Ceir
Pethau i chwilio amdanyn nhw
Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod dim am sut mae car yn gweithio, mae yna bethau y gallwch chwilio amdanyn nhw cyn ichi brynu’ch car, i sicrhau ei fod yn ddiogel, yn gyfreithiol ac mewn cyflwr rhesymol. Defnyddiwch ein rhestr gyfeirio ni i sicrhau bod y car yn werth ei brynu - ac os nad yw, peidiwch ag ofni troi’ch cefn arno.
- Cyflwr a diogelwch mecanyddol y car
- Ceir wedi’u dwyn
- Ceir sy’n dal yn perthyn i gwmni credyd
- Ceir wedi’u clocio
- Rhestr gyfeirio – Prynu car
Cyflwr a diogelwch mecanyddol y car
Aseswch y car yng ngolau dydd gan ei bod yn bosibl na fydd smotiau rhwd a tholciau’n amlwg yn y tywyllwch. Ewch am dro ynddo i roi prawf arno. Os nad ydych yn gwybod llawer am geir, ewch â rhywun gyda chi.
Os yw car wedi bod mewn damwain, efallai nad yw’n ddiogel. Weithiau, caiff dau gar sydd wedi’u difrodi eu weldio at ei gilydd i greu un newydd. Mae yna gwmnïau sy’n gallu dweud wrthoch chi os oes cwmni yswiriant wedi ysgrifennu car i ffwrdd. Rydych fel arfer yn gallu gweld manylion y cwmnïau hyn mewn cylchgronau moduro. Nid yw’n drosedd gwerthu car sydd wedi ei ysgrifennu i ffwrdd yng nghategori C neu D a does dim rhaid i’r masnachwr roi’r wybodaeth yma o’i wirfodd, felly gwenwch yn siŵr eich bod yn holi.
Os prynwch chi gar sydd wedi’i ddwyn, caiff yr heddlu fynd ag e oddi arnoch er mwyn ei ddychwelyd i’r perchennog gwreiddiol neu i’r cwmni yswiriant. Chewch chi ddim iawndal, er ichi brynu’r car yn ddidwyll. Gallwch ddwyn achos yn erbyn y gwerthwr i geisio cael eich colledion yn ôl, ond fe allai hynny fod yn anodd os ydych wedi prynu’n breifat a bod y gwerthwr wedi diflannu.
Hefyd, os prynsoch chi’r car ar gredyd, efallai y byddwch yn dal yn gorfod talu’r benthyciad – mae’n dibynnu pa fath o gytundeb sydd gennych.
Mae’n gallu bod yn anodd dweud a yw car wedi’i ddwyn neu beidio. Gall y marciau adnabod fod wedi’u newid. Er enghraifft, efallai y bydd rhif adnabod a phlât rhif car go iawn yn cael eu trosglwyddo i gar sydd wedi’i ddwyn. Gall dogfennau cofrestru cerbydau gael eu ffugio, neu eu sicrhau drwy dwyll.
Ond mae yna arwyddion rhybuddio i chwilio amdanyn nhw:
- Bod y gwerthwr yn methu â dangos dogfen gofrestru’r cerbyd (V5) – esgus cyffredin yw ei bod wedi’i hanfon at yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i gael ei diweddaru. Efallai fod hynny’n wir – er enghraifft, efallai fod y gwerthwr wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar. Ond cymerwch ofal: mae’n golygu na allwch chi edrych ar berchnogaeth y car a’r manylion adnabod.
- Os yw’r gwerthwr yn honni ei fod newydd brynu’r car a bod y V5 gyda’r DVLA er mwyn cofnodi’r newid perchnogaeth, fe ddylai fod gan y gwerthwr slip gwyrdd (ar gyfer ceir sydd wedi cael V5 ers Mawrth 1997).
- Bod gwallau sillafu neu newidiadau ar y V5, neu nad oes dyfrnod arni.
- Bod yr enw a’r cyfeiriad ar y V5 yn wahanol i’r enw a’r cyfeiriad ar drwydded yrru’r gwerthwr, ei basbort, neu fil nwy neu drydan diweddar.
- Bod y tri phrif rif adnabod isod yn wahanol i’r rhifau ar y V5:
- Marc cofrestru’r cerbyd (y plât rhif).
