Offer trydan a nwy
Meddwl prynu eitem drydan, neu gyfarpar nwy? Darllenwch ragor er mwyn dysgu popeth am eu prynu, eu cynnal a’u ffitio.
Os byddwch yn prynu offeryn trydan neu nwy, rhaid iddo fod o ansawdd foddhaol, yn addas at ei ddiben ac yn cyd-fynd â’r disgrifiad.
Os nad yw eitem yn bodloni un neu rai o’r amodau yma:
- Os mai dim ond ambell waith rydych chi wedi’i ddefnyddio neu os nad ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n debyg bod gennych chi hawl i gael ad-daliad ar gyfer nam neu ddisgrifiad gwael, neu fel arall gallech ofyn am un arall yn ei le.
- Os mai mân wall yn unig sydd yna a bod modd ei gywiro’n hawdd, mae’n rhesymol derbyn atgyweiriad. Fydd hynny ddim yn eich atal rhag hawlio un newydd neu ad-daliad os yw’r gwaith trwsio yn anfoddhaol wedyn.
- Os ydych chi wedi’i ddefnyddio mwy nag ambell waith neu os ydych chi wedi cael cyfle rhesymol i edrych arno, mae’n dal yn debyg y bydd gennych chi hawl i gael ei drwsio neu i gael un arall. Dylai’r gwaith trwsio gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol o amser a heb beri anghyfleuster arwyddocaol ichi. Dylai unrhyw waith trwsio adfer yr offeryn i gyflwr boddhaol. Os nad yw hynny’n digwydd, mae gennych hawl i gael un newydd neu iawndal. Gallai hynny fod yn swm o arian, neu gost llogi offeryn arall dros dro, neu efallai rhoi benthyg offeryn arall yn ei le.
- Os nad oes modd cael offeryn newydd neu os nad yw’n ddarbodus trwsio’r offeryn, mae gennych hawl i gael ad-daliad. Gall y masnachwr dynnu rhywfaint oddi ar y pris a daloch chi, i ganiatáu am y defnydd gawsoch chi ar y nwyddau.
- Os yw’r nwyddau wedi difrodi unrhyw beth arall, neu os ydych chi wedi colli arian mewn rhyw fodd arall, efallai y bydd gennych chi hawl i gael iawndal yn ychwanegol at bris y nwyddau gwreiddiol.
Y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem, nid y gweithgynhyrchydd
Cofiwch: os oes gennych hawl i gael ad-daliad, offeryn newydd, atgyweiriad neu iawndal, y masnachwr sy’n gorfod datrys eich problem. Chaiff y masnachwr ddim dweud wrthoch am fynd yn ôl at y gweithgynhyrchydd.
Pethau pwysig i’w cadw mewn cof
- Os ydych chi wedi prynu ar gredyd, efallai y bydd modd gwneud cais yn erbyn y cwmni cyllid. Gweler Prynu ar gredyd? i gael rhagor o wybodaeth
- Mae gennych chi saith diwrnod gwaith i ganslo contract am nwyddau sydd wedi’u harchebu dros y ffôn, drwy’r post, y rhyngrwyd, yr e-bost neu’r ffacs, ac eithrio’r nwyddau hynny sy’n cael eu gwneud yn unswydd ar gyfer eich archeb chi. Gweler Dychwelyd neu ganslo archebion i gael rhagor o wybodaeth.
- Mae angen defnyddio unrhyw nwyddau trydan ac unrhyw offer nwy a gofalu amdanyn nhw yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau.
- Dydy traul deg ddim yn nam.
- Os oes nwy yn gollwng, dylech roi gwybod ar unwaith i Transco ar 0800 111 999.
- Am resymau diogelwch, dylai pob offeryn nwy gael ei osod gan osodwr cofrestredig yn unig, sef gosodwr sydd wedi’i gofrestru gan Corgi o bosibl.
Gweler Mynnwch wybod eich hawliau - Offer trydan a nwy i gael gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud os bydd yna broblem gyda’r nwyddau rydych chi wedi’u prynu.

