Ceir
Prynu oddi wrth ddeliwr
Prynu car oddi wrth ddeliwr yw’r ffordd fwyaf diogel i brynu, am fod hynny’n rhoi’r amddiffyniad cyfreithiol llawnaf ichi. Ond mae yna ddelwyr amheus, felly dilynwch ein cyngor ni i sicrhau bod eich deliwr yn dilyn cod ymarfer, yn aros o fewn y gyfraith, ac yn rhoi’r cyfan o’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen cyn ichi brynu.
- Dod o hyd i ddeliwr
- Eich hawliau wrth brynu oddi wrth ddeliwr
- Prawf-yrru’r car
- Taro’r fargen
- Cyn ichi lofnodi
Osgowch ddelwyr amheus drwy chwilio am gwmni sydd wedi ennill ei blwyf ac sydd ag enw da. Gofynnwch i’ch ffrindiau roi eu cyngor a chwiliwch am arwydd cymdeithas fasnach, a ddylai olygu bod y deliwr yn dilyn cod ymarfer.
Gall Ffederasiwn y Diwydiant Manwerthu Moduron neu Gymdeithas Masnach Foduron yr Alban roi rhestr ichi o ddelwyr sy’n aelodau o gymdeithas fasnach ac sy’n dilyn cod ymarfer.
Chiliwch am ddeliwr sy’n trefnu bod eu ceir yn cael eu harchwilio gan beiriannydd annibynnol neu un o’r cymdeithasau moduro. Gofynnwch am gael gweld yr adroddiad ar y car yr hoffech ei brynu. Fydd yr adroddiad ddim mor fanwl ag un y byddech chi’n talu amdano eich hun, ond fe fydd gwybodaeth ddefnyddiol ynddo. Neu dewiswch ddeliwr sydd â chynllun sicrhau ansawdd, fel Ford Direct, Rover Approved neu Network Q Vauxhall.
Eich hawliau wrth brynu oddi wrth ddeliwr
Pan fyddwch yn prynu oddi wrth ddeliwr, mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i’r car fod:
- o safon foddhaol. Rhaid iddo fodloni’r safon a fyddai’n dderbyniol ym marn rhywun rhesymol, gan gadw mewn cof sut y cafodd ei ddisgrifio, faint a gostiodd ac oedran a milltiroedd y cerbyd. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn cynnwys golwg a gorffeniad y car, pa mor ddiogel yw’r car ac am faint y mae wedi para. Rhaid i’r car fod yn rhydd rhag diffygion, ac eithrio os yw’r gwerthwr wedi’u dangos ichi.
- yn cyd-fynd â’r disgrifiad. Os yw’r hysbyseb yn dweud “system dymheru a chwaraewr CDs” yna dylai’r rhain fod ar gael yn y car a dylen nhw fod yn gweithio.
- yn rhesymol addas at unrhyw ddiben arferol. Dylai fynd â chi o A i B.
- yn rhesymol addas at unrhyw ddiben arall y byddwch chi’n sôn amdano wrth y gwerthwr, er enghraifft, tynnu carafán.
Dydy yswiriant methiant mecanyddol (sydd yn aml yn cael ei werthu gan ddelwyr os yw gwarantiad y gweithgynhyrchydd wedi dod i ben), gwarant neu warantiad sy’n rhoi diogelwch ychwanegol, ddim yn effeithio ar yr hawliau hyn. Pan fydd masnachwr yn rhoi gwarantiad, mae hynny’n dod yn gytundeb ei hun, ond does dim hawl gyfreithiol gennych i fynnu bod y masnachwr yn rhoi gwarantiad i chi.
Os byddwch chi’n archwilio’r car, neu os bydd rhywun arall yn gwneud hynny ar eich rhan, efallai na fydd y deliwr yn gyfrifol am unrhyw nam y dylai’r archwiliad fod wedi’i weld. Mae’n syniad da cael disgrifiad o gyflwr y cerbyd oddi wrth y deliwr: gofynnwch a oes rhestr gyfeirio ar gael yn sgil yr archwiliad cyn-gwerthu.
Manteisiwch ar y cyfle i yrru’r car ar brawf (bydd rhai delwyr yn gadael ichi yrru car ar brawf dros gyfnod o 48 awr). Mae’r pwyntiau allweddol i chwilio amdanyn nhw yn cynnwys:
- Pa mor gyffyrddus yw’r sedd
- Y gallu i weld i bob cyfeiriad
- Gafael y car ar y ffordd a’r brêc
- Bod y gwregysau diogelwch a’r goleuadau y tu allan yn gweithio’n iawn
Cofiwch fargeinio. Mae disgownt ar gael yn aml, yn enwedig ar fodelau sy’n llai poblogaidd, ond mater i chi yw tynnu’r pris i lawr gymaint ag y gallwch. Efallai y bydd modd cael mwy o ostyngiad drwy dalu ag arian parod, ond efallai hefyd y gallwch drafod gostyngiad drwy drefnu credyd drwy’r gwerthwr. Dydy prynu am bris gostyngedig ddim yn effeithio o gwbl ar eich hawliau cyfreithiol.
Os ydych yn cyfnewid eich hen gar, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw gwerth hwnnw. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael dyfynbris am bris y car ar-y-ffordd sy’n cynnwys TAW, platiau rhif, costau dod â’r car atoch chi a threth.
Os ydych yn fodlon prynu “oddi ar y silff”, heb bethau ychwanegol fel ffenestri trydan neu baent metelaidd, byddwch yn debycach o gael gwell disgownt. Mae angen sicrhau eich bod yn gwybod pa eitemau sy’n cael eu cynnig yn ychwanegol a pha rai sy’n safonol yn y car.
Bydd rhai delwyr yn cynnig cymhellion arbennig i’ch perswadio i brynu, fel yswiriant am flwyddyn, treth car neu warantiad estynedig. Bydd rhai hefyd yn fodlon cyfnewid car newydd, neu gynnig ad-daliad am gar newydd, ar yr amod eich bod yn mynd ag e nôl o fewn amser penodol neu cyn cyrraedd hyn a hyn o filltiroedd. Bydd angen ichi ystyried beth yw gwerth y cynigion hyn i chi. A gwnewch yn siŵr bod gennych chi brawf o’r cynnig.
Cyn ichi ymrwymo i brynu car, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall amodau’r gwerthu yn llawn, y pris am gyfnewid y car sydd gennych yn barod ac unrhyw gytundeb cyllid, gan gynnwys telerau’r blaendal a’r llog a’r opsiynau o ran diogelu’ch taliadau mewn unrhyw gynllun cyllid.
Os nad ydych yn glir am unrhyw ran o’r trefniant, gofynnwch am esboniad. Mynnwch gael hyn mewn ysgrifen os ydych yn dal yn anfodlon. Ar ôl i bopeth gael ei drafod, peidiwch ag ofni dweud bod arnoch eisiau amser i feddwl, neu droi’ch cefn os nad yw’r trefnaint yn iawn i chi.