- Rhif adnabod y cerbyd (VIN) – gallwch weld hwn ar blât VIN metel, yn ymyl yr injan fel rheol, ac wedi’i stampio ar y corff o dan y boned a sedd y gyrrwr. Fel mesur diogelwch, mae’r VIN wedi’i grafu ar ffenestri neu lampau rhai ceir.
- Rhif yr injan.
- Bod rhywun wedi ymyrryd â rhif yr injan a’r VIN. Efallai y bydd gwydr wedi’i grafu oddi ar y ffenestri, neu efallai fod sticeri’n cuddio mannau lle mae rhifau ar y gwydr wedi’u newid.
- Bod y gwerthwr yn methu dangos polisi yswiriant y car ichi.
Ceir sy’n dal yn perthyn i gwmni credyd
Mae car sy’n cael ei brynu ar hur-bwrcas neu ar werthiant amodol yn perthyn i’r cwmni cyllid nes bod y taliadau wedi’u cwblhau. Os prynwch chi gar o’r fath, caiff y benthyciwr fynd ag e nôl. Gallwch ddwyn achos yn erbyn pwy bynnag a werthodd y car ichi, ond dim ond os gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw.
Dim ond ambell eithriad i hyn sydd. Os nad oeddech yn gwybod bod yna gytundeb credyd ar gyfer y car, a hwnnw heb ei gwblhau, a’ch bod wedi prynu’r car yn ddidwyll, efallai y cewch chi ganiatâd i’w gadw. Dydy hyn ddim yn wir yn achos ceir wedi’u dwyn sydd o dan gytundeb hurio. Cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr i gael cyngor proffesiynol ynglŷn â hyn.
Mae yna gwmnïau sy’n gallu dweud wrthoch a oes yna gytundebau cyllid heb eu cwblhau ar gar. Rydych fel arfer yn gallu gweld manylion y cwmnïau hyn mewn cylchgronau moduro. Os ydych yn prynu oddi wrth ddeliwr, gofynnwch a ydyn nhw wedi holi ynglŷn â hyn yn barod.
Gall milltiroedd isel fod yn help i werthu, ond gall y cloc gael ei droi nôl er mwyn gostwng faint o filltiroedd sydd arno cloc. Weithiau, bydd gwerthwyr yn eu diogelu eu hunain drwy orchuddio’r cloc milltiroedd neu drwy roi nacâd sy’n dweud y gallai’r milltiroedd fod yn anghywir. Er mwyn bod yn ddilys, rhaid i nacâd fel hyn fod o leiaf yr un mor amlwg â’r milltiroedd ar y cloc, a rhaid tynnu’ch sylw ato yr un mor effeithiol ag y mae’n cael ei dynnu at y cloc.
Os yw’r milltiroedd yn isel ond bod y draul ar y car yn edrych yn drwm, fe allai’r car fod wedi’i “glocio”. Weithiau, bydd y clocwyr yn newid y rwber ar y pedalau, y llyw a bwlyn y gêr er mwyn cuddio hyn. Arwydd arall yw nad yw’r rhifau ar y cloc milltiroedd mewn llinell gwbl syth.
Mae sawl ffordd i gael gwybod hanes y car:
- Edrychwch ar dystysgrifau MOT a dogfennau cynnal-a-chadw i weld y milltiroedd sydd wedi’u cofnodi gan y mecanig.
- Cysylltwch â’r cyn-berchnogion sydd wedi’u henwi ar y V5 i ofyn faint oedd y milltiroedd pan werthon nhw’r car.
- Gallwch sicrhau gwybodaeth am filltiroedd oddi wrth gwmnïau sy’n ymchwilio i hanes y car (gallwch weld y rhain mewn cylchgronau moduro).
- Os ydych yn prynu oddi wrth ddeliwr, gofynnwch a ydyn nhw wedi defnyddio cwmni sy’n cadw cronfa ddatat ar gyfer y fasnach yn unig fel IMVA a VMC i sicrhau bod y milltiroedd yn gywir.
