Ewch yn syth i'r cynnwys

Ceir

Fe allwch chi gael bargen mewn ocsiwn, ond mae’n debyg mai ocsiwn yw’r ffordd fwyaf peryglus o brynu car wedi’i ddefnyddio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth rydych chi’n chwilio amdano, yr hyn y gallwch ei fforddio a sut mae’r ocsiwn yn gweithio cyn ichi ymrwymo i wneud cynnig.

Yr hyn y mae angen ichi ei wybod

Gall ocsiwn ceir fod yn dda os ydych chi’n chwilio am fargen, ond mae gofyn ichi wybod beth rydych chi’n ei wneud. Efallai yr hoffech chi fynd i wylio i ddechrau, i gael gweld beth sy’n digwydd.

Os nad ydych yn gwybod llawer am geir, ewch â rhywun sy’n gwybod. Penderfynwch ar yr uchafswm y gallwch ei fforddio a chadwch ato. Bydd y ffurflen ar y ffenestr flaen yn rhoi syniad o hanes y car ichi.

Efallai na fydd eich hawliau cyfreithiol arferol yn gymwys os yw’r gwerthwr yn rhoi nacâd, er enghraifft yr ymadrodd “ar werth fel y’i gwelir”, sy’n cau allan y cyfan neu rai o’r hawliau hynny. Darllenwch amodau busnes yr ocsiwn yn ofalus i weld a ydy hynny’n wir.


"Nôl i'r brig

Did you know

Os prynwch nwyddau ffug ac nac ydynt yn cwrdd â’ch disgwyliadau, ni chewch unrhyw wasanaeth gwerthu na gwarant, Y pethau ffug mwyaf cyffredin yw dillad dyluynwyr, watshis, persawr, DVDs ac alcohol.

Rhagor o Wybodaeth >