Ewch yn syth i'r cynnwys

Adeiladu ac atgyweirio'r cartref

Os ydych chi’n cael gwaith adeiladu neu waith gwella ar eich cartref, mae’n gallu bod yn anodd gwybod a yw’r cwmni neu’r contractiwr yn codi tâl rhesymol ac yn rhoi gwasanaeth rhesymol. Dilynwch ein canllawiau ni i sicrhau y cewch y canlyniadau rydych chi’n chwilio amdanyn nhw.

Back to top

Cytunwch ar bethau ymlaen llaw

  • Mynnwch gael dyfynbris a chontract ysgrifenedig sy’n cynnwys y gwaith, y pris, y trefniadau talu a’r dyddiadau dechrau/gorffen.
  • Cyn ichi wneud unrhyw daliad terfynol, gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon bod y gwaith wedi’i wneud yn iawn a’i fod yn bodloni telerau’r contract.
  • Byddwch yn amheus os bydd y masnachwr yn sydyn yn codi arnoch am gostau ychwanegol. Os ydych wedi cytuno ar bris am y gwaith ymlaen llaw, ddylech chi ddim gorfod talu am ddim byd ‘ychwanegol’. Peidiwch â theimlo’n lletchwith wrth ofyn am dderbynebau.
  • Weithiau fe fydd angen gwaith ychwanegol yn annisgwyl, ond cytunwch ar y costau ychwanegol yma mewn ysgrifen cyn i’r gwaith ychwanegol ddechrau.

Back to top

Talu

  • Ceisiwch osgoi talu blaendal, yn enwedig blaendal mawr, a pheidiwch byth â thalu’r swm cyfan ymlaen llaw. Mae yna berygl y gallai’r masnachwr ddiflannu gyda’ch arian a bydd llai o ddylanwad gennych dros gwblhau’r gwaith, ansawdd y gwaith ac ati.
  • Dylech geisio cadw digon o arian yn ôl bob tro i gadw pwysau ar y masnachwr i fwrw ymlaen â’r gwaith a’i gwblhau’n iawn.
  • Ond byddwch yn deg ynghylch cwblhau’r gwaith: talwch yn brydlon os yw popeth yn y contract wedi’i gwblhau’n foddhaol.

Mynnwch gael y gwaith papur a’i gadw

Mynnwch anfoneb, gan gynnwys TAW, a gofynnwch am dderbynneb, wedi’i llofnodi, am bob taliad. Cadwch bob anfoneb a phob derbynneb.

Talwch y cwmni

Peidiwch â thalu adeiladwr unigol. Talwch i’r cwmni yn wastad.

Wrth dalu ar gredyd

  • Os oes gennych unrhyw fath o gytundeb credyd, meddyliwch yn ofalus a chymerwch gyngor cyfreithiol cyn dal taliadau’n ôl, oherwydd fe allai hyn effeithio ar eich cyfraddiad credyd yn y dyfodol.
  • Os ydych wedi talu â cherdyn credyd neu os yw’r gwaith yn cael ei ariannu drwy gyfrwng cytundeb credyd sydd wedi’i drefnu gan y masnachwr, mae’r benthyciwr yn gyd-atebol gyda’r masnachwr am unrhyw beth sy’n torri’r contract (os yw’r gwaith yn costio rhwng £100 a £30,000). Os bydd anghydfod, dywedwch wrth y benthyciwr. Gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth.

"Nôl i'r brig

Did you know

Mae’n bosibl y bydd manwerthwyr trydanol yn ceisio gwerthu gwarantiad estynedig i chi. Os prynwch un, mae gennych 45 diwrnod i ganslo rhag ofn i chi newid eich meddwl.

Rhagor o Wybodaeth >