Ewch yn syth i'r cynnwys

Ceir

Fe allech arbed arian drwy brynu’n breifat - ond mae hynny’n fwy o risg na phrynu oddi wrth ddeliwr ceir. Does dim cymaint o ddiogelwch cyfreithiol gennych, ac mae’n gallu bod yn anos sicrhau bod popeth yn ddilys.

Osgoi problemau

 

Dylai prynu’n breifat fod yn rhatach na phrynu oddi wrth ddeliwr. Ond mae’n fwy o risg hefyd: gallai’r car fod wedi’i ddwyn, neu efallai ei fod wedi’i ddefnyddio yn warant ar gyfer benthyciad neu gytundeb llogi, a’i fod yn perthyn mewn gwirionedd i gwmni cyllid. Mae bob amser yn syniad da cwblhau gwiriad HPI ar gar ac fe allai hwnnw ddangos unrhyw geisiadau cyllid neu geisiadau yswiriant sydd wedi’u gwneud ar y cerbyd yn y gorffennol ac sydd heb eu datrys.

 

Mae gennych lai o hawliau cyfreithiol os ydych yn prynu’n breifat. Rhaid i’r car gyd-fynd â’r disgrifiad, ond dydy’r rheolau eraill ddim yn gymwys. Os bydd gwerthwr preifat yn dweud celwydd am gyflwr y car, gallwch ddwyn achos i geisio adennill eich colledion - os gallwch ddod o hyd i’r gwerthwr.

 

Mae rhai delwyr yn cymryd arnyn nhw eu bod yn gwerthu’n breifat er mwyn osgoi eu cyfrifoldebau cyfreithiol ac i geisio cael gwared ar geir sydd â nam neu geir sydd â phris rhy ddrud arnyn nhw. Maen nhw’n hysbysebu mewn papurau lleol a ffenestri siopau. Mae’r arwyddion rhybuddio i chwilio amdanyn nhw yn cynnwys:

  •  Hysbysebion sy’n rhoi rhif ffôn symudol neu sy’n dweud pryd yn union i ffonio (fe allai fod yn gaban ffonio cyhoeddus, nid cartref y gwerthwr).
  •  Bod yr un rhif ffôn i’w weld ar sawl hysbyseb.
  •  Pan fyddwch yn ffonio i ofyn am y car, fod y gwerthwr yn gofyn “Pa un?”
  •  Bod y gwerthwr am ddod â’r car atoch chi, neu gwrdd â chi rywle, yn hytrach na’ch bod chi’n mynd i gartref y gwerthwr.
  • Os yw’n ymddangos bod llawer o geir ar werth yn y stryd ar ôl ichi gyrraedd cartref y gwerthwr.
  • Os yw’r gwerthwr yn ddeliwr mewn gwirionedd, yna bydd eich hawliau cyfreithiol llawn yn gymwys.

"Nôl i'r brig

Did you know

Os bydd rhywbeth yn bod ar ddyfais drydanol yn yr ychydig fisoedd o’i phrynu, dylech fynd yn ôl at y manwerthwr a werthodd yr eitem i chi ( nid y gwneuthurwr).

Rhagor o Wybodaeth >