Dillad ac esgidiau
Wrth ichi brynu dilledyn neu esgidiau, mae yna bethau pwysig i’w cadw mewn cof. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich hawliau cyn ichi brynu.
Os ydych yn prynu dilledyn neu esgidiau, mae’n rhaid iddyn nhw fod o ansawdd foddhaol, yn addas at eu diben ac yn cyd-fynd â’r disgrifiad.
Mae hynny’n golygu bod rhaid iddyn nhw fod:
- yn addas i’w gwisgo – dylai’r semau fod yn gadarn a dylai’r defnydd fod yn ddi-nam.
- yr un fath â’r hyn rydych chi wedi gofyn amdano – er enghraifft, yn dal dŵr.
- yr un faint â’r hyn sydd wedi’i nodi ar y label, ond cofiwch nad oes canllawiau maint swyddogol ar gyfer gweithgynhyrchu dillad.
Pethau pwysig i’w cadw mewn cof
- Os nad yw’r dilledyn yn ffitio, does dim hawliau gennych.
- Os ydych wedi newid eich meddwl, does dim hawliau gennych.
- Os ydych chi wedi dewis y dillad anghywir at ryw ddiben penodol, does dim hawliau gennych.
Er hynny, mae gennych chi saith diwrnod gwaith i ganslo contract am nwyddau sydd wedi’u harchebu dros y ffôn, drwy’r post, y rhyngrwyd, yr e-bost neu’r ffacs, ac eithrio’r nwyddau hynny sy’n cael eu gwneud yn unswydd ar gyfer eich archeb chi. Gweler Dychwelyd neu ganslo archebion i gael rhagor o wybodaeth.
Cofiwch fod angen gofalu am ddillad ac esgidiau, ac nad yw’r un eitem yn para am byth.
- Dysgwch am eich hawliau ar ôl ichi brynu dilledyn

