bydd y nwyddau’n gweithio gyda’ch PC penodol chi.

Cyn ichi brynu, meddyliwch pam y mae arnoch angen argraffydd – ydych chi am argraffu mewn du a gwyn yn unig, neu ffotograffau lliw? Fyddwch chi’n gwneud llawer o waith argraffu?

Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod argraffydd rhad bob amser yn fargen dda. Efallai y bydd yn defnyddio mwy o inc ac yn ddrutach i’w redeg felly. Bydd yr argraffydd gorau i chi yn dibynnu ar fwy na’r pris cychwynnol.

Cyn ichi brynu’ch argraffydd, holwch y gwerthwr am gost y cetris inc. Mae’r rhain yn gallu bod yn ddrud – gall inc gostio ddwywaith yn fwy na phris yr argraffydd dros ei oes gyfan.

Gofynnwch i’r gwerthwr ddweud sawl tudalen y gall cetrisen inc eu hargraffu, a faint felly fydd y costau argraffu am bob tudalen, a hynny mewn lliw ac mewn du a gwyn.

Gofynnwch sawl tudalen sy’n cael eu hargraffu bob munud er mwyn sicrhau nad yw’n rhy araf.

Mae’r cwestiynau hyn i gyd yn gymwys hyd yn oed os byddwch yn prynu’r argraffydd mewn sypyn ynghyd â chynhyrchion eraill neu feddalwedd arall.


Back to top

Gwasanaethau cymorth

Dydy cyfrifiaduron ddim bob amser yn rhydd rhag problemau. Dylech feddwl am yr opsiynau o ran cymorth wrth ichi brynu PC neu hyd yn oed cyn ichi brynu. Darganfyddwch pa gymorth yn union sy’n cael ei roi, am faint o amser a faint yw’r gost. Os yw’ch gwybodaeth chi o gyfrifiaduron yn gyfyngedig, efallai nad gwasanaeth trwsio sydd wedi’i seilio ar y ffôn fydd y gorau i chi.

Gweler Mynnwch wybod eich hawliau - Cyfrifiaduron i gael rhagor o wybodaeth am wasanethau cymorth.


Back to top

Contractau gwasanaeth

Os byddwch yn gwneud contract ar gyfer gwasanaethau cymorth yn unig, a dim nwyddau, bydd angen i’r contract gydymffurfio â’r Rheoliadau Gwerthu o Hirbell os byddwch yn gwneud y contract dros y ffôn, yr e-bost, y rhyngrwyd neu’r ffacs. Mae’n rhaid ichi gael gwybod, mewn ysgrifen, nad oes modd i’r contractau hyn gael eu canslo ar ôl iddyn nhw ddechrau ar ddyddiad y byddwch yn cytuno arno

Gweler Mynnwch wybod eich hawliau - Cyfrifiaduron i gael rhagor o wybodaeth am gontractau gwasanaeth.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os byddwch yn prynu cyfrifiadur ar-lein, gwnewch yn siŵr fod gan y cwmni gyfeiriad a rhif ffôn yn y DU, rhag ofn bod rhaid ichi gysylltu â nhw os bydd problem yn codi.

Rhagor o Wybodaeth >