Ewch yn syth i'r cynnwys

Ceir

Gall defnyddio’r rhyngrwyd i brynu car fod yn gyflym a chyfleus, ond mae’n creu peryglon hefyd. Sut gallwch chi fod yn sicr mai’r hyn a welwch chi yw’r hyn a gewch chi? Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich hawliau, darganfyddwch gymaint ag y gallwch am y car a’r deliwr, ac archwiliwch y car yn bersonol cyn ichi dalu’ch arian.

Mae defnyddio’r we i brynu car yn gallu bod yn gyflym ac yn gyfleus, ond gall problemau godi hefyd. Sut gallwch chi fod yn sicr eich bod yn prynu’r hyn rydych yn ei weld ar y wefan? Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau, darllenwch gymaint ag y medrwch ynghylch y car a’r gwerthwr, ac archwiliwch y car yn bersonol cyn talu.

Eich hawliau prynu ar-lein
Wrth brynu car oddi wrth fusnes ar y we, mae eich hawliau yn union yr un peth â’ch hawliau wrth brynu car wyneb yn wyneb. Mewn nifer o amgylchiadau, mae’n bosibl bod gennych hawliau ychwanegol yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu o Bell, sy’n cynnwys prynu ar-lein.

Fodd bynnag, os ydych yn prynu car ail-law ar y we oddi wrth unigolyn, mae eich hawliau yn union yr un peth â’ch hawliau wrth brynu car ail-law wyneb yn wyneb oddi wrth unigolyn.

Os dewch o hyd i gar y dymunwch ei brynu, sicrhewch eich bod yn diogelu eich hun. Awgrymwn eich bod yn mynd i weld y car, yn ystod y dydd os yn bosibl, cyn talu blaendal neu brynu’r car.

Cyngor
Wrth bori’r rhyngrwyd, gwnewch nodiadau o’r hyn sydd ar gael. Cymharwch bethau. Os oes yna lun o’r car, sicrhewch mai dyma’r car sydd ar werth. Mae rhai gwerthwyr yn defnyddio lluniau cynrychiadol yn hytrach na lluniau ‘go iawn’.

Unwaith i chi ddod o hyd i’r car rydych chi eisiau ei brynu, ceisiwch gael cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am y gwerthwr.

Sicrhewch eich bod yn cael eu cyfeiriad daearyddol – bydd ei angen arnoch os bydd gofyn i chi gwyno, ac mae eich hawliau’n amrywio yn ddibynnol ar leoliad y cwmni rydych yn prynu oddi wrtho. Nid yw cyfeiriad gwefan ‘.co.uk’ neu ‘.uk’ yn golygu bob amser bod y cwmni wedi’i leoli yn y DU.


Mae gan wledydd yn yr UE hawliau tebyg i rai’r DU, ond bydd hi’n llawer anoddach i chi ddatrys problemau neu anghydfodau y tu allan i’r UE. Gallech edrych ar wefannau hawliau defnyddwyr llywodraeth y wlad benodol.

Sicrhewch eich bod yn delio â chwmni dibynadwy ac, os yn bosibl, bod y wefan yn un ‘ddiogel’. Yn aml, bydd rhybudd yn ymddangos ar y sgrin pan fyddwch yn ymweld â thudalen ddiogel ac efallai y byddwch yn gweld symbol clo caeedig ar waelod eich sgrin. Golyga logo TrustUK fod y masnachwr wedi cytuno i gydymffurfio â safonau penodol.

Os penderfynwch brynu, argraffwch fanylion y cwmni rydych yn delio ag ef, gan gynnwys y telerau ac amodau, disgrifiad o’r car, y pris a ffurflen archebu wedi’i chwblhau.

Os yw’n bosibl, holwch bobl eraill sydd wedi defnyddio’r cwmni am eu profiadau nhw.

Darllenwch y print mân cyn penderfynu mynd yn eich blaen. Os nad yw gwerthwr ar-lein yn gallu rhoi atebion derbyniol i gwestiynau ynghylch telerau gwarantiad, dosbarthu neu ansawdd y cynnyrch, awgrymwn eich bod yn peidio â mynd yn eich blaen â’r pryniant.

Cyn cwblhau’r broses, awgrymwn eich bod yn talu arbenigwr i archwilio’r car a’ch bod yn cael gwiriad data cerbyd a fydd yn rhoi hanes y car i chi. Gall canlyniadau’r archwiliad a/neu’r gwiriad cerbyd eich helpu chi i benderfynu a ddymunwch barhau, neu drafod pris gwell. 

Talu’n ddiogel
Fel arfer, ni fydd disgwyl i chi dalu cyn derbyn nwyddau. Byddwch yn ofalus iawn os gofynnir i chi wneud hynny. Mae defnyddio cerdyn credyd yn gallu bod yn fanteisiol; e.e. cewch eich diogelu yn erbyn twyll siopa adref, ac os caiff eich cerdyn ei ddefnyddio’n dwyllodrus byddwch yn cael ad-daliad gan y cwmni cerdyn credyd. Mae’n bosibl hefyd bod gennych hawliau os yw busnes y masnachwr yn methu cyn i chi gael y car ac mae’n bosibl eu bod nhw hefyd yn atebol am unrhyw ddiffygion ar ôl i chi brynu’r nwyddau.

Os bwriadwch dalu un ai’r blaendal neu’r cwbl â cherdyn credyd dros y we, gwnewch yn siŵr fod y safle’n ddiogel. Ffoniwch y cwmni os nad ydych yn sicr. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod y blaendal yn ad-daladwy ychwaith; holwch cyn talu unrhyw arian.

Sicrhewch eich bod yn derbyn cadarnhad o’ch archeb trwy’r post, y ffacs neu’r e-bost bob tro. Mae’n ofynnol bod eich cadarnhad yn cynnwys, o leiaf, rhif eich archeb, prif fanylion y cerbyd gan gynnwys y pris y cytunwyd arno, a’r dyddiad dosbarthu disgwyliadwy.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch nwyddau ffug ac nac ydynt yn cwrdd â’ch disgwyliadau, ni chewch unrhyw wasanaeth gwerthu na gwarant, Y pethau ffug mwyaf cyffredin yw dillad dyluynwyr, watshis, persawr, DVDs ac alcohol.

Rhagor o Wybodaeth >