Ewch yn syth i'r cynnwys

Ceir

Mae prynu car yn gam mawr, ac mae’n bwysig pwyso a mesur eich anghenion chi cyn dechrau chwilio. Faint ydych chi eisiau ei wario? Ble dylech chi brynu’ch car? Bydd gwneud y penderfyniadau pwysig yma yn eich helpu i osgoi problemau yn nes ymlaen.

Pethau i’w hystyried

Yn gyntaf, penderfynwch beth rydych chi ei eisiau, a faint y gallwch ei fforddio. Cofiwch gynnwys cost yswiriant, MOT, treth, petrol, atgyweirio a chynnal-a-chadw. Os ydych yn codi benthyciad, cofiwch adio’r ad-daliadau a chynnwys unrhyw yswiriant diogelwch.

Peidiwch â rhuthro i wneud penderfyniad. Edrychwch ar gylchgronau ceir a chanllawiau prisiau i weld beth sydd ar gael am y pris rydych chi eisiau ei dalu, ac i weld beth yw gwerth unrhyw gar yr hoffech ei gyfnewid. Hefyd, bydd llawer o gylchgronau i ddefnyddwyr fel “Which?” yn rhoi adolygiadau annibynnol ar geir a allai’ch helpu i benderfynu. Wedyn ewch ati i siopa drwy fynd at ddelwyr i weld beth sydd ganddyn nhw yn eich amrediad prisiau chi. Os nad ydych yn gwybod rhyw lawer am geir, mae’n syniad da mynd â rhywun sy’n gwybod gyda chi.

Chwiliwch am ddelwyr dibynadwy – gofynnwch am gyngor cyfeillion sydd o bosibl wedi cael profiad. Chwiliwch am arwydd cymdeithas fasnach. Dylai hynny olygu bod y deliwr yn dilyn cod ymarfer, megis Cod Ymarfer y Diwydiant Moduron.

Mae rhai o’r pecynnau achub ar gyfer ceir sydd wedi torri i lawr yn cynnig archwiliad am ddim fel rhan o’ch aelodaeth, neu gallech dalu i fecanig proffesiynol neu un o’r cymdeithasau moduro wneud archwiliad annibynnol ichi. Mae’n costio rhwng £100 a £300, ond yn y tymor hir fe allai arbed arian ichi.

Gall Ffederasiwn y Diwydiant Manwerthu Moduron neu Gymdeithas Masnach Foduron yr Alban roi rhestr ichi o ddelwyr sy’n aelodau o gymdeithas fasnach ac sy’n dilyn cod ymarfer.


"Nôl i'r brig

Did you know

I fod yn gyfran amser, rhaid i ddefnyddiwyr dreulio cyfnod penodol (ond heb fod yn llai nag wythnos) mewn eiddo gwyliau bob blwyddyn am dair blynedd neu fwy.

Rhagor o Wybodaeth >