Ewch drwy’r rhestr gyfeirio isod wrth ichi benderfynu a yw car wedi’i ddefnyddio yn werth ei brynu neu beidio,. Os ydych yn ateb ‘ydy’ neu ‘oes’ i lawer o’r cwestiynau mewn un neu fwy o adrannau, efallai mai troi’ch cefn ar y car fydd orau. Os nad ydych yn teimlo’n hyderus ynghylch gwneud y gwiriadau hyn eich hun, gofynnwch am gyngor gan arbenigydd.
Cyflwr y car
- Ydy’r siliau, pontydd yr olwynion, a gwaelodion y drysau wedi rhydu?
- Ydy’r paent yn dechrau dod i ffwrdd?
- Oes olew yn gollwng neu oes pibau/beltiau gyrru wedi’u difrodi dan y boned?
- Ydy’r teiars wedi’u difrodi neu wedi’u treulio?
- Ydy’r gwregysau diogelwch wedi’u treulio? Ydy’r mowntinau wedi’u difrodi?
- Oes arwyddion bod y seliau o gwmpas y drysau a’r ffenestri yn gollwng dŵr?
- Ydy’r gwaith trydan (y goleuadau, y goleuadau rhybuddio ar y panel clociau) yn ddiffygiol?
Ydy’r car wedi bod mewn damwain?
- Ydy paneli corff y car wedi cael eu trwsio?
- Ydy lliw/teimlad y paent yn anghyson?
- Oes gwaith weldio wedi’i wneud ar yr injan neu ar y gist?
- Ydy’r gist yn cau’n iawn ym mhobman?
- Oes gwaith trwsio wedi’i wneud yn y gist (chwiliwch o dan y carped)?
Ydy marciau adnabod y car wedi cael eu newid?
- Oes rhywun wedi ymyrryd â’r rhif VIN?
- Oes rhywun wedi crafu gwydr oddi ar y ffenestri, y goleuadau blaen, y goleuadau cefn, y to haul?
- Ydy’r VIN cywir wedi’i grafu ar y ffenestri?
- Oes sticeri’n cuddio mannau lle mae’r rhifau ar y gwydr wedi cael eu newid?
Prawf-yrru’r car
(Gwnewch yn siŵr fod gennych chi yswiriant i brawf-yrru’r car)
- Ydy’r brêc yn ddiffygiol?
- Ydy’r car yn tynnu i un ochr wrth ichi frecio?
- Ydy’r brêc yn gwichian?
- Oes unrhyw synau anghyffredin eraill?
- Ydy’r brêc llaw yn ddiffygiol?
- Ydy’r llyw yn siglo/dirgrynu?
- Ydy’r car yn tynnu i un ochr?
- Ydy hi’n anodd newid gêr?
- Ydy’r gêr yn neidio wrth ichi frecio neu gyflymu?
- Ydy’r cydiwr yn crafangu neu’n llithro?
- Ydy’r injan yn swnio’n wahanol os byddwch yn pwyso ar y cydiwr pan fo’r car yn sefyll yn ei unfan a’r injan yn troi’n hamddenol?
- Oes aroglau petrol neu olew cryf?
Ar ôl prawf-yrru’r car
(Agorwch y boned a gadewch i’r injan droi’n hamddenol)
- Ydy’r injan yn ratlo neu’n gwneud rhyw sŵn arall?
- Oes dŵr neu olew yn gollwng?
- Oes mwg glas neu ddu yn dod o’r bibell wacáu (sy’n awgrymu bod yr injan wedi’i threulio’n ddrwg)?
- Oes mwg llwyd yn dod o’r bibell wacáu (sy’n dangos bod dŵr yn gollwng i mewn i’r injan)?
Ydy’r car wedi cael ei glocio?
- Ydy rhifau’r cloc milltiroedd mewn llinell syth?
- Ydy’r olion traul yn drwm, o gofio faint o filltiroedd sydd ar y cloc milltiroedd?
- Ydy’r rwber ar y pedalau/ar fwlyn y gêr/ar y llyw wedi cael ei newid?
- Ydy’r milltiroedd ar y dystysgrif MOT ddiwethaf yn groes i’r hyn sydd ar y cloc milltiroedd?
- Ydy’r milltiroedd ar y dogfennau cynnal-a-chadw yn groes i’r hyn sydd ar y cloc milltiroedd?
- Ydy’r milltiroedd pan gafodd y car ei werthu ddiwethaf yn groes i’r hyn sydd ar y cloc milltiroedd?

