Ewch yn syth i'r cynnwys

Pethau i feddwl amdanyn nhw

Telerau annheg mewn contractau

Ar ôl ichi lofnodi contract, hwyrach eich bod yn meddwl ei fod yn gyfrwymol o safbwynt y gyfraith, beth bynnag fydd yn digwydd. Ond os bernir bod y telerau yn y contract yn annheg, efallai na fyddwch wedi cael eich rhwymo.

Back to top

Rheoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr (UTCCRs)

Fel defnyddwyr, rydych yn cael eich diogelu rhag telerau safonol annheg mewn contractau y byddwch yn eu gwneud gyda masnachwyr gan Reoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr (UTCCRs).

Gall yr UTCCRs eich diogelu rhag telerau sy’n lleihau’ch hawliau statudol neu’ch hawliau cyfraith gyffredin, a rhag telerau sy’n ceisio gosod beichiau annheg arnoch sy’n ychwanegol at reolau cyffredin y gyfraith.

Dydy teler annheg mewn contract sy’n dod o dan yr UTCCRs ddim yn eich rhwymo chi.

Mae gwybodaeth am bwerau’r OFT i weithredu o dan y Rheoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr i’w chael yn www.oft.gov.uk

Back to top

Telerau annheg mewn contractau - beth yw teler annheg?

Dydy teler annheg mewn contract sy’n dod o dan y Rheoliadau Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr (UTCCRs) ddim yn eich rhwymo chi.

Prawf tegwch

Mae teler yn annheg os yw:

  • yn groes i ofynion didwylledd, yn creu anghydbwysedd arwyddocaol yn hawliau a rhwymedigaethau’r partïon o dan y contract, a hynny ar draul y defnyddwyr.

Ystyr 'didwylledd’ yw bod rhaid i fasnachwyr ddelio â chi yn deg ac agored.

Er bod telerau safonol yn gallu cael eu drafftio er mwyn diogelu anghenion masnachol, mae’n rhaid hefyd iddyn nhw gymryd eich buddiannau a’ch hawliau chithau i ystyriaeth, drwy beidio â gwneud mwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i ddiogelu’r buddiannau masnachol dilys hynny.

[anchorlist Gofyniad iaith glir]Gofyniad iaith glir

Yn ôl yr UTCCRs, mae’n rhaid i deler safonol gael ei fynegi mewn iaith glir a dealladwy. Mae teler yn agored i gael ei herio os gallai eich gosod o dan anfantais am nad ydych yn glir beth yw ei ystyr – hyd yn oed pe gallai ei ystyr gael ei deall gan gyfreithiwr. Os oes amheuaeth beth yw ystyr teler, yr ystyr fwyaf ffafriol i’r defnyddiwr fydd yn gymwys.


Back to top

Pa delerau sydd heb eu cynnwys o dan y Rheoliadau

Mae’r UTCCRs yn cynnwys y mwyafrif o delerau safonol. Yr eithriadau yw’r telerau hynny:

  • sy’n adlewyrchu darpariaethau sy’n gorfod cael eu cynnwys mewn contractau yn unol â’r gyfraith
  • sydd wedi’u negodi yn unigol
  • mewn contractau rhwng busnesau
  • mewn contractau rhwng unigolion preifat
  • mewn contractau penodol na fydd pobl yn eu gwneud fel defnyddwyr; er enghraifft, contractau sy’n ymwneud â chyflogaeth neu sefydlu busnes
  • mewn contractau a gafodd eu gwneud cyn 1995.

Back to top

Telerau sy’n gosod pris neu sy’n diffinio’r cynnyrch neu’r gwasanaeth

Mae telerau mewn contractau defnyddwyr sy’n pennu’r pris neu sy’n diffinio’r cynnyrch neu’r gwasanaeth sy’n cael eu cyflenwi yn ‘delerau craidd’ yn y contract. Maen nhw wedi’u hepgor o’r prawf tegwch, ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofyniad ynghylch iaith glir.

Back to top

Canllawiau

Mae’r OFT yn cynhyrchu canllawiau ar delerau annheg mewn contractau defnyddwyr, ar gyfer defnyddwyr a busnesau.

Gellir archebu cyhoeddiadau oddi wrth y Swyddfa Masnachu Teg

 


 


"Nôl i'r brig

Did you know

Os gwelwch chi nam ar eitem drydan yn y misoedd cyntaf ar ôl ei phrynu, dylech fynd nôl at y manwerthwr a’i gwerthodd i chi (nid at y gweithgynhyrchydd).

Rhagor o Wybodaeth